Er mwyn gwylio’r fideo gydag is-deitlau / cyfieithiad, cliciwch y botwm is-deitlau ar y fideo YouTube.
Artistiaid
Enillodd Mererid Hopwood Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu’n fardd Plant Cymru ac enillodd wobr Tir na n-Og am ei nofel i blant, Miss Prydderch a’r Carped Hud (Gwasg Gomer) yn 2018. Enillodd ei chasgliad o gerddi, Nes Draw (Gwasg Gomer, 2015), wobr barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2016. Bu’n cydweithio â cherddorion yn cynnwys Karl Jenkins, Eric Jones, Gareth Glyn, Christopher Tin a Robat Arwyn ac yn cymryd rhan mewn gwyliau llenyddol yn Ewrop, Asia a De America. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Ddysgedig, yn gadeirydd Cymdeithas y Cymod ac yn llywydd anrhydeddus Cymdeithas Waldo Williams. Mae’n Athro yn yr Athrofa, Y Drindod Dewi Sant.
Cafodd Tim Volleman ei eni yn yr Iseldiroedd, lle y dechreuodd ddawnsio yn dair oed. Yn ddeg oed dechreuodd ei gyn-addysg yn Fontys (Tilburg) a pharhau hyd ei raglen gradd Baglor yn Codarts, Academi Dawns Rotterdam. Fel dawnsiwr proffesiynol, gweithiodd gyda chwmnïau megis Cathy Sharp Dance Ensemble, Internationaal Dans Theater, Nederlands Dans Theater II a de Stilte cyn ymuno â CDCCymru ym mis Rhagfyr 2017. Mae ei yrfa lawrydd yn cynnwys gweithio gyda’r artistiaid annibynnol Jagoda Bobrowska, Heidi Vierthaler a Juanjo Arques.
Y Gerdd
Hirddydd
Dere’n nes, mae’n stori ni
tu allan
lle mae’r gân yn geni’r
hirddydd; mae dy welydd di’n
rhy gyfyng ac mae’r gofid
anniben yn dy ben fel diwedd byd.
Dere, gwêl, y ffin drwy gil y ffenest,
ffin ddi-dor, ffin fforest,
ffin cul, ffin y cwest
unig,
gwêl, mae’n ffin anonest.
Dawn byw yw gweld nad yw’n bod.
Dy ateb? Ehedeg a’i datod
o’r newydd, yr hirddydd hwn,
ac yn ei lle cael llinyn hen berthyn y byd
i’th dynnu’n rhydd,
o’r newydd,
a’n hail-uno ni
ym mhatrwm ers talwm – yn deulu –
y patrwm glân sydd â lle i gân ein lliwiau i gyd.
Rhith yw’r ffin.
Gwthia’r ffenest.
Cei batrwm cwlwm calon.
Gwêl
yr edefyn golau’n galw:
‘nofia!’,
mor siŵr â llif y dŵr.
Dere.
//
Hirddydd
(The longest day)
Come closer, our story lies
outside
where the song is giving birth
to the longest day; your walls
are too confining, and the messy worry
inside your head is like the end of the world.
Come, see the boundary
through the just-open window,
that never-ending boundary,
boundary of forest,
narrow boundary,
the boundary of the lonely
searching.
See its dishonesty.
The gift of life is to know it doesn’t exist.
Your answer? Fly. Unpick it
anew, this longest day,
and instead of it,
find the thread of all belonging
to pull you free
anew,
to reunite us
in the world-old pattern
that makes a space for the song
of all our colours.
That spectral boundary!
Push the window.
Find the pattern that binds hearts.
See,
the thread of light is calling:
‘swim!’,
as sure as the flow of water.
Come.
//
Hirddydd
The longest day
Dere’n nes, mae’n stori ni
Come closer, our story lies
tu allan
outside
lle mae’r gân yn geni’r
where the song is giving birth
hirddydd; mae dy welydd di’n
to the longest day; your walls
rhy gyfyng ac mae’r gofid
are too confining, and the messy worry
anniben yn dy ben fel diwedd byd.
inside your head is like the end of the world.
Dere, gwêl, y ffin drwy gil y ffenest,
Come, see the boundary,
through the just-open window,
ffin ddi-dor, ffin fforest,
that never-ending boundary,
boundary of forest,
ffin cul, ffin y cwest
narrow boundary,
the boundary of the lonely
unig,
searching.
Gwêl, mae’n ffin anonest.
See its dishonesty.
Dawn byw yw gweld nad yw’n bod.
The gift of life is to know it doesn’t exist.
Dy ateb? Ehedeg a’i datod
Your answer? Fly. Unpick it
o’r newydd yr hirddydd hwn,
anew, this longest day,
ac yn ei lle cael llinyn hen berthyn y byd
and instead of it,
find the thread of all belonging
i’th dynnu’n rhydd,
to pull you free
o’r newydd,
anew,
a’n hail-uno ni
to reunite us
ym mhatrwm ers talwm – yn deulu –
in the world-old pattern
y patrwm glân sydd â lle i gân ein lliwiau i gyd.
that makes a space for the song
of all our colours.
Rhith yw’r ffin.
That spectral boundary!
Gwthia’r ffenest.
Push the window.
Cei batrwm cwlwm calon.
Find the pattern that binds hearts.
Gwêl
See,
yr edefyn golau’n galw:
the thread of light is calling:
‘nofia!’,
‘swim!’,
mor siŵr â llif y dŵr.
as sure as the flow of water.
Dere.
Come.