Dewislen
English
Cysylltwch

I wylio’r fideo gydag is-deitlau neu gyfieithiad, cliciwch ar yr eicon is-deitlau ar y fideo YouTube. 

 

Mae pob un ohonom yn profi sawl taith drwy gydol ein hoes; rhai ohonynt yn deithiau bach ac ansylweddol, eraill yn rhai mawr a thrawsnewidiol, mae gan bob profiad botensial cadarnhaol neu negyddol.  A oes modd i ni greu bag emosiynol – sy’n cynnwys agweddau o arweiniad neu ffynonellau cysur – y gallwn ddwyn gwytnwch ohonynt, er mwyn wynebu adegau mwy heriol?  Yng nghanol storm emosiynol, pan fo ein greddf naturiol wedi ein gadael, a oes modd i ni ddysgu i barhau i anadlu a dod o hyd i ffordd drwy’r profiad?

 

Cerdd: Wedi’i hysgrifennu a’i pherfformio gan Patrick Jones 

Dawns: Wedi’i choreograffu a’i pherfformio gan Yvette C Halfhide

Cerddoriaeth: Wedi’i chyfansoddi a’i pherfformio gan Helen Woods

Camera: Helen Woods

Ffilmio a Golygu: Helen Woods, Yvette C Halfhide a Jonathan Dunn

 

Artistiaid

Mae Patrick Jones yn fardd ac yn ddramodwr o’r Coed Duon, ac mae wedi gweithio’n eang mewn lleoliadau iechyd a chymunedol. Yn Ysgrifennydd Preswyl gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru ar hyn o bryd, mae wedi gweithio â Forget Me Not Chorus, sef côr o unigolion sy’n byw â Dementia, ar brosiect sy’n cofnodi rhai o hoff ganeuon yr aelodau, a’r hanesion sydd y tu ôl iddynt. Mae Patrick wedi gweithio â Mind Cymru, y Samariaid, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Ysbyty Felindre, y Big Issue a mwy, ar amrywiaeth o brosiectau ysgrifennu ar gyfer iechyd a llesiant. Mae ei gyhoeddiad diweddaraf, My Bright Shadow (Rough Trade Books, 2019), yn gasgliad o farddoniaeth sy’n archwilio galar, bywyd a chariad.

Mynychodd Yvette C Halfhide y Central School of Ballet, Llundain, cyn symud i’r Almaen i weithio gyda Ballet Schindowski, ac wedi hynny i Gymru, i weithio â Diversions, sef Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru erbyn hyn, yng Nghaerdydd. Mae Yvette hefyd wedi perfformio â Chwmnïoedd Dawns Russell Maliphant a Sinman, yn ogystal â Ffin Dance, lle’r oedd hi’n gweithio fel Cyfarwyddwr Ymarferion. Treuliodd Yvette sawl blwyddyn yn gweithio fel hwylusydd symudiad creadigol gyda’r elusen Touch Trust yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac yng ngwanwyn 2015, daeth yn Artist Dawns Cyswllt ar y rhaglen Dawns ar gyfer Parkinson’s, a sefydlwyd gan English National Ballet ac mewn partneriaeth â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Yn 2021, cwblhaodd Yvette gymhwyster Hyfforddiant i Hyfforddwyr Sefydlogrwydd Osgo drwy Later Lifer Training.

Mae Helen Woods yn gyfansoddwraig, animeiddiwr cerdd, cyfarwyddwr cerdd a pherfformiwr.  Mae hi wedi cyfansoddi 4 sioe gerdd lawn, sawl cylch cân, dros gant o ganeuon i blant ac yn cyfansoddi’r gerddoriaeth ar gyfer y Tiddly Prom, y mae’n ei pherfformio gyda’r storïwr Richard Berry.  Comisiynwyd Helen i gyfansoddi A Real Princess ar gyfer WNO, opera ar gyfer plant 4 – 5 oed, ac yn haf 2021, perfformiodd yr opera Rumpelstiltskin ar-lein am y tro cyntaf i ysgolion.  Yn 2020, comisiynwyd Helen, gyda’i merch hynaf, i greu perfformiad cerddoriaeth a symudiad dwyieithog o’r enw Barod! ar gyfer meithrinfeydd.  Dim ond un waith y cafodd ei berfformio cyn covid, a chwblhawyd taith fechan, hynod boblogaidd, o feithrinfeydd Caerdydd yn haf 21.  Cafodd Barod! ei archebu wedyn ar gyfer dwy ŵyl yn yr haf, ac ar gyfer meithrinfeydd yn RCT yn yr hydref. Yn 2013 derbyniodd Helen Wobr Cyngor y Celfyddydau i ddatblygu ei harfer cyfansoddiadol ac archwilio themâu sy’n ymwneud â threftadaeth a hunaniaeth, cyfres o ddarnau o’r enw Through Time. Mae Helen yn arbenigo mewn cerddoriaeth i blant dan bump oed, a chyfansoddi gyda nhw, ond mae ganddi brofiad o weithio ar amrywiaeth enfawr o brosiectau a chynyrchiadau cerddoriaeth gyda phob oedran, gan gynnwys gweithio fel cerddor cyswllt gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac English National Ballet ar eu rhaglen Dawns ar gyfer Parkinson’s ac arwain Côr ar gyfer Pobl Iau â Dementia. Mae Helen yn fardd cyhoeddedig ac yn diwtor Javanese Gamelan.

 

Y Gerdd

 

Breathe Against the Hurricanes

When the world throws its spears

And the days become  too dark

As the noise becomes overwhelming,

The  skies grey and  threatening

And anxiety strikes the heart

 

There is a simple act

To fend off the crushing impact

Of the flight or fight attack

That armours the aching soul

And  enables us to regain some  control

 

Breathe in  1 2 3 4

Like the first sound when you were born

Swallow the forest’s song just like before

A shield against the war

Replace their walls with doors

Stitch love into loss

Let balance be restored

 

Hold  5 6 7 8

Listen as  the lullabies resonate

The soft  Summer tides rejuvenate

And soothe the busied brain

Plant seeds that slowly germinate

Like the cakes you Mother once baked

 

Exhale 9 10 11 12

An air pocket sanctuary in which to dwell

All the hurricanes you shall repel

In this replenishing refuge

Hold fast, weave a magic breathspell

Where you begin, again,  to be yourself

 

Remember to forget

It is not too late to make our choice

And in the  calming cadence of self care

we shall find our voice

the fall, the rise, a mind repair,

to energise  to stabilize

and humanize

the fall

the rise.

 

-Patrick Jones

 

/

 

Anadla’n erbyn y corwyntoedd

Pan fo’r byd yn taflu’i bicellau

A’r dyddiau’n gwneud dim ond duo

A’r sŵn yn rhuo yn ei anterth,

Yr awyr yn llawn llwydni bygythiol

A gorbryder yn ergydio’r galon

 

Mae un weithred fach

I ochel ein caer rhag ergydion

ymosodiad ein hunan-amddiffyniad

Sy’n arfwisg am yr enaid a’i ennuit

Sy’n ein galluogi i ad-ennill ein gorsedd a rheoli

 

Anadla mewn 1 2 3 4

Fel y sain gyntaf yn ennyd dy eni

Llynca gân y goedwig fel y dyddiau gynt

Tarian rhag y rhyfel

Pwytha gariad drwy’r galar

Boed adferiad i gydbwysedd

 

A’i ddal 5 6 7 8

Gwranda wrth i’r hwiangerddi ganu ar gerrig ateb

Mae llanw a thrai’r haf yn meddalu, mynd yn iau,

Yn lleddfu dinas brysur yr ymennydd

Planna hadau sy’n egino’n araf

Fel y cacennau a bobwyd slawer dydd gan dy fam

 

Ac allan 9 10 11 12

Poced o aer yn lloches i gael myfyrio

Pob corwynt y byddi’n tynnu gwynt o’i hwyliau

Yn y lloches sy’n llawn lles,

Dal yn dynn, a gwau ana’l o ledrith

Gan ddechrau teimlo’n ti dy hun

 

Cofia anghofio

Nad yw’n rhy hwyr i ti ddewis

Ac yn nhangnefedd y gynghanedd a’i gofal

Fe ganfyddwn ein llais,

Yn disgyn, esgyn, yn mendio’r meddwl,

Ac wele egnïwyd, sadiwyd,

A dynoliaeth a wnaethpwyd

Yn gwymp

A gwyd.

 

-Patrick Jones
addasiad gan Aneirin Karadog

Nôl i Plethu/Weave