Dewislen
English
Cysylltwch

Mae Dafydd ap Gwilym, Waldo Williams, Kate Roberts, Hedd Wyn, Gwyn Thomas, Eifion Wyn, Daniel Owen, Dewi Prysor, Fflur Dafydd, Llwyd Owen, ac Angharad Price i gyd wedi eu hysbrydoli gan rannau penodol o dirwedd Cymru, ac wedi ysgrifennu am y tirlun a’u hysbrydolodd, a bro eu mebyd neu’r ardaloedd lle buont yn byw.

O Fôn i Fynwy, o gopa’r Wyddfa i ddinas Caerdydd, o Ynys Enlli i Bwllderi, o Gwm Pennant i Ystrad Fflur, mae Cymru yn llawn lleoliadau hudolus, sy’n dod yn fyw yng ngeiriau ei hawduron.

 

“…Yn llif y nant; yng ngoleddf y mynydd; yn y blagur a’r blodau; yn nyfodiad gwenoliaid i’r murddun ym mis Mai; yng nghylch y tymhorau ac yng ngweithgaredd tymhorol y fferm; yng ngeni’r ŵyn; yng nghneifio’r defaid; yn lladd y gwair a’i fedi; yn nhorri’r rhedyn ar lethrau Foel Dinas a’r Foel Bendin.

Ceisiais weld fy mharhad yn llonyddwch digyfnewid cwm Maesglasau. …”

Dyfyniad o gyfrol O! tyn y gorchudd (Gomer, 2002) gan Angharad Price

 

Mae Llenyddiaeth Cymru yn gweithredu fel asiantaeth twristiaeth cenedlaethol Cymru. Rydym yn gweithio i sicrhau bod awduron o Gymru yn fwyfwy amlwg ar lwyfan bydeang, ac yn buddsoddi yn ein economïau creadigol a chefn gwlad. Rydym yn mynd ag ymwelwyr i galon tirwedd llenyddol Cymru, yn cynllunio profiadau sy’n cynnig cyfuniad grymus, sef barddoniaeth, rhyddiaith, bwyd, diod a lleoliadau gorau Cymru.

 

Dim ond lleuad borffor

ar fin y mynydd llwm.

A sŵn hen afon Prysor

yn canu yn y cwm.

Darn o ‘Atgof’ gan Ellis Evans (Hedd Wyn)

 

Mae llawer o’n gwaith mewn partneriaeth gyda chyrff cenedlaethol eraill megis Cadw, awdurdodau’r parciau cenedlaethol, Visit Wales, Amgueddfa Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Rydym yn cynnig:

  • Gwybodaeth a chyngor yn rhad ac am ddim i’r rhai hynny sy’n cynllunio eu hanturiaethau llenyddol eu hunain
  • Cynllunio teithiau llenyddol arbenigol wedi’u teilwra ar gyfer cwmnïau teithio neu grwpiau preifat
  • Cefnogaeth, arweiniad a phartneriaeth ar gyfer prosiectau twristiaeth lenyddol sefydliadau neu gyrff eraill

 

Cysylltwch â ni os hoffech drafod ein gwasanaethau ymhellach: 029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org 

Nôl i Archif Prosiectau