Er mwyn gwylio’r fideo gydag is-deitlau / cyfieithiad, cliciwch y botwm is-deitlau ar y fideo YouTube.
Artistiaid
Bardd ac awdur Cymreig-Iracaidd yw Hanan Issa. Hi yw cyd-sylfaenydd cyfres meic agored BAME gyntaf Cymru ‘Where I’m Coming From’. Roedd hi’n un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2018-2019. Cyhoeddwyd ei phamffled barddoniaeth cyntaf My Body Can House Two Hearts gan BurningEye Books ym mis Hydref 2019. Mae hi wedi cael sylw ar ITV Cymru a BBC Radio Wales ac wedi gweithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Artes Mundi, Prifysgol Warwick, Fringe Abertawe, Gŵyl StAnza, Wales Arts International a Seren Books. Cyhoeddwyd ei gwaith yn Banat Collective, Hedgehog Press, Wales Arts Review, Sukoon mag, 4 Journal, Poetry Wales, Parthian, Y Stamp, cylchgrawn sister-hood a MuslimGirl.com. Cafodd ei monolog buddugol sylw yn Bush Theatre’s Hijabi Monologues.
Cyn hyfforddi yn Ysgol Ddawns Gyfoes Llundain, cafodd Aisha Naamani magu yn Ne Cymru ac roedd yn aelod cyswllt Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru o 2012-2015. Ers symud i Lundain, bu’n perfformio gweithiau gan Richard Alston, Wayne Parsons (Rafael Bonachela), James Cousins a Hofesh Shechter ymysg eraill. Cafodd peth o’i gwaith coreograffig ei ddangos yn The Place Theatre ac roedd yn ysgolor Cronfa Ysgoloriaeth Peggy Hawkins. Ymunodd â CDCCymru fel prentis dawnsiwr yn haf 2018, gan berfformio gweithiau gan Matteo Marfoglia, Mario Bermudez-Gil a Caroline Finn cyn dod yn ddawnsiwr cwmni’r flwyddyn ganlynol.
Y Gerdd
Ble Mae Bilaadi?
When my Khala speaks, a metallic voice on the phone,
I want to respond ‘زين الحمد الله’
but I have swallowed too many dandelion seeds.
I cough up a cardamom.
What’s the word for cardamom in Arabic?
I can’t remember.
Guilty I reply into a tin can:
‘I’m fine aunty’,
and watch the miles of quivering string disappear into crackling darkness.
That night I remember: It’s هیل
The ‘H’ a sweet
exhale.
The string knots inside my chest.
and it feels dangerous,
like I’m holding too much:
Like a world pretending to be a city
and so I run. My feet on Cardiff concrete,
pounding footprints melting myself into the memory of here.
But the string in my chest never ceases its song:
about a land abandoned – her beauty braided into my bones.
‘Ya Bilaadi’ sings the
string.
I always stop
running in the same
place.
She is
there when I look out to sea.
Eternal
as the cedar tree,
She strides
the horizon
towards me.
The string,
rooted in my chest,
handcuffs around her wrists.
I am sorry to see her bound,
to see how my longing leaves
angry memories on her
skin.
But wallahi I hope it never tears
//
Pan glywaf lais metelaidd Khala yn siarad ar y ffôn,
Rwyf eisiau ateb â ‘زين الحمد الله’
ond rwyf wedi llyncu gormod o hadau dant y llew.
Rwy’n poeri cardamom allan.
Beth yw’r gair Arabeg am gardamom?
Ni allaf gofio.
Yn euog, rwy’n ateb i mewn i gan tun:
‘Rwy’n iawn fodryb’,
a gwylio’r milltiroedd o linyn crynedig yn diflannu i dywyllwch clindarddol.
Y noson honno rwy’n cofio: هیل ydyw
Yr ‘H’, anadliad
melys.
Mae’r llinyn yn clymu tu mewn i’m brest.
ac mae’n teimlo’n beryglus,
fel pe bawn yn dal gormod:
Fel byd yn honni bod yn ddinas
Ac felly rwy’n rhedeg. Fy nhraed ar goncrit Caerdydd, fy olion traed yn cerfio cofnod ohonof.
Ond nid yw’r llinyn yn fy mrest byth yn rhoi’r gorau i’w gân:
am dir wedi’i adael – ei phrydferthwch ym mer fy esgyrn.
‘Ya Bilaadi’ canai’r
llinyn.
Rwyf bob amser yn rhoi’r gorau
i redeg yn yr un
fan.
Mae hi
yno pan edrychaf tua’r môr.
Bythol
fel y gedrwydden,
Mae hi’n brasgamu’r
gorwel
tuag ataf.
Mae’r llinyn,
wedi gwreiddio yn fy mrest,
yn gefynnu o amgylch ei harddyrnau.
Mae’n ddrwg gennyf ei gweld yn gaeth,
gweld sut mae fy hiraeth yn gadael
atgofion blin ar ei
chroen.
Ond wallahi rwy’n gobeithio na rwygai fyth