Dewislen
English
Cysylltu

Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2020

Barddoniaeth

Hwn ydy’r llais, tybad? - Caryl Bryn (Cyhoeddiadau’r Stamp)

Dyma gyfrol gyntaf Caryl Bryn. Mae’n gasgliad sydd yn chwilio’n barhaus – yn swigod y noson gynt ac yn lludw’r bore wedyn; trwy ffenestri Bangor Uchaf, ar blatfformau trên yn Lerpwl ac ar draethau Gorllewin Cymru. Mae’n gyfrol sydd yn ymdrin yn grefftus â galar, serch ac ieuenctid. Maent yn ddarnau o lenyddiaeth fydd yn aros yn hir yn y cof, ac yn gwneud i ninnau holi, ‘tybad?’

 

Daw CARYL BRYN yn wreiddiol o Borth Amlwch yn Môn, ond y mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon. Bu iddi gyhoeddi cyfrol o gerddi, Hwn ydy’r llais, tybad? dan faner Cyhoeddiadau’r Stamp yn 2019. Bu iddi ymgymryd â Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru yn 2018 a derbyn Ysgoloriaeth Gerallt yn 2019. Yn yr un flwyddyn, daeth yn drydydd am Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a’r Fro. Mae’n gyfrannydd cyson i gylchgronnau Y Stamp, Barddas a Barn, ac yn mwynhau cymdeithasu a threulio amser gyda’i chath, Grês Elin.

Pentre Du, Pentre Gwyn - Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)

Mae Pentre Du yn enw ar ran o Fetws-y-coed yn Nyffryn Conwy. Yn y gaeaf, dydyn nhw ddim yn gweld yr haul yno – lle cil-haul, barugog. Ym mhen arall Betws-y-coed mae Pentre Gwyn. Yno, wrth ymyl hen eglwys Llanfihangel, mae pelydrau cyntaf y dydd yn taro. Dydi’r enwau ddim ar arwyddion yno erbyn hyn, ond mae’r llefydd yn bod o hyd. Dyma gasgliad o gerddi diweddaraf Myrddin ap Dafydd wedi’i ddylunio’n gain gan Olwen Fowler.

 

Bardd a chyhoeddwr o Lanrwst yn wreiddiol ac yn byw yn Llwyndyrys, Llŷn ers 20 mlynedd ydi MYRDDIN AP DAFYDD. Enillodd gadeiriau cenedlaethol ac ef oedd Bardd Plant cyntaf Cymru yn 2000. Sefydlodd Wasg Carreg Gwalch yn Llanrwst yn 1980 gan gyfrannu nifer o gyfrolau amrywiol i’w rhaglen. Ar hyn o bryd mae’n Archdderwydd Cymru.

Ar Ben y Lôn - Idris Reynolds (Gwasg Gomer)

Mae Ar Ben y Lôn yn daith o gwmpas gorllewin Cymru sy’n cyflwyno cymeriadau, llefydd, digwyddiadau, a theimladau’r bardd ar amryw bynciau’r dydd. Mae’r casgliad yn cynnwys cerddi sy’n talu teyrnged i enwogion fel Ray Gravell, ac Elin Jones AC, ac yn ymateb i sefydliadau adnabyddus megis Radio Sir Gâr, a Chanolfan Iaith Aberystwyth. Yn ogystal, mae’n dathlu’r pethau hynny sy’n cyfoethogi cymdeithas gan gynnwys chwaraeon a ffrindiau agos.

 

Mae’r Prifardd IDRIS REYNOLDS yn fardd toreithiog ac yn awdur nifer o gyfrolau am feirdd a barddoniaeth. Mae wedi ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy waith, yn 1989 ac 1992, ac fe enillodd ei gyfrol Cofio Dic wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2017. Mae’n byw ym mhentref Brynhoffnant gyda’i wraig Elsie.

Ffeithiol Greadigol

Merched y Chwyldro – Merched Pop Cymru’r 60au a’r 70au - Gwenan Gibbard (Cyhoeddiadau Sain)

Cyfrol o atgofion, straeon, lluniau a chaneuon gan ferched pop Cymru’r 60au a’r 70au, o gyfnod cyffrous y 60au cynnar, pan oedd y pops Cymraeg yn newydd sbon, i fwrlwm blynyddoedd olaf y 60au ac ymlaen at ddatblygiadau ac arddulliau gwahanol y 70au. Y teithio, y cystadlu, y ffasiwn, y cyfansoddi, y diddanu, y canu, ac, wrth gwrs, y mwynhau – roedd y cyfan yn rhan annatod o fywydau merched pop y cyfnod. Yma ceir cofnod o’u gweithgarwch, eu blaengarwch, eu llwyddiant a’u cyfraniad amhrisiadwy i gerddoriaeth gyfoes yng Nghymru.

 

Mae GWENAN GIBBARD yn un o artistiaid gwerin amlycaf Cymru.  Mae wedi perfformio’n helaeth mewn gwyliau yng Nghymru a thramor, gan gyflwyno ei threfniannau ffres a chyfoes o’n caneuon a’n alawon traddodiadol.  Mae’n un o’r ychydig berfformwyr sy’n arbenigo yn yr hen grefft o ganu cerdd dant hunan-gyfeiliant, ac mae ei thrydydd albwm ar label Sain, Cerdd Dannau, yn gasgliad blaengar sy’n darganfod hen drysorau ac yn torri tir newydd ym maes cerdd dant.   Wedi graddio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru Bangor a chwblhau gradd feistr yno mewn perfformio ac ymchwil ym maes cerddoriaeth Cymru, aeth ymlaen i astudio’r delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, ac yna dychwelodd i’w hardal enedigol ym Mhwllheli, gan gyfuno ei gwaith gyda Cwmni Sain gyda’i gwaith perfformio a dysgu. Eleni enillodd ysgoloriaeth ddoethurol fel rhan o gynllun ar y cyd rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau Prifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i astudio archif gerddoriaeth werin Dr Meredydd Evans a Phyllis Kinney.

Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones - Alan Llwyd (Barddas)

Eleni, mae hi’n 70 o flynyddoedd ers marwolaeth y bardd, y llenor a’r ysgolhaig T. Gwynn Jones. Dyma gyfrol sy’n gofiant cynhwysfawr i’r Prifardd hwnnw wrth i’r awdur fynd o dan groen y gŵr hynod a chymhleth hwn. Trafodir ei fagwraeth a’i deulu, ei weithiau creadigol o bob math, ei addysg a’r holl ddylanwadau arno. Rhoddir cryn sylw i’w nofelau rhyddiaith sy’n esgor ar nifer o syniadau newydd oedd gan T. Gwynn Jones am gymdeithas a gwleidyddiaeth y cyfnod. Ceir hefyd drafodaeth estynedig ar ei farddoniaeth wrth i’r awdur olrhain datblygiad manwl iawn o T. Gwynn Jones fel bardd. At hynny, gan fod y cofiant hwn yn cael ei ysgrifennu gan fardd am fardd, edrychir ar waith T. Gwynn Jones am y tro cyntaf â llygad, profiad ac arbenigedd bardd a thanlinellir pwysigrwydd hynny o gofio bod T. Gwynn Jones ei hun yn gymaint o arbrofwr â’r gynghanedd ac â’r mesurau traddodiadol. Dyma gyflwyno mewn cyfrol ddeniadol, felly, bortread newydd a chyflwyniad o’r newydd o T. Gwynn Jones i’r genedl a’r cynnwys wedi ei ymchwilio’n drwyadl gan gofiannydd profiadol iawn.

 

Mae ALAN LLWYD yn gofiannydd profiadol ac ymysg ei lyfrau diweddar mae wedi ysgrifennu cofiannau dadlennol i rai o’n beirdd a’n llenorion pwysicaf: Kate: Cofiant Kate Roberts 1891–1985 (Y Lolfa, 2011), Bob: Cofiant R. Williams Parry 1884–1956 (Gwasg Gomer, 2013), Waldo: Cofiant Waldo Williams 1904–1971 (Y Lolfa, 2014), Gwenallt: Cofiant D. Gwenallt Jones 1899–1968 (Y Lolfa, 2016). Enwebwyd Gwenallt, Kate a Bob ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn, gyda Bob yn ennill y categori ffeithiol-greadigol. Maent oll yn gofiannau hynod safonol a darllenadwy sy’n olrhain hanes bywyd y llenorion hyn yn fanwl a thrwyadl. Esgorodd ei ymchwil hefyd ar ffeithiau newydd am rai ohonynt a hynny’n ennyn chwilfrydedd y darllenwyr i wybod mwy am hanes bywydau rhai o Gymry amlycaf yr ugeinfed ganrif. Mae gan yr awdur Gadair Athro bersonol yn Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe ers 2013.

Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl - D. Ben Rees (Y Lolfa)

Dyma benllanw degawdau o waith ymchwil gan D. Ben Rees i hanes unigryw Cymry Lerpwl a glannau Merswy. Mae’n drysorfa o wybodaeth am bobl a digwyddiadau un o’r dinasoedd mwyaf diddorol yn hanes Cymru a’r Gymraeg. Ceir hanes y miloedd ar filoedd o Gymry Cymraeg a heidiodd i Lerpwl a’r cyffiniau i chwilio am waith ac i wella amodau byw a hynny o’r cyfnod pan oedd Lerpwl yn bentref pysgota hyd at y ddinas yw hi heddiw.

 

Mae D. BEN REES yn byw yn Lerpwl ers 1968. Bu’n gyfrifol am lu o ddigwyddiadau pwysig yn y ddinas. Mae’n adnabyddus fel arweinydd dibynadwy ac fel un sydd wedi gwneud gwaith enfawr ymysg Cymry Lerpwl. Penderfynodd Cyngor y Ddinas, yn unfrydol, i’w gydnabod fel Dinesydd er Anrhydedd mewn seremoni arbennig yn 2018.

Ffuglen

Babel - Ifan Morgan Jones (Y Lolfa)

Nofel ddirgelwch ddarllenadwy a chyffrous, wedi ei lleoli mewn tref ddiwydiannol yn ail hanner y 19eg ganrif. Mae Babel yn adrodd stori merch sy’n ffoi oddi wrth ei thad ymosodol er mwyn ceisio bod yn newyddiadurwr ar bapur newydd Llais y Bobol. Buan y mae ei menter yn ei harwain ar drywydd diflaniad plant amddifad o slym drwg-enwog Burma, gan ddarganfod cynllun annymunol iawn sy’n ymestyn hyd at arweinwyr crefyddol a pherchnogion y ffatri haearn gyfagos.

 

Mae IFAN MORGAN JONES yn ddarlithydd mewn Newyddiaduraeth yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor. Bu’n ddirprwy olygydd ar gylchgrawn Golwg ac yn olygydd gwefan newyddion Golwg 360. Enillodd ei nofel Igam Ogam Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2008.

Iaith y Nefoedd - Llwyd Owen (Y Lolfa)

Gweledigaeth o Gymru ‘ar ol y bleidlais’. Yng Nghymru y dyfodol mae awdur tlawd o’r enw T yn cael ei ddyrchafu’n ‘Dad’ y genedl gyda chanlyniadau dychrynllyd. Rhan o brosiect cyffrous, fe fydd y nofela hon yn cael ei chyhoeddi i gydfynd gydag albym newydd grwp Yr Ods ac yn rhannu yr un gwaith celf.

 

Brodor o Gaerdydd yw LLWYD OWEN. Mae’n byw yn ardal Rhiwbeina o’r ddinas gyda’i deulu. Enillodd ei ail nofel, Ffydd Gobaith Cariad, wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2007. Pan nad yw’n brysur yn ysgrifennu ffuglen, mae’n gweithio fel cyfieithydd.

Gwirionedd - Elinor Wyn Reynolds (Gwasg y Bwthyn)

Cyfrol am y broses o golli, o alaru ac o fyw yw Gwirionedd. Y mae’r gyfrol yn gofnod gwir, sy’n plethu ynghyd â chelwydd, mae’n ffantasi ac yn ffaith ar yr un pryd. Nofel ysgubol sy’n cynnig golwg newydd ar un o ddigwyddiadau mawr bywyd – marwolaeth. Yn llawn dagrau, direidi a dathlu, ond yn bennaf oll, yn gorlifo â chariad.

 

Un o Gaerfyrddin yw ELINOR WYN REYNOLDS. Mae hi’n fardd, yn awdur, dramodydd a golygydd llyfrau. Mae hi’n perfformio’i gwaith yn gyson a thros y blynyddoedd mae wedi bod yn rhan o sawl taith farddoniaeth: Dal Clêr, Taith Glyndŵr a Lliwiau Rhyddid bu hefyd yn un o griw beirdd y SiwpyrStomp yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, mae hi’n cynnal gweithdai barddoniaeth i blant ac oedolion hwnt ac yma yn ogystal. Mae gan Elinor brofiad helaeth o weithio fel golygydd llyfrau Cymraeg i oedolion ac i blant ar gyfer sawl gwasg hefyd.

Plant a Phobl Ifanc

Llyfr Adar Mawr y Plant - Onwy Gower (Y Lolfa)

Llyfr ffeithiol am 50 o adar sydd i’w gweld yng Nghymru, wedi ei ddylunio’n ddeniadol, gyda tudalen ddwbl i bob aderyn, yn cynnwys ffeithiau, ffotograffau a lluniau wedi eu comisiynu’n arbennig ar gyfer y gyfrol. Bydd ffeithiau megis maint, cynefin a bwyd yr adar, disgrifiad, mis-o-metr, Ffeithiau Ffab a geirfa.

 

Mae ONWY GOWER yn ddisgybl ym mlwyddyn 6 yn Ysgol Gymraeg Treganna, Caerdydd. Dechreuodd ei diddordeb mewn adar pan gafodd ei binociwlars cyntaf ac ymweld â llefydd i wylio adar fel Penclacwydd, ger Llanelli, ac ar hyd afon Taf. Un o’r pethau mwyaf diddorol welodd hi oedd yr holl adar ger Ynys Sgomer, gan gynnwys un o’i hoff adar, y pâl. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i mam, Sarah, ei thad, Jon, ei chware fawr, Elena, a’i chi, Ianto. Mae’n hoff o ddarllen llyfrau o bob math, yn enwedig llyfrau ditectif a llyfrau ffeithiol.

Yr Horwth - Elidir Jones (Atebol)

Mae bwystfil yn bygwth y wlad. Creadur yn syth o ganol hunllef. Yr Horwth. Yr unig rai a all ei drechu yw criw bach o anturiaethwyr annisgwyl. Trwy borthladdoedd anhrefnus a choedwigoedd gwyllt, dros glogwyni serth ac ar hyd twneli wedi eu hen anghofio, mae’r llwybr yn arwain at y Copa Coch – mynydd sy’n taflu cysgod brawychus dros y tir … ac mae ei gyfrinachau mwyaf o dan yr wyneb, yn aros i’r teithwyr eu datgelu. Dyma’r nofel gyntaf mewn cyfres ffantasi newydd i bobl ifanc – ac i unrhyw un hŷn sy’n hoff o antur.

 

Awdur a sgriptiwr o Fangor yw ELIDIR JONES, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Cafodd ei nofel gyntaf, Y Porthwll, ei chyhoeddi yn 2015. Yn 2019, cyhoeddwyd ei ail nofel, Yr Horwth, a’r nofel graffeg i blant Seren a Sbarc yn Achub (Cwpan) y Bydysawd, y ddau gyda Huw Aaron. Yn yr un flwyddyn, cyhoeddwyd Peff, ei addasiad o Fing gan David Walliams. Ymhlith ei waith teledu y mae Ddoe am Ddeg, Arfordir Cymru, a thair cyfres o Cynefin. Mae hefyd yn brif ymchwilydd ar y rhaglen drafod I Was There ar BBC Radio Wales. Ers 2004, mae’n chwarae’r gitâr fas i’r band Plant Duw, ac mae’n un o sylfaenwyr y wefan fideowyth.com.

Genod Gwych a Merched Medrus - Medi Jones-Jackson (Y Lolfa)

Llyfr gwreiddiol sy’n cofnodi hanes 12 o ferched ysbrydoledig o Gymru ac mae’n ‘gyflwyniad perffaith i rai o ferched blaenllaw Cymru a wnaeth anelu’n uchel, cyrraedd y brig a newid siâp ein cenedl.’ Ceir hanes bywyd a ffeithiau diddorol am Tori James, Gwendoline a Margaret Davies, Betty Campbell, Frances Hoggan, Laura Ashley, Eileen Beasley, Amy Dillwyn, Kate Bosse Griffiths, Angharad Tomos, Jade Jones, Haley Gomez, Betsi Cadwaladr a Mair Russell-Jones. Mae’r casgliad yn amrywio o ran lleoliad daearyddol a meysydd gwahanol gan gynnwys meddygaeth, addysg, gwyddoniaeth, llên, chwaraeon a chelf. Mae pob un wedi cyflawni campweithiau yn eu meysydd penodol. Mae yna weithgareddau llawn hwyl a lliwgar ar ddiwedd y gyfrol, sy’n ymwneud â phob un o’r merched medrus. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys posau, holiadur, chwilair a chelf.

 

Yn wreiddiol o Ddyffryn Conwy, symudodd MEDI JONES-JACKSON i Aberystwyth fel myfyriwr gan ddisgyn mewn cariad gyda’r ardal a bachgen o Gaernarfon. Yn gyn Swyddog Hybu Darllen i’r Cyngor Llyfrau cafodd Medi ei hysbrydoli i ysgrifennu Genod Gwych a Merched Medrus, ei llyfr cyntaf, fel ymateb i’r diffyg sylw at hanes merched o Gymru. Yn fam i ddau mae gan Medi diddordebau eang gan gynnwys garddio, ioga, teithio, ffilm a sioeau cerdd.

Cyfrolau Saesneg

Barddoniaeth

Fur Coats in Tahiti – Jeremy Over (Carcanet)

Mae Fur Coats in Tahiti yn gymysgedd o ffurfiau wedi eu benthyg o Dada, Swrrealaeth, Fluxus, yr OuLiPo, Grŵp Vienna, ac ysgol Efrog Newydd. Ceir pytiau bach ar ffurf dilyniant o eiriau a delweddau sy’n deillio o eiriadur o ddarluniau cyfnod Edward. Mewn mannau eraill, ceir pleser llafar a chlywedol mewn bananas; ceirios; Slobodan Živojinovic; tahini a Petroc Trelawny. Mae’r llyfr yn cychwyn gydag ‘O’, gyda rhyfeddod at enedigaeth, ac yn gorffen, nid â ‘Z’, ond yn cynnig gobaith am gysylltiad pellach, gyda’r seithfed lythyren ar hugain yn yr wyddor, sef ‘&’.

Ganed JEREMY OVER yn Leeds yn 1961. Cyhoeddwyd ei farddoniaeth am y tro cyntaf yn New Poetries II. Wedi hynny, cyhoeddodd dau gasgliad gyda Carcanet, A Little Bit of Bread and No Cheese, a Deceiving Wild Creatures. Ar hyn o bryd mae’n byw yn Llanidloes yng nghanolbarth Cymru.

 

Erato – Deryn Rees-Jones (Seren)

Ystyr y teitl Erato yw awen y geiriau mewn barddoniaeth. Gan dynnu ar naratif gryno o’i bywyd, ynghyd â dyfeisiadau telynegol, mae Deryn Rees-Jones yn holi cwestiynau am y gorffennol, y presennol a’r dyfodol; am ei chof; ein holl wallau; a’r lleoedd yr ydym yn ymgartrefu ynddynt wrth ddelio â trawma.

Bardd, golygydd a beirniad yw DERYN REES-JONES. Cyhoeddwyd detholiad o’i cherddi, What It’s Like To Be Alive, gan Seren yn 2016 a chafodd y gyfrol Ganmoliaeth Arbennig y Poetry Book Society. Ymhlith ei chyfrolau diweddar y mae Burying the Wren (Seren, 2012) a gyrhaeddodd restr fer Gwobr T S Eliot a Gwobr Roland Mathias, ynghyd â chael ei argymell gan y Poetry Book Society. Cyhoeddwyd ei astudiaeth ar yr artist Paula Rego gan Thames & Hudson eleni. Mae hi’n olygydd i’r Pavilion Poetry, ac yn darlithio ym Mhrifysgol Lerpwl fel Athro Barddoniaeth.

 

Footnotes to Water – Zoë Skoulding (Seren)

Yn Footnotes to Walter  mae Zoë Skoulding yn dilyn trywydd dwy afon anghofiedig – yr Adda ym Mangor a’r Bièvre ym Mharis – gan ddilyn llwybr defaid ar fynyddoedd Cymru. Ar y daith hon, mae hi’n datgelu bod ardaloedd trefol a gwledig fel safleoedd rhyng-gysylltiol bywiog, gan archwilio’r ffyrdd y mae ardal yn siapio ac yn cael ei siapio gan iaith.

Bardd yn bennaf yw ZOË SKOULDING, er bod ei gwaith yn cwmpasu o amgylch perfformiadau lleisiol ar sail sain, cydweithredu, cyfieithu, beirniadaeth lenyddol, golygu ac addysgu ysgrifennu creadigol. Mae hi’n Ddarllenydd yn Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaeth ac Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi wedi cyhoeddi nifer o gasgliadau, gan gynnwys The Museum of Didsappearing Sounds (Seren) a oedd ar restr fer Gwobr Ted Hughes, a Remains of a Future City (Seren) gyrhaeddodd rhestr hir Gwobr Llyfr y Flwyddyn.

Ffeithiol Greadigol

Brando’s Bride – Sarah Broughton (Parthian Books)

Ym mis Hydref 1957 priododd Marlon Brando actores Indiaidd o’r enw Anna Kashfi. Roedd yn dri-deg-tri mlwydd oed ac ar binacl ei enwogrwydd wedi iddo ennill Oscar diweddar am On the Waterfront. Roedd y briodas yn newyddion tudalen flaen ar draws y byd. Roedd ei wraig yn ddau-ddeg tri, yn honni ei bod yn Dywysoges Indiaidd, ac yn feichiog. Y dydd ar ôl y briodas, honnodd William O’Callaghan – gweithiwr ffatri o Gymru – mai ei ferch ef oedd Anna Kashfi, o’r enw Joan O’Callaghan, a’i bod yn gweithio fel cynorthwyydd mewn siop cigydd yng Nghaerdydd. Bwriad y llyfr yw darganfod pwy oedd yn dweud y gwir a phwy oedd yn dweud celwydd – ac yn bwysicach na dim, pam?

Mae SARAH BROUGHTON wedi gweithio yn y diwydiant teledu dros y ddau ddegawd diwethaf. Ei chwmni, Martha Stone Productions, oedd yn gyfrifol am y ddogfen BBC 4 diweddar Andrew Davies: Rewriting the Classics. Cyhoeddwyd ofel gyntaf Sarah, Other Useful Numbers, gan Parthian Books. Ar y funud, mae hi’n cwblhau PhD rhan-amser mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru.

 

Where There’s a Will – Emily Chappell (Profile Books)

Yn 2015, fe ddechreuodd Emily Chappell ar daith feic enbyd trawsgyfandirol – 4,000km ar draws Ewrop – heb gymorth, yn yr amser byrraf posib. Ar ei hymgais gyntaf, dim ond at hanner ffordd y llwyddodd i gyrraedd, gan ddeffro’n sydyn ar ei chefn yng nghanol cau, wedi’i llorio gan y straen corfforol a meddyliol. Flwyddyn yn ddiweddarach fe ymgeisiodd eto – ac ennill. Mae’r gyfrol hon yn ein tywys drwy ras Emily, i fyny ac i lawr y mynyddoedd, a’r gorffwys ar gyrion pentref cyn bwrw mlaen gyda diwrnod arall. Profwn hunan-amheuaeth efryddol y rasiwr pellter hir eithafol, dwyster cymhleth ennill, a’r gwylltineb o golli ffrind annwyl oedd yn deall hyn oll.

Gweithiodd EMILY CHAPPELL fel tywysydd ar feic yn Llundain am sawl blwyddyn, fel sydd wedi ei gofnodi yn What Goes Around. Ers hynny, mae hi wedi teithio’r byd ar ei beic ac wedi ymrwymo i gefnogi eraill i wneud yr un peth, drwy sefydlu The Adventure Syndicate.

 

On the Red Hill – Mike Parker (William Heinemann)

Stori Rhiw Goch a’i drigolion yw On the Red Hill – stori aruthrol cymuned wledig ag etifeddiaeth sy’n hanu nôl yn bellach na’r brics a’r morter. Dathla On The Red Hill dro yn rhod y flwyddyn, o dirwedd gyfnewidiol i ddarganfod teulu yn y mannau lleiaf tebygol. Drwy ddefnyddio’r pedwar tymor, y pedwar elfen, a’r pedwar bywyd yma fel y strwythur, llunia Mike Parker archwiliad telynegol ond clir o’r byd naturiol, y sialens o dderbyn ein safle yn ei ganol, a beth mae’n ei olygu i ganfod ‘adref.’

Mae MIKE PARKER yn awdur ac yn ddarlledwr. Mae ei lyfrau yn cynnwys Map Addict a Rough Guide to Wales. Mae’n ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau The Guardian a’r Sunday Times, ac yn cyflwyno ar y radio a’r teledu.

Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies

Dignity – Alys Conran (Weidenfeld & Nicolson)

Mae Magda’n gyn-wyddonwyr sydd â thymer ddrwg a thafod miniog. Mae hi’n byw ger y môr, ac yn newid gofalwyr rownd y rîl. Hyd nes y cyrhaedda Susheela, â’i beichiau’n drwm o alar am farwolaeth ddiweddar ei Mam, pryder am ei Thad, a hiraeth am ddyn trawiadol a chythryblus. Er syndod, daw’r ddwy yn ffrindiau da: daw agwedd di-lol Magda yn graig i Susheela; ac etifeddiaeth Bengali Susheela yn atgoffa Magda o’i magwraeth yn India drefedigaethol, ac yn atgyfodi  ffigwr trasig ei Mam, Evelyn. Ond caiff trefn ofalus bywyd Magda ei chwalu wrth iddi ddarganfod mwy am ei hetifeddiaeth.

ALYS CONRAN yw awdur Pigeon (Parthian Books, 2016), a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2017. Yn ogystal, cyrhaeddodd restr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, enillodd Wobr Ffuglen Rhys Davies a gwobr Barn y Bobl Wales Arts Review, a chyrraedd rhestr hir yr Authors Club First Novel Award. Mae ei straeon byrion wedi cael llwyddiant yn y Bristol Short Story Prize a’r Manchester Fiction Prize. Yn ogystal, mae hi’n cyhoeddi barddoniaeth, traethodau creadigol a chyfieithiadau llenyddol, a hi yw Cymrawd Rhyngwladol Gŵyl y Gelli 2019-20.  Yn wreiddiol o ogledd Cymru, treuliodd sawl blwyddyn yng Nghaeredin a Barcelona cyn dychwelyd i’r ardal i fyw ac ysgrifennu. Datblygodd brosiectau i gynyddu mynediad at ysgrifennu creadigol a darllen ac mae hi hefyd yn ddarlithydd ysgrifennu creadigol ym Mangor.

 

Broken Ghost – Niall Griffiths (Jonathan Cape)

Caiff cymuned Gymreig ei dynnu at ei gilydd a’i chwalu gan ddarlun rhyfedd yn y mynyddoedd: ysbryd enfawr dynes yn arnofio dros grib. Mae gan y trigolion eu cythreuliau’n barod – y ddiod, cyffuriau, trais yn y cartref, seicosis – ond mae pob cymeriad yn profi ac yn ymateb i’r ysbryd rhyfedd yma mewn ffordd wahanol, ac i rai, bydd yn newid popeth. Efallai mai rhithweledigaeth dorfol sydd yma? Neu ffenomen i wneud â’r tywydd? Naill ffordd, fe welsant hwy oll rywbeth  yn gynnar un bore ar lannau llyn mynyddig, rywbeth a fydd yn eu deffro mewn pŵer ac angerdd, ac efallai, y posibiliad o iachau pobl friwedig mewn gwlad sydd ar chwâl.

Ganed NIALL GRIFFITHS yn Lerpwl yn 1966 ac erbyn hyn mae’n byw yng Nghymru. Mae wedi cyhoeddi chwe nofel yn flaenorol: Sheepshagger; Kelly + Victor; Stump; Wreckage; Runt; ac A Great Big Shining Star.  Mae’n gyfrannydd cyson i The Guardian, BBC, a chyfryngau eraill. Fe enillodd addasiad ffilm o’i drydedd nofel, Kelly + Victor, wobr Bafta.

 

Stillicide – Cynan Jones (Granta)

Mae dŵr yn cael ei fasnachu. Mae’r Trên Ddŵr sy’n gwasanaethu’r ddinas ar risg gynyddol o gael ei ddifrodi. Wrth i’r newyddion dorri am adeiladu Doc Rhew anferth a fydd yn disodli mwy o bobl na’r disgwyl, heidia protestwyr i’r strydoedd, a dyna gychwyn cyd-gloi bywydau nifer o unigolion gyda’i gilydd – nyrs sy’n caru ar y slei; bachgen sy’n dilyn ci coll allan o’r ddinas; dynes sy’n marw; ei gŵr, sy’n anelwr; dyn sydd wedi ei ffugio gan y gorffennol ac sydd ofn y dyfodol, sy’n ceisio mesur posibilrwydd marw yn erbyn y posibilrwydd o fyw. Mae Stillicide yn stori gynhyrfus am gariad a cholled a’r ewyllys i oroesi, ac mae’n fewnwelediad pwerus i ddyfodol pendant.

Ganed CYNAN JONES yn 1975 ger Aberaeron, lle mae nawr yn byw ac yn gweithio. Mae’n awdur pum nofel: The Long Dry; Everything I Found on the Beach; Bird, Blood, Snow; The Dig; a Cove. Mae ei weithiau wedi cyrraedd sawl rhestr fer, ac enillodd Wobr Betty Trask gan y Society of Authors yn 2007; Gwobr Ffuglen Jerwood Uncovered yn 2014; Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2015 a Gwobr Stori Fer Genedlaethol y BBC yn 2017. Mae ei ffuglen fer wedi’i gyhoeddi’n eang mewn blodeugerddi a chyhoeddiadau gan gynnwys Granta Magazine a The New Yorker.

Plant a Phobl Ifanc

The Girl Who Speaks Bear – Sophie Anderson (Usborne)

O ddychymyg gwyllt yr awdur poblogaidd Sophie Anderson daw stori dylwyth teg telynegol am hud, perthyn, a dewis eich teulu eich hun. Wedi iddi gael ei gadael mewn ogof eirth pan yn fabi, mae Yanka wastad wedi pendroni o le y daw. Ceisia anwybyddu’r sibrydion a’r syllu gan drigolion y pentref, gan ddymuno ei bod hi’r un mor gryf y tu mewn ac y mae hi ar y tu allan. Ond pan mae angen iddi adael ei chartref ac edrych am atebion ynglŷn â’i gwreiddiau, mae’n mentro ar antur annisgwyl, o afonydd rhewllyd i fynyddoedd sy’n mudlosgi, gan gwrdd â grŵp cynyddol o ffrindiau hynod ar y ffordd.

 

Mae SOPHIE ANDERSON yn wreiddiol o Abertawe ac erbyn hyn yn byw yn Ardal y Llynnoedd mewn adeilad o eiddo Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, wedi’i amgylchynu gan fywyd gwyllt a’r cefn gwlad. Ysgrifennodd werslyfrau gwyddoniaeth nes i gymeriadau o lên gwerin Slafig ddechrau ymddangos yn ei gwaith. Dysgodd am y chwedlau gwerinol yma gan ei Mam-gu Prwsiaidd, a theimla Sophie gysylltiad cryf â’r chysylltiadau rhyngwladol hyn. Mae’n mwynhau’r rhyddid o addysgu ei phedwar o blant o adref, cerdded, canŵio a breuddwydio.

 

Butterflies for Grandpa Joe – Nicola Davies (Barrington Stoke)

Mae Tad-cu Joe wrth ei fodd â gloÿnnod byw . Roedd wrth ei fodd yn mynd i chwilota am Löyn Byw yn chwifio’i hadenydd lliwgar, a thynnu lluniau ar gyfer ei gasgliad. Ond ers y bu farw Mam-gu Ben, mae Tad-cu Joe wedi newid. Prin iawn yr aiff o allan o’r tŷ, a does dim byd mae Ben yn gallu ei ddweud na’i wneud i roi gwên ar ei wyneb. Mae’n teimlo fel bod Tad-cu Joe yn llithro i ffwrdd. Felly, dim ond un peth sydd ar ôl i drio – os na ddaw Tad-cu Joe i chwilota am Loÿnnod Byw, mi ddaw Ben a’r Gloÿnnod at Tad-cu…

Mae NICOLA DAVIES yn awdur arobryn sy’n cael ei hadnabod am ei gwaith ysgrifennu natur poblogaidd a’i ffuglen i blant. Mae ei llyfrau i blant yn cynnwys A First Book of Animals; Big Blue Whale; The Promise; King of the Sky a’r llyfr sydd wedi derbyn cryn glod, The Day War Came. Mae ganddi radd mewn Sŵoleg, ac mae hi wedi gweithio i adran Hanes Natur y BBC. Mae Nicola yn byw ym Mhowys.

 

Max Kowalski Didn’t Mean It – Susie Day (Puffin)

Hoffai Max fod yn union fel ei Dad – hwyliog, swnllyd, a chryf. Carai deithiau i’r ffair ac agwedd di-lol ei Dad pan gaiff drwbl yn yr ysgol. Ond, fe newidia bopeth pan ddechreua focsys dirgel a sypiau o arian ymddangos yn y tŷ. Pan ddiflanna Dad, cyfrifoldeb Max yw edrych ar ôl ei dair chwaer nes i Dad gyrraedd nôl. Yn benderfynol o gadw’r teulu â’i gilydd, aiff Max a’i chwiorydd i bentref anghysbell yng Nghymru, lle mae’n sicr na fydd neb yn dod o hyd iddynt. Nid oedd Max yn disgwyl dod o hyd i ffrindiau newydd, i gwestiynau newydd, na chwedl hen iawn. Pa mor hawdd yw edrych ar ôl tri o blant heb oedolyn o gwmpas? I ble aeth Dad? A beth yw’r sibrydion mae Max yn eu clywed, gan ddraig aur, sy’n cysgu dan y mynydd…?

Magwyd SUSIE DAY ger lan y môr ym Mhenarth, gyda lisp a dewis anffodus o enw cyntaf. Pan nad ydi hi’n ysgrifennu llyfrau, mae hi’n gweithio fel ysgrifennydd copi yn Birmingham, yn crosio siwmperi hurt, ac yn mewnanadlu te. Mae Susie nawr yn byw yn Coventry gyda’i phartner a’u cath, Pantalaimon.

Nôl i Gwobr Llyfr y Flwyddyn