Dewislen
English
Cysylltu

Llyfr y Flwyddyn 2019: Gwobr Driphlyg i Manon Steffan Ros

Yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth nos Iau 20 Mehefin, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mai Llyfr Glas Nebo (Y Lolfa) gan Manon Steffan Ros yw Llyfr y Flwyddyn 2019.

Gwahoddwyd Manon Steffan Ros i’r llwyfan yn gyntaf i gasglu Gwobr Barn y Bobl Golwg360, yna i dderbyn Gwobr Ffuglen Prifysgol Aberystwyth, cyn dychwelyd eto i dderbyn prif Wobr y noson sef £4,000 a thlws wedi’i gynllunio a’i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones. Cyflwynwyd y Wobr i Manon gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC. 

Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn un tra lwyddiannus i Manon, gan iddi gael ei henwi’n Brif Lenor Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 wedi iddi gipio’r Fedal Ryddiaith gyda Llyfr Glas Nebo, ac ym mis Mai 2019 fe gyhoeddwyd fod ei nofel Fi a Joe Allen (Y Lolfa) wedi ennill categori Uwchradd Gwobr Tir na n-Og.

Cliciwch yma i ddarllen y stori yn llawn.

 

Gallwch weld holl enillwyr Llyfr y Flwyddyn 2019 a gwybodaeth am y cyfrolau isod:

Prif Wobr Cymraeg Llyfr y Flwyddyn 2019

Llyfr Glas Nebo, Manon Steffan Ros (Y Lolfa)

Enillodd hefyd:

Gwobr Ffuglen Prifysgol Aberystwyth

Gwobr Barn y Bobl Golwg360

 

“Gafaelodd y nofel hon ynof o’r frawddeg gyntaf” – Manon Rhys

Dyma stori ryfeddol Siôn, a orfodwyd i dyfu’n ddyn yn sydyn iawn, ei fam Rowenna, a’i chwaer fach, Dwynwen. Mae’r hanes hynod wedi’i gofnodi mewn llyfr nodiadau glas wrth geisio goroesi ar ôl Y Terfyn – yr hunllef a gafodd effaith ddychrynllyd ar drigolion pentref Nebo a thu hwnt. Enillydd y Fedal Ryddiaith 2018

 

Mae MANON STEFFAN ROS yn awdur, dramodydd ac awdur gêmau llawn amser. Mae wedi ysgrifennu dros ugain o lyfrau, ac wedi ennill Gwobr Tir nan-Og tairgwaith (Trwy’r Tonnau yn 2010; Prism yn 2012 a Pluen yn 2017). Mae’n dod o Riwlas, Dyffryn Ogwen, yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Nhywyn.

Gwobr Farddoniaeth

Cyrraedd a Cherddi Eraill, Alan Llwyd (Cyhoeddiadau Barddas)

“bardd sy’n ceisio cynnal fflam ei weledigaeth mewn byd llawn croeswyntoedd” – Dafydd John Pritchard, adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

 

Cyfrol o gerddi a luniwyd rhwng 2016 a 2018 yw Cyrraedd a Cherddi Eraill. Ceir dwy adran i’r gyfrol. Yn yr adran gyntaf, ‘Cyrraedd’, ceir ychydig dros 70 o gerddi sy’n dathlu’r ffaith fod yr awdur wedi cyrraedd 70 oed – oed yr addewid. Cerddi bywgraffyddol a phersonol yw’r rhain, i raddau, cerddi sy’n gorfoleddu ac yn galaru, yn llawenhau ac yn tristáu wrth edrych yn ôl ar droeon y daith. Ceir yma amrywiaeth o fesurau, gyda’r gynghanedd yn rhoi min i’r mynegiant a gorffennedd i’r arddull. Trwy’r cyfan, ac yn gefnlen i’r cyfan, y mae’r môr yn bresenoldeb amlwg, un ai fel rhan naturiol o ddaearyddiaeth y cerddi, neu fel delweddau neu symbolau. Cerddi achlysurol, rhai’n bersonol a rhai’n gymdeithasol, a geir yn ail adran y gyfrol.

 

Mae’r Prifardd ALAN LLWYD yn fardd ac yn llenor adnabyddus. Cyhoeddodd nifer helaeth o gyfrolau o farddoniaeth, gan gynnwys dau gasgliad cyflawn, yn ogystal â blodeugerddi, cyfrolau o feirniadaeth lenyddol, cyfrolau ar hanes a diwylliant Cymru a chyfrolau arbenigol ar y gynghanedd. Enillodd y Gadair a’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Clwyd ym 1973, ac eto yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi ym 1976. Bu’n gweithio fel swyddog gweinyddol Barddas, y Gymdeithas Gerdd Dafod a hefyd fel golygydd y cylchgrawn o 1981 hyd 2011. Yn 2012 dyfarnodd Prifysgol Cymru radd Doethuriaeth mewn Llên iddo, ac fe’i penodwyd yn Athro yn Academi Hywel Teifi, Coleg y Celfyddydau a Dyniaethau, Prifysgol Abertawe, yn 2013.

Gwobr Ffeithiol Greadigol

Cymru mewn 100 Gwrthrych, Andrew Green (Gwasg Gomer)

“dyma lyfr neilltuol o hardd yn llawn o hanes Cymru.” – Gerald Morgan, adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

 

Cyfrol yw hon sy’n crisialu hanes Cymru mewn cant gwrthrych. Llawfwyell Ogof Pontnewydd, arfbais Owain Glyndŵr, yr het Gymreig, record cyntaf Catatonia – mae’r ystod yn eang ac yn amrywiol o ran cyfnod ac ardal, a’r casgliad wedi’i guradu’n grefftus gan Andrew Green. Wrth osod y gwrthrychau yn eu cyd-destun dynol, cawn hanesion y tywysogion, y terfysgwyr a’r tlodion, eu brwydrau a’u bywydau bob dydd, a’r cyfan yn cyd-blethu’n gelfydd ac yn ein tywys ar hyd llwybr Cymru fel cenedl. Mae lluniau godidog Rolant Dafis yn destament i bŵer ffotograffiaeth a’i gallu i adrodd stori. Camp y gyfrol yw ei bod yn berthnasol I ni heddiw, y gwrthrychau yn hygyrch I bawb, ac i’w gweld yn rhad ac am ddim ar draws Cymru.i’w tranc, a llawer iawn o’r bechgyn hynny ymhlith meibion mwyaf galluog eu cenedl?

 

Ganed ANDREW GREEN yn 1952 yn Stamford, Swydd Lincoln ac fe’i fagwyd yn Ne Swydd Efrog. Aeth i Queen Elizabeth Grammar School, Wakefield ac astudiodd y Clasuron yn Gonville & Caius College, Caergrawnt cyn dod i Gymru i hyfforddi fel llyfrgellydd academaidd yn 1973. Gweithiodd yn llyfrgelloedd prifysgolion yn Aberystwyth, Caerdydd, Sheffield ac Abertawe lle gweithiodd fel cyfarwyddwr y llyfrgell a gwasanaethau gwybodaeth.

Prif Wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2019

Insistence, Ailbhe Darcy (Bloodaxe Books Ltd.)

Enillodd hefyd:

Wobr Farddoniaeth Roland Mathias

 

“operatig, meidrol, bythgofiadwy.”Sandeep Parmar, beirniad Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019

Dylai plentyn newydd olygu gobaith newydd. Ond beth os nad yw hynny’n wir bellach? Mae ail gasgliad Ailbhe Darcy yn datblygu mewn byd cyfarwydd, lle mae’r geiriau cartref a chariad yn amgylchynu’r cymeriadau ynddi. Ond mae’r byd cyhoeddus yn bygwth y byd preifat. Mae Insistence, a ysgrifennwyd yn ‘Rust Belt’ America, mewn cyfnod o newid hinsawdd a therfysg, yn myfyrio ar gyfrifoldebau’r rhieni i’w plentyn, cyfrifoldeb y bardd i’r darllenydd, a pa mor fregus yw’r unigolyn wrth wynebu argyfwng byd-eang.

Cafodd AILBHE DARCY ei geni a’i magu yn Nulun. Astudiodd am ei doethuriaeth ac MFA ym Mhrifysgol Notre Dame yn yr UDA, a bu’n dysgu yn  Westfälische Wilhelms- Universität Münster yn yr Almaen. Mae nawr yn ddarlithydd mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gwobr Ffuglen Saesneg Prifysgol Aberystwyth

West, Carys Davies (Granta Publications)

Holl rym moel ac uniongyrchedd chwedl neu lên gwerin…awdur â thalent enfawr.” – Colm Toibin

 

Pan mae Cy Bellman, ymsefydlwr yn America, gŵr gweddw a thad Bess, yn darllen am esgyrn anferth sydd wedi eu darganfod mewn cors yn Kentucky, mae’n gadael ei fferm fechan a’i unig ferch yn Pennsylvania er mwyn darganfod a yw’r sibrydion yn wir: fod yr angenfilod enfawr yn dal i fod yn fyw ac yn troedio tiroedd gwylltion y tu hwnt i Afon Mississippi.

West yw stori siwrne Bellman yn ogystal â Bess, sy’n aros gartref i’w thad ddychwelyd. Gydag ysgrifennu tyner a meddwl hudol, mae’n archwilio dewrder argyhoeddiad, grym trawsnewidiol galar, awch am wybodaeth a sut y mae adref yn galw rhywun yn ôl.

 

Mae straeon byrion CARYS DAVIES wedi eu cyhoeddi mewn cylchgronnau ac antholegau niferus ac wedi eu darlledu ar BBC Radio 4. Maent wedi ennill y Jerwood Fiction Uncovered Prize, y Society of Authors’ Olive Cook Award, y Royal Society of Literature’s V S Pritchett Prize, a Northern Writers’ Award, ac fe enillodd ei hail gasgliad, The Redemption of Galen Pike, y Frank O’Connor International Short Story Award 2015.

Gwobr Ffeithiol Greadigol Saesneg

Moneyland, Oliver Bullough (Profile Books)

“Dylai pob gwleidydd a phawb sy’n gwneud bywoliaeth o arian ar y blaned ei ddarllen, ond wnawn nhw ddim gan mai amdanyn nhw mae’r gyfrol” John le Carre

 

2019: mae democratiaeth yn troi ei hun tu chwith allan, mae anghydraddoldeb yn tyfu ar ras, mae’r system ar dorri. Pam?

Oherwydd yn 1962, cafodd ambell fancwr yn Llundain syniad a newidiodd y byd. Y syniad hwnnw oedd ‘offshore’. Roedd yn golygu fod lladron, am y tro cyntaf erioed, yn gallu cael breuddwydion mawr. Gallent gymryd popeth.

Ymunwch â’r newyddiadurwr archwiliadol, Oliver Bullough, ar siwrne i fyd cuddiedig y kleptocrats byd-eang newydd. Cewch weld gwledydd tlawd lle caiff arian cyhoeddus ei ddwyn a’r rhai cefnog lle caiff ei fuddsoddi a’i guddio. Gwyliwch y dihirod wrth eu gwaith ac wrth iddynt chwarae, a dewch i gyfarfod eu galluogwyr yn eu crysau crand. Dysgwch sut y mae’r system yn gweithio, a dewch i ddarganfod sut y gallwn fynd i’r afael ag o.

 

Mae OLIVER BULLOUGH yn awdur dau lyfr ffeithiol greadigol am hanes a gwleidyddiaeth Rwsia: The Last Man in Russia (Allen Lane, 2013), a gyrhaeddodd restr fer y Dolman Prize a Let Our Fame Be Great (Allen Lane, 2010), a gyrhaeddodd restr fer yr Orwell Prize yn y Du ac a enillodd y Cornelius Ryan yn yr UDA. Cyhoeddir ei erthyglau yn rheolaidd yn y Guardian, y New York Times a GQ.

Gwobr Barn y Bobl Wales Arts Review

Gen, Jonathan Edwards (Seren)

‘Dyma gerddi ar gyfer y llefydd a’r cyfnod lle rydym yn byw. Maent yn canu yn iaith nawr…Gallwn oll ddysgu wrth i ni ymhyfrydu yn y gyfrol hon’  – Gillian Clarke

 

Mae Gen yn lyfr o lewod a rocwyr, partïon stryd a gweinyddion, postmyn a lleisiau. Yn y gyfres agoriadol sy’n archwilio ieuenctid a dyndod ifanc, mae’r awdur yn gosod ei fagwraeth yn y cymoedd ochr yn ochr ag ieuenctid ei rieni yn y 50au a phrofiadau amryw o eiconau diwylliannol megis Kurt Cobain a Harry Houdini. Mae cerddi eraill yn archwilio hanes Cymru, ac mae’r casgliad yn cloi gyda detholiad o gerddi cariad – rhai’n ddigri a rhai yn ddidwyll. Gyda’i hiwmor, cynhesrwydd, rhychwant a’i swyn nodweddiadol, mae’r awdur yn darparu dilyniant arbennig i’w gasgliad arobryn cyntaf.

 

Enillodd cyfrol gyntaf JONATHAN EDWARDS’S, My Family and Other Superheroes, y Costa Poetry Award a’r Wales Book of the Year People’s Choice Award. Cyrhaeddodd hefyd restr fer y Fenton Aldeburgh First Collection Prize. Mae wedi darllen ei gerddi ar radio a theledu’r BBC, wedi eu recordio ar gyfer y Poetry Archive, ac wedi arwain gweithdai mewn ysgolion, prifysgolion a charchardai. Mae’n byw ym Mhont-y-cymer ac yn gweithio fel athro.

Nôl i Gwobr Llyfr y Flwyddyn