Mae Aber Bach yn cael ei deitl gan enw cildraeth yng ngorllewin Cymru lle gellir clywed synau melin wlân a’r môr. Mae ‘Aber’ a ‘Bach’ i’w cael yn Gymraeg ac yn Almaeneg, er bod ganddynt ystyron gwahanol. O’r syniad hwn, mae’r ffilm, a gafodd ei ffilmio ym Melin Wlân Melin Tregwynt yn Sir Benfro a’i greu mewn cydweithrediad â Rufus Mufasa, Hanan Issa a Tim Volleman, yn archwilio sut y gallwn blethu geiriau i greu patrymau newydd o berthyn.
Artistiaid
Enillodd Mererid Hopwood Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu’n fardd Plant Cymru ac enillodd wobr Tir na n-Og am ei nofel i blant, Miss Prydderch a’r Carped Hud (Gwasg Gomer) yn 2018. Enillodd ei chasgliad o gerddi, Nes Draw (Gwasg Gomer, 2015), wobr barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2016. Bu’n cydweithio â cherddorion yn cynnwys Karl Jenkins, Eric Jones, Gareth Glyn, Christopher Tin a Robat Arwyn ac yn cymryd rhan mewn gwyliau llenyddol yn Ewrop, Asia a De America. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Ddysgedig, yn gadeirydd Cymdeithas y Cymod ac yn llywydd anrhydeddus Cymdeithas Waldo Williams.
Yn wreiddiol o Bologna, hyfforddodd Elena Sgarbi yn broffesiynol fel perfformiwr dawns yn CODARTS yn yr Iseldiroedd. Am dros ddegawd, bu’n byw a gweithio fel dawnsiwr yn yr Iseldiroedd gyda’r cwmni dawns de Stilte ac fel gweithiwr llawrydd ar sawl cydweithrediad celf, gan berfformio ledled y byd. Trwy gydol ei gyrfa, bu iddi ymgysylltu a datblygu diddordeb mewn addysg ddawns a chelf, yn enwedig ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc. Yn 2017 symudodd i Gaerdydd lle ymunodd â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru fel dawnsiwr llawn-amser. Mae hi bellach yn mwynhau dod i adnabod diwylliant newydd trwy ddawns a’r nifer o gydweithrediadau celf y mae’n ymgysylltu â nhw trwy’r cwmni.
Y Gerdd
Aber Bach
But a stream
Ym mwlch y blynyddoedd beth wnawn ni nawr,
ond casglu ein geiriau fel edafedd o’r llawr?
Und hier in der Sprache wo ‘warten’ heißt ‘hoffen’,
laßt uns zusammen die Bedeutungen flechten.
Let’s gather the meanings together and weave
glauben a chredu think and believe,
let’s unfold the future, pass words hand to hand,
o galon i galon, von Wasser an Land …
Gwennol shuttle Schiffchen, blau glas blue,
Wir a we a ni a they a sie a nhw,
bißchen ’chydig Bach stream nant ffrwd,
Frieden peace heddwch, eifrig keen brwd.
Vielleicht p’rhaps falle, still, still, stond
حُب cariad love, aber but ond,
aber mouth Mündung, Mähne mane mwng,
sisial murmur rauschen, zwischen between rhwng.
Wahrheit truth gwirionedd, singen canu song,
cadarn cadarn cadarn, perthyn gehören belong;
Kugel sphere cronnell,
more mwy mehr,
Schreiber yw llenor,
Sterne yw’r sêr.
ENGLISH VERSION
Aber Bach
But a stream
In the breach between the years, what shall we do
but pick up our words like threads?
And here, in the language where ‘to wait’ is ‘to hope’,
let’s gather the meanings together and weave
glauben a chredu think and believe,
let’s unfold the future, pass words hand to hand,
from heart to heart, water to land …
Gwennol shuttle Schiffchen, blau glas blue,
Wir a we a ni a they a sie a nhw,
bißchen ’chydig Bach stream nant ffrwd,
Frieden peace heddwch, eifrig keen brwd.
Vielleicht p’rhaps falle, still, still, stond
حُب cariad love, aber but ond,
Aber mouth, Mündung, Mähne mane mwng,
sisial murmur rauschen, zwischen between rhwng.
Wahrheit truth gwirionedd, singen canu song,
cadarn cadarn cadarn, perthyn gehören belong;
Kugel sphere cronnell,
more mwy mehr,
Schreiber writer llenor,
Sterne stars sêr.
GERMAN VERSION
Aber Bach
But a stream
An der Jahreschwelle was bleibt nun zu tun,
als unsere Wörter wie Fäden wieder aufzunehmen?
Und hier in der Sprache, wo ‘warten’ heißt ‘hoffen’,
laßt uns zusammen die Bedeutungen flechten,
die Zukunft entfalten, die Wörter
von Hand zu Hand,
von Herz zu Herz,
von Wasser an Land
gehen lassen.
Gwennol shuttle Schiffchen, blau glas blue,
Wir a we a ni a they a sie a nhw,
bißchen ’chydig Bach, stream nant ffrwd,
Frieden peace heddwch, eifrig keen brwd.
Vielleicht p’rhaps falle, still, still, stond
حُب cariad love, aber but ond,
aber mouth Mündung, Mähne mane mwng,
sisial murmur rauschen, zwischen between rhwng.
Wahrheit truth gwirionedd, singen canu song,
cadarn cadarn cadarn, perthyn gehören belong;
Kugel sphere cronnell,
more mwy mehr,
Schreiber heißt llenor,
Sterne, sêr.