Dewislen
English
Cysylltu

Plethu/Weave

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gydweithio gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar gywaith traws-gelfyddyd barddoniaeth a dawns. Prosiect ffilm digidol newydd yw Plethu/Weave, sy’n paru dawnswyr o CDCCymru a’r sector annibynnol gyda beirdd a gomisiynwyd gan Llenyddiaeth Cymru er mwyn creu perfformiadau unigol byw yn ystod y cyfnod clo.

Gofynnir i bob bardd greu cerdd fer, rhai ar fesur caeth y gynghanedd, mewn unrhyw iaith sy’n berthnasol i Gymru gyfoes. Bydd yr 8 dawnsiwr a’r 8 bardd yna’n cydweithio mewn parau traws-gelfyddyd gyda phob pâr yn creu darn unigol byr, dim mwy na 90 eiliad o hyd.

Mae rhagor o wybodaeth am bob pâr isod, a bydd y fideos yn cael eu rhyddhau rhwng mis Awst – Tachwedd.

Hirddydd gan Mererid Hopwood a Tim Volleman

Hirddydd
Dawnsiwr a golygu: Tim Volleman
Bardd: Mererid Hopwood

Hirddydd

 

Dere’n nes, mae’n stori ni

tu allan

lle mae’r gân yn geni’r

hirddydd; mae dy welydd di’n

rhy gyfyng ac mae’r gofid

anniben yn dy ben fel diwedd byd.

 

Dere, gwêl, y ffin drwy gil y ffenest,

ffin ddi-dor, ffin fforest,

ffin cul, ffin y cwest 

unig, 

gwêl, mae’n ffin anonest.

 

Dawn byw yw gweld nad yw’n bod.

 

Dy ateb? Ehedeg a’i datod

o’r newydd, yr hirddydd hwn,

ac yn ei lle cael llinyn hen berthyn y byd

i’th dynnu’n rhydd, 

o’r newydd, 

a’n hail-uno ni

ym mhatrwm ers talwm – yn deulu –

y patrwm glân sydd â lle i gân ein lliwiau i gyd.

 

Rhith yw’r ffin.

Gwthia’r ffenest.

Cei batrwm cwlwm calon.

 

Gwêl

 yr edefyn golau’n galw:

‘nofia!’,

mor siŵr â llif y dŵr.

 

Dere.

 

//

Hirddydd

(The longest day)

 

Come closer, our story lies

outside

where the song is giving birth

to the longest day; your walls

are too confining, and the messy worry

inside your head is like the end of the world.

 

Come, see the boundary

through the just-open window, 

that never-ending boundary, 

boundary of forest,

narrow boundary, 

the boundary of the lonely

searching.

 

See its dishonesty.

 

The gift of life is to know it doesn’t exist.

 

Your answer? Fly. Unpick it

anew, this longest day,

and instead of it, 

find the thread of all belonging 

to pull you free

anew,

to reunite us

in the world-old pattern 

that makes a space for the song 

of all our colours.

 

That spectral boundary!

 

Push the window.

Find the pattern that binds hearts.

 

See,

the thread of light is calling:

‘swim!’,

as sure as the flow of water.

 

Come. 

 

//

Hirddydd

The longest day

 

Dere’n nes, mae’n stori ni

Come closer, our story lies

tu allan

outside

lle mae’r gân yn geni’r

where the song is giving birth

hirddydd; mae dy welydd di’n

to the longest day; your walls

rhy gyfyng ac mae’r gofid

are too confining, and the messy worry

anniben yn dy ben fel diwedd byd.

inside your head is like the end of the world.

 

Dere, gwêl, y ffin drwy gil y ffenest,

Come, see the boundary, 

through the just-open window, 

ffin ddi-dor, ffin fforest,

that never-ending boundary, 

boundary of forest,

ffin cul, ffin y cwest 

narrow boundary, 

the boundary of the lonely 

unig, 

searching.

 

Gwêl, mae’n ffin anonest.

See its dishonesty.

 

Dawn byw yw gweld nad yw’n bod.

The gift of life is to know it doesn’t exist.

 

Dy ateb? Ehedeg a’i datod

Your answer? Fly. Unpick it

o’r newydd yr hirddydd hwn,

anew, this longest day,

ac yn ei lle cael llinyn hen berthyn y byd

and instead of it, 

find the thread of all belonging 

i’th dynnu’n rhydd, 

to pull you free

o’r newydd, 

anew,

a’n hail-uno ni

to reunite us

ym mhatrwm ers talwm – yn deulu –

in the world-old pattern 

 

y patrwm glân sydd â lle i gân ein lliwiau i gyd.

that makes a space for the song 

of all our colours. 

 

Rhith yw’r ffin.

That spectral boundary!

 

Gwthia’r ffenest. 

Push the window.

 

Cei batrwm cwlwm calon.

Find the pattern that binds hearts.

 

Gwêl 

See,

 yr edefyn golau’n galw: 

the thread of light is calling:

‘nofia!’,

‘swim!’,

mor siŵr â llif y dŵr.

as sure as the flow of water.

 

Dere.

Come. 

Mererid Hopwood

Enillodd Mererid Hopwood Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu’n fardd Plant Cymru ac enillodd wobr Tir na n-Og am ei nofel i blant, Miss Prydderch a’r Carped Hud (Gwasg Gomer) yn 2018. Enillodd ei chasgliad o gerddi, Nes Draw (Gwasg Gomer, 2015), wobr barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2016. Bu’n cydweithio â cherddorion yn cynnwys Karl Jenkins, Eric Jones, Gareth Glyn, Christopher Tin a Robat Arwyn ac yn cymryd rhan mewn gwyliau llenyddol yn Ewrop, Asia a De America. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Ddysgedig, yn gadeirydd Cymdeithas y Cymod ac yn llywydd anrhydeddus Cymdeithas Waldo Williams. Mae’n Athro yn yr Athrofa, Y Drindod Dewi Sant.

Tim Volleman

Cafodd ei eni yn yr Iseldiroedd, lle y dechreuodd ddawnsio yn dair oed. Yn ddeg oed dechreuodd ei  gyn-addysg yn Fontys (Tilburg) a pharhau hyd ei raglen gradd Baglor yn Codarts, Academi Dawns Rotterdam. Fel dawnsiwr proffesiynol, gweithiodd gyda chwmnïau megis Cathy Sharp Dance Ensemble, Internationaal Dans Theater, Nederlands Dans Theater II a de Stilte cyn ymuno â CDCCymru ym mis Rhagfyr 2017. Mae ei yrfa lawrydd yn cynnwys gweithio gyda’r artistiaid annibynnol Jagoda Bobrowska, Heidi Vierthaler a Juanjo Arques.

Ust gan Ifor ap Glyn a Faye Tan

Ust
Coreograffydd, Dawnswraig a Golygydd: Faye Tan
Bardd: Ifor ap Glyn

Ust.

Sut mae geiriau’n symud,

yn tynnu trwy’r ddawns

rhwng tafod a chlust?

Ust.

Sut mae brawddegau’n anniddigo,

yn tapio’u traed,

yn ymollwng eu cymalau

nes i’r corff cyfan ganu,

nes twrio i’r ystyron dyfna’?

Ust.

A sut mae dwyiaith cerdd a dawns

yn plethu a chordeddu awr,

cyn ildio i’r llonyddwch mawr

a’r mudandod mwy?

 

Ust… Ust… Ust…

 

//

 

Shh

How do words move,

leading the dance

from tongue to ear?

Shh.

How do sentences fidget,

tap their feet

and loosen their limbs

till their whole bodies sing,

and they delve into deeper meaning?

Shh

And how do the twinned muse of dance and rhyme

interweave and twine a while,

before they bow to boundless stillness

and silence greater still?

Shh… Shh… Shh…

Ifor ap Glyn

Ganed a magwyd Bardd Cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn yn Llundain i rieni o Gymru. Mae’n fardd, cyflwynydd, cyfarwyddwr a chynhyrchydd sydd wedi ennill sawl gwobr. Yn awdur toreithiog, mae Ifor wedi ennill y Goron ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fel cyfarwyddwr teledu a chyflwynydd, mae wedi ennill sawl gwobr BAFTA Cymru am ei waith gan gynnwys cyfresi Lleisiau’r Rhyfel Mawr a Popeth yn Gymraeg. Mae Ifor wedi cynrychioli barddoniaeth Gymraeg ledled y byd yn yr iaith Gymraeg a Saesneg, yn fwyaf diweddar yn Camerŵn, Lithwania, China, Gwlad Belg, yr Almaen ac Iwerddon. Mae Bardd Cenedlaethol Cymru yn lysgennad diwylliannol ac yn rôl sy’n anrhydeddu rhai o’n hawduron mwyaf arloesol ac uchel eu parch. Dechreuwyd y cynllun yn 2005 ac fe’i rheolir gan Llenyddiaeth Cymru.

Faye Tan

Cafodd ei geni yn Singapôr, a bu’n hyfforddi yn Academi Bale Singapôr ac Ysgol y Celfyddydau cyn graddio o Ysgol Rambert yn Llundain. Yna, ymunodd â Verve, cwmni ôl-radd Ysgol Dawns Gyfoes y Gogledd yn Leeds, gan berfformio gweithiau gan Anton Lachky, Athina Vahla ac Efrosini Protopapa. Ymunodd â Frontier Danceland (Singapôr) yn 2016, yn gweithio gyda choreograffwyr megis Shahar Binyamini, Thomas Lebrun, Edouard Hue, I-Fen Tung, Annie Vigier a Franck Apertet, ymysg nifer amrywiol o wneuthurwyr eraill. Roedd y gwaith a wnaeth yn Singapore hefyd yn cynnwys rhaglenni allgymorth, cydlynu rhaglen hyfforddi dawns ieuenctid Frontier Danceland, dysgu, coreograffu, marchnata digidol, fideograffeg a ffotograffiaeth. Ym mis Mai 2019 gweithiodd gyda Richard Chappell Dance (UK) ar y cynhyrchiad Silence Between Waves, gan berfformio a gweithio gyda thrigolion lleol o wahanol oedrannau a galluoedd yn Nyfnaint, cyn ymuno â CDCCymru i weithio ar y cynhyrchiad Rygbi: Annwyl i mi / Dear to Me ac wedyn fel dawnsiwr cwmni ym mis Rhagfyr 2019.

Triptych gan Marvin Thompson ac Ed Myhill

Triptych (Rhan 1)
Barddoniaeth a symudiadau: Marvin Thompson
Dawns: Ed Myhill
Golygu Ffilm a Sain: Ed Myhill
Ffilm: Nicola Janneh

Noder: Mae’r fideo hwn yn cynnwys defnydd bwriadol o sarhad hiliol tramgwyddus iawn a delweddau a all beri gofid i rai gwylwyr. Mae’r elfennau hyn yn berthnasol i gyd-destun y gwaith artistig sy’n archwilio perthynas Cymru â’r fasnach gaethweision drawsatlantig.

Triptych Part 1

Dear Brecon Town Council

A mouth drying to mud, tightening lungs and eyes on the edge of tears:
That was the reaction of my Black British body
When, on this wind-lash of a lockdown morning, I read
Who you class as a role model for my Welsh, Mixed Race children.
In 2010 (during Black History Month no less) a blue plaque
Was unveiled in Brecon, honouring the life of a Welsh seafarer,
Captain Thomas Phillips. A man who grew rich from selling slaves;

Humans like me, my parents, my brothers. Maybe I should show this slaver
More understanding: in later life, he wrote about his ‘cargo’ with tears,
Suggesting all people are ‘the work of God’s hands.’ Ah, I see.
Those were different times and Philips showed remorse so my body
Should be calmed. Never mind that the racism thriving under our blue skies
Was designed by men like Philips. Tell me, should I also read
The captain’s Voyage Journal to my children

And teach them they are indeed picaninnies with watermelon smiles, children
Whose ancestors have no place in history and have no name except slave
Or nigger and owe all to Wilberforce? I pray that once you have read
This open message, your chest fills with a flaming desire to tear
The plaque from its wall or better yet, add an extra slab of blue slate
And inscribe it with: ‘This Welshman sailed across seas
To enslave humans, growing rich from the sweat of their Black bodies.’

Yours faithfully, Mr M. Thompson

 

Marvin Thompson

Marvin Thompson
Ganwyd Marvin Thompson yn Tottenham, Llundain i rieni o Jamaica ac mae bellach yn byw yn ne Cymru. Mae ei gasgliad cyntaf o gerddi, Road Trip (Peepal Tree Press, 2020), yn Argymhelliad Poetry Book Society. Ym mis Mehefin 2020, dewisodd y Poetry Society Road Trip fel un o bum llyfr sy’n ysbrydoli Black Lives Matter.

Yn ogystal, mae Road Trip yn un o’r 40 o gasgliadau ac antholegau a argymhellir ar gyfer Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol, 2020. Disgrifiodd Guardian Road Trip fel ‘taith fywiog trwy gymhlethdodau bywyd teuluol du Prydeinig.’

Yn 2019, roedd Thompson yn un o ddim ond wyth awdur i gael grant gan Llenyddiaeth Cymru fel rhan o’r Cynllun Nawdd Rhoi Llwyfan i Awduron a gaiff eu Tangynrychioli. Yn ogystal, roedd ar y rhestr fer ar gyfer Manchester Poetry Prize 2019. Yn 2016, dewiswyd Thompson gan Nine Arches Press ar gyfer cynllun mentora Primers 2. Mae ganddo hefyd MA mewn ysgrifennu creadigol.

Ed Myhill

Yn wreiddiol o Lundain, cafodd ei fagu yn Leeds a hyfforddodd yn Ysgol Uwchradd Hammond yng Nghaer, ac yna treuliodd dair blynedd yn y Rambert School of Ballet and Contemporary Dance. Ymunodd â CDCCymru fel prentis yn ystod Hydref 2015 ac mae nawr yn ddawnsiwr llawn amser gyda’r Cwmni. Bu’n teithio’n helaeth ar draws y DU a thramor gan gynnwys gwaith gan Alexander Ekman, Roy Assaf a Marcos Morau.

Hanan Issa ac Aisha Naamani

Ble Mae Bilaadi?
Bardd: Hanan Issa
Coreograffydd a Dawnswraig: Aisha Naamani
Ffilmiwyd gan: Joshua Attwood
Ymgynghorydd Ffilm: Jonathan Dunn

Ble Mae Bilaadi?

 

When my Khala speaks, a metallic voice on the phone, 

I want to respond ‘زين الحمد الله’

 

but I have swallowed too many dandelion seeds. 

I cough up a cardamom. 

What’s the word for cardamom in Arabic? 

I can’t remember. 

 

Guilty I reply into a tin can: 

 

‘I’m fine aunty’,

and watch the miles of quivering string disappear into crackling darkness. 

That night I remember: It’s هیل 

The ‘H’ a sweet 

 

exhale. 

 

The string knots inside my chest. 

and it feels dangerous, 

like I’m holding too much: 

 

Like a world pretending to be a city 

 

and so I run. My feet on Cardiff concrete, 

pounding footprints melting myself into the memory of here. 

But the string in my chest never ceases its song: 

about a land abandoned – her beauty braided into my bones. 

‘Ya Bilaadi’ sings the 

 

string. 

 

I always stop 

 

running in the same 

 

place. 

She is 

 

there when I look out to sea. 

Eternal 

 

as the cedar tree, 

She strides 

the horizon

 

towards me. 

 

The string, 

 

rooted in my chest, 

handcuffs around her wrists. 

 

I am sorry to see her bound, 

to see how my longing leaves 

angry memories on her 

 

skin. 

 

But wallahi I hope it never tears

 

//

 

Pan glywaf lais metelaidd Khala yn siarad ar y ffôn,

Rwyf eisiau ateb â  ‘زين الحمد الله’

 

ond rwyf wedi llyncu gormod o hadau dant y llew.

Rwy’n poeri cardamom allan.

Beth yw’r gair Arabeg am gardamom?

Ni allaf gofio.

 

Yn euog, rwy’n ateb i mewn i gan tun:

 

‘Rwy’n iawn fodryb’,

a gwylio’r milltiroedd o linyn crynedig yn diflannu i dywyllwch clindarddol.

Y noson honno rwy’n cofio: هیل ydyw

Yr ‘H’, anadliad

 

melys.

 

Mae’r llinyn yn clymu tu mewn i’m brest.

ac mae’n teimlo’n beryglus,

fel pe bawn yn dal gormod:

 

Fel byd yn honni bod yn ddinas

 

Ac felly rwy’n rhedeg. Fy nhraed ar goncrit Caerdydd, fy olion traed yn cerfio cofnod ohonof.

Ond nid yw’r llinyn yn fy mrest byth yn rhoi’r gorau i’w gân:

am dir wedi’i adael – ei phrydferthwch ym mer fy esgyrn.

‘Ya Bilaadi’ canai’r 

 

llinyn.

 

Rwyf bob amser yn rhoi’r gorau

 

i redeg yn yr un

 

fan.

Mae hi 

 

yno pan edrychaf tua’r môr.

Bythol

 

fel y gedrwydden,

Mae hi’n brasgamu’r

gorwel

 

tuag ataf.

 

Mae’r llinyn,

 

 

wedi gwreiddio yn fy mrest,

yn gefynnu o amgylch ei harddyrnau.

 

Mae’n ddrwg gennyf ei gweld yn gaeth,

gweld sut mae fy hiraeth yn gadael

atgofion blin ar ei

 

chroen.

 

Ond wallahi rwy’n gobeithio na rwygai fyth

 

Hanan Issa

Bardd ac awdur Cymreig-Iracaidd yw Hanan Issa. Hi yw cyd-sylfaenydd cyfres meic agored BAME gyntaf Cymru ‘Where I’m Coming From’. Roedd hi’n un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2018-2019. Cyhoeddwyd ei phamffled barddoniaeth cyntaf My Body Can House Two Hearts gan BurningEye Books ym mis Hydref 2019. Mae hi wedi cael sylw ar ITV Cymru a BBC Radio Wales ac wedi gweithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Artes Mundi, Prifysgol Warwick, Fringe Abertawe, Gŵyl StAnza, Wales Arts International a Seren Books. Cyhoeddwyd ei gwaith yn Banat Collective, Hedgehog Press, Wales Arts Review, Sukoon mag, 4 Journal, Poetry Wales, Parthian, Y Stamp, cylchgrawn sister-hood a MuslimGirl.com. Cafodd ei monolog buddugol sylw yn Bush Theatre’s Hijabi Monologues.

Aisha Naamani

Cyn hyfforddi yn Ysgol Ddawns Gyfoes Llundain, cafodd ei magu yn Ne Cymru ac roedd yn aelod cyswllt Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru o 2012-2015. Ers symud i Lundain, bu’n perfformio gweithiau gan Richard Alston, Wayne Parsons (Rafael Bonachela), James Cousins a Hofesh Shechter ymysg eraill. Cafodd peth o’i gwaith coreograffig ei ddangos yn The Place Theatre ac roedd yn ysgolor Cronfa Ysgoloriaeth Peggy Hawkins. Ymunodd â CDCCymru fel prentis dawnsiwr yn haf 2018, gan berfformio gweithiau gan Matteo Marfoglia, Mario Bermudez-Gil a Caroline Finn cyn dod yn ddawnsiwr cwmni’r flwyddyn ganlynol.

Elan Grug Muse a Shakeera Ahmun

Cyswllt / Datgyswllt
Coreograffydd, Dawnswraig a Golygydd: Shakeera Ahmun 
Bardd: Elan Grug Muse

cyswllt/datgyswllt

 

Maen nhw’n trio hedfan barcud.

Ei lansio’n uchel, ei ddwylo’n dynn

am ei dwylo bychan. Llinynnau’n tynnu,

y sgwaryn bach yn saethu fyny cyn plymio

nôl i’r traeth. Mae’n gwrthod cydio.

Maen nhw’n ôl y barcud a thrio eto.

Ei bochau’n cochi. Does dim yn tycio. 

Ac ar y dŵr mae bwi’n nofio,

hwnnw hefyd ynghlwm wrth rywbeth, 

yn tynnu ar raff. Mae’r gwynt

yn chwipio’r dillad ar y lein, y ceblau trydan.

Dwi’n meddwl am rubanau’r hen gaséts

dynnais unwaith o’r riliau a’u taenu’n

wymon tywyll dros y tŷ. Dwi’n 

dychmygu’r ceblau’n llacio, dychmygu’r bwi

yn datod ei holl glymau un min nos

a thorri’n rhydd. 

 

Mae’r ferch yn dal i drio, ei thalcen

yn grych o ganolbwyntio, dwylo dad

yn dal ei phenelin. Mae mam yn lansio’r 

barcud. Mae’r gwynt yn cydio. Y tri

yn sefyll yno’n gwylio’i hediad llyfn,

y ferch yn llywio, plwc i’r chwith,

addasu’r tensiwn, ac yna’n

gadael fynd.   

 

//

 

attachment/detachment

 

They’re trying to fly a kite. 

Launching it high, his hands tight

on her small hands. Line’s pull, 

the small square shoots up before plummeting

back to the beach. It won’t catch. 

They fetch the kite and try again. 

Her cheeks get redder. Nothing works. 

On the water, a buoy swims, 

it is also tied to something, 

is pulling on a rope. The wind

whips the clothes on the line, the electric cables. 

I think of the ribbons of the old cassettes

that I pulled one time from their reels and spread them

like dark seaweed around the house. I

imagine the cables loosening, imagine the buoy 

untying all its knots one evening

and breaking free. 

 

The girl is still trying, her forehead

in a crease of concentration, dad’s hands

holding her elbow. Mam launches

the kite. The wind catches it. The three

stand there watching its smooth flight, 

the girl steering, pluck to the left, 

adjusting the tension, and then

letting go. 

Elan Grug Muse

Mae Grug Muse yn fardd, golygydd ac ymchwilydd. Mae’n un o sylfaenwyr a golygyddion cylchgrawn Y Stamp ac fe gyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf, Ar Ddisberod, gyda Barddas yn 2017. Mae hi’n un o breswylwyr Ulysses Shelter 2020, ac yn ddeilydd Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru 2020. Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi mewn cyhoeddiadau yn cynnwys O’r Pedwar Gwynt, Barddas, Poetry Wales, Panorama: the journal of intelligent travel ac eraill. Roedd yn un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2018-19, ac fe enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2013, a chadair yr Eisteddfod Ryng-golegol yn 2019. Mae’n gweithio ar hyn o bryd ar brosiect doethurol ym Mhrifysgol Abertawe, dan nawdd y Ganolfan yr AHRC ar gyfer Ymchwil Doethurol mewn Astudiaethau Celtaidd.

Shakeera Ahmun

Mae Shakeera Ahmun yn artist dawns llawrydd o Gaerdydd. Caiff ei hysbrydoli gan gerddoriaeth a’r arliw rhythmic hwnnw sy’n ei gyrru’n gorfforol ac yn parhau I liwio ac ysbrydoli iaith ei symudiadau. Bu hefyd yn gweithio gyda theatr corfforol yn ddiweddar, a gafodd effaith gadarnhaol sylwedddol ar ei chrefft.

Connor Allen a Jodi Ann Nicholson

The Branches of Me
Coreograffydd a Dawnswraig: Jodi Ann Nicholson 
Bardd: Connor Allen

 

Connor Allen

Ers graddio o Brifysgol Y Drindod Dewi Sant fel actor, mae Connor Allen wedi gweithio gyda chwmnïau megis Theatr Torch, Theatr y Sherman, Theatr Tin Shed a National Theatre Wales. Mae’n aelod o Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain ac fe enillodd rownd Caerdydd o’r Triforces MonologueSlam, gan gynrychioli Cymru yn Llundain ar gyfer y rownd derfynol. Fel awdur, mae wedi ysgrifennu ar gyfer Dirty Protest, Y Sherman, a BBC Cymru. Derbyniodd nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer ei ddrama gyntaf, a chomisiwn gan Llenyddiaeth Cymru. Mae hefyd yn rhan o’r BBC Wales Welsh Voices 19/20 a Grŵp Awduron Cymreig y Royal Court.

Jodi Ann Nicholson

Dawnswraig o dde Cymru ydi Jodi Ann Nicholson. Ers iddi hyfforddi yn Laban ac astudio Celf Gain yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd mae ei gwaith creadigol yn plethu gwneuthuriad yr hunan a hunaniaeth. Fel rhywun sydd wedi ei mabwysiadu, mae Jodi yn archwilio’r syniadau hyn drwy naratif hunangofiannol. Mae symudiad, brodwaith a thecstilau yn rhoi strwythur i’w chwestiwn parhaus: beth sy’n creu hunaniaeth?

Mae ei gwaith diweddar wedi agor drysau i waith archwilio dyfnach rhwng testun/iaith a dawns, gan gysylltu’r gwaith hwn i’w chyfleon artistig parhaus. Mae Jodi yn gwirioni ar strwythurau rhythmic y ddau ddisgyblaeth, ac yn arhcwilio’r berthynas rhwng y ddau.

Aneirin Karadog a Joe Powell-Main

O'r Lludw
Coreograffydd a Dawnsiwr: Joe Powell-Main
Bardd: Aneirin Karadog

O’r Lludw

Mae’n hawdd meddwl am yn ôl;

ail-wawrio’r dydd o falurion doe,

ail-droedio’r eiliadau ar hyd amlinell bell,

gan bwyllo, i gael yn ôl y golau hen a aeth

a chael hyd i eiliadau a fachludodd

yn wyll.

 

Ond o frigau mân fe ddaw `na dân

a’n dawns yw’r hyn a gyneuwn

yn ein nawr â’r ennyd yn danbaid,

lle gall fflam droi’n alarch!

 

Y nawr lle mae’r corff yn glorian,

y nawr lle nad yw disgyrchiant

yn ddim ond aelod o’r gynulleidfa.

Nawr ydym ni a ni yw’r hyn

y mae’r meddwl yn ei freuddwydio,

yn ein gweld yn hedfan yn yr unfan 

mewn gwynfyd, a’r ennyd o dan rew.

 

Ydy, mae’n hawdd meddwl am yn ôl,

ond ymlaen o hyd y mae lôn a’i haul…

 

//

 

From The Ashes

 

We can all ponder in reverse,

re-dawning the day from yesterday’s shatterings,

re-treading the seconds along a long outline,

contemplating, trying to retrieve the light that wedi went

and rediscovering seconds that had set with the sun,

a void.

 

But from kindling comes a fire

and our dance is what we light

in our now, the moment a feu d’artifice

where a flame can become a swan!

 

The now where the body is in the balance,

the now where gravity is merely

a member of the audience,

we are now; we are what our minds dream,

seeing ourselves flying, hovering

in bliss, frozen in the moment.

 

Yes, we can all ponder in reverse,

but ahead, always, is a sunny path…

Aneirin Karadog

Enillodd Aneirin Karadog Gadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau yn 2016 gyda dilyniant o gerddi ar y thema ‘Ffiniau’. Mae’n aelod o dîm Y Deheubarth yn Ymryson blynyddol y beirdd ac mae wedi ennill sawl gwobr am ei gerddi caeth: Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004, Cadair yr Urdd yng Nghaerdydd 2005 a chategori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn ddwywaith gyda’i gyfrol gyntaf O Annwn i Geltia (Cyhoeddiadau Barddas, 2012) ac yna eto gyda’i ail gyfrol Bylchau (Cyhoeddiadau Barddas, 2016). Mae’n cyd-gyflwyno a chyd-gynhyrchu podlediad Barddol Cymraeg gydag Eurig Salisbury o’r enw Clera, gyda phenodau newydd yn fisol ers Hydref 2016. Yn 2019 cyhoeddodd gyfrol arall o gerddi, Llafargan (Cyhoeddiadau Barddas). Aneirin oedd Bardd Plant Cymru 2013-15.

Joe Powell-Main

Mae Joe Powell-Main yn ddau-ddeg-dau mlwydd oed ac yn hanu o’r canolbarth. Roedd Joe yn un o gysylltion ifanc y Royal Ballet School am dair blynedd ac yn mynychu dosbarthiadau wythnosol bob dydd Sadwrn ym Mirmingham. Yn ystod y rhaglen Cysylltion Ifanc, perfformiodd Joe gyda’r Birmingham Royal Bellt yn The Nutcracker ac yn Sylvia (taith DU). Bu Joe hefyd yn gweithio gyda’r Elmhurst Ballet School am flwyddyn, trwy raglen cyn-alwedigaeol. Cafodd ei dderbyn i’r Lower School y Royal Ballet School yn White Lodge, Richmond; ble bu’n astudio ac yn hyfforddi am bedair blynedd.

Yn dilyn damwain car difrifol, fu’n gyfrifol am ei anabledd sy’n effeithio ei goes a’I droed chwith, daeth perthynas Joe â dawns i ben am y tro. Fodd bynnag, tair mlynedd yn ddiweddarach, aildaniwyd y berthynas honno wedi iddo ddechrau dawnsio ballroom a latin ar gyfer cadair olwyn. Ef yw Pencampwr Para-ddawns Cenedlaethol y DU ar hyn o bryd. Yn ddiweddar, graddiodd gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Dawns a Pherfformio drwy Arden School of Theatre ym Manceinion. Cychwynodd brentisiaeth gyda Ballet Cymru ym mis Medi 2019, drwy eu Rhaglen Cyn-Broffesiynol. Roedd Joe yn serenu ar hysbyseb Nadolig S4C gyda cyd-ddawnsiwyr o Ballet Cymru. Eleni, ymunodd Joe â thim Ballet Cymru fel un o’u dawnswyr, ac mae’n edrych ymlaen at weithio gyda’r cwmni ar gynhyrchiad newydd o Giselle yn 2021.

clare e. potter a Jo Shapland

Swyn-gân / Summoning
Bardd: clare e. potter
Coreograffydd a Dawnswraig: Jo Shapland
Ffilm a Golygu: Jo Shapland
Effeithiau a Sain: Jonathan Dunn
Camera: Anita Kolaczynska, Jo Shapland

Swyn-gân / Summoning 

 

Here, 

 

Pwll-y-Wrach, the witches’ cauldron 

soup of iaith, words held and spoken. 

 

Rhythm pulled by moon and tongue 

hear its pitch from swell and belch 

wrack and kelp of vowels sung 

 

Look now to this murmuring trickster 

pre-linguistic meaning-maker 

 

Pull and pwll, push through bwlch   

pull and pwll, push . . . 

 

 

Here the baptised words are brining 

consonants reverberating 

the tide’s a swirl of incantation 

sacred knowing being written 

under chin of rock, the sea’s graffiti 

yr iaith gaeth ar y traeth 

on shale of shore, the healing lip. 

 

//

 

Swyn-gân / Y Galw

 

Fan hyn, 

 

Pwll y wrach, pair y widdon 

geiriau’n gawlyn llafar gyson. 

 

Rhyddm yn dynfa rhwng tafod a lloer 

clywo’i ymchwydda’i fytheirio, 

forwiail a gwymon llafariaid yn gân 

 

Gwyliwch rhag murmur y twyllwr maith 

gwneuthurwr ystyr cyn bod iaith 

 

Yn tynnuyn rhygnuyn gwthio drwy’r bwlch 

 

yn tynnuyn rhygnuyn gwthio 

 

 

Fan hyndaw’r geiriau o’u bedydd heli 

a’u cytseiniaid yn corddi, 

a’r llanw’n chwyrlïo’i swynganeuon  

yn sanctaidd hengallo’u naddu’n gyson 

dan ên y graiggraffiti’r môr, 

yr iaith gaeth ar y traeth, 

cerigos min y môr, a hwnnw’n iachau 

clare e. potter

Bardd a pherfformwraig ddwyieithog yw clare e. potter, ac mae ganddi MA mewn Llenyddiaeth Affro-Garibïaidd o Brifysgol Mississippi. Bu’n byw yn New Orleans am ddegawd a chafodd gyllid gan Gyngor y Celfyddydau i ymateb i ddinistr Corwynt Katrina gyda phumawd jazz. Mae clare wedi cyfieithu gwaith Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ac mae’n cydweithio ag artistiaid i greu gosodiadau barddoniaeth mewn gofodau cyhoeddus. Enillodd Wobr John Trip am Berfformio Barddoniaeth yn 2005 a bu gyda’i thad ar y Listening Project ar BBC Radio 4, yn archwilio tarddiad emosiwn mewn barddoniaeth. Yn 2018, clare oedd bardd preswyl Gŵyl Velvet Coalmine – lle bu yn Sefydliad y Glowyr yn casglu straeon pobl am yr adeilad diwylliannol a gwleidyddol pwysig hwnnw.

Jo Shapland

Dawns ydi gwaith Jo Shapland; boed drwy lif newid mewn deunyddiau a gwrthrychau, mewn lluniau ffilm neu symudedd y corff drwy wagle. Ei phrif flaenoriaeth ydi ymberthnasu ac ymateb i natur ac i’r awydd o arbrofi gyda’r corff. Mae ei phrosiectau safle-benodol yn amrywio o adfeilion amaethyddol i theatrau proffesiynol, ac o diroedd gwyllt i waith pensaernïol dinesig. Yn wreiddiol, hyfforddodd fel Dawnswraig Gyfoes, ond mae hi bellach yn ymarfer Martial Arts Asiaidd ac ymarferion ymwybyddiaeth; syrcas awyr a byrfyfyrio; ac yn parhau i archwilio dawns fewnol a’i effaith ar bresenoldeb a chreadigrwydd. Ym mis Ionawr 2020, perfformiodd Told by the Wind (wedi ei greu ar y cyd gyda Grŵp Llanarth) yn ITFOK, India. Uchafbwyntiau eraill ei gyrfa ydi ennill Prif Wobr Creative Wales gyda Being in Place, a dathlu estyniad Mostyn, Llandudno gydag [in]space.

Nôl i Ein Prosiectau