Er mwyn gwylio’r fideo gydag is-deitlau / cyfieithiad, cliciwch y botwm is-deitlau ar y fideo YouTube.
Mae Mae’r Dŵr yn Dal Lle / Resurrect Dormant DNA gan y dawnsiwr Camille Giraudeau a’r ymgyrchydd llenyddol, telynegwr a’r rapiwr Rufus Mufasa, yn archwilio themâu mamolaeth a sut i greu etifeddiaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Artistiaid
Mae Rufus Mufasa yn artist cyfranogol arloesol, actifydd llenyddol, bardd, rapiwr, canwr-gyfansoddwr, gwneuthurwr theatr, ac yn olaf ond nid lleiaf, yn Fam. O Gymrawd Barbican i Fardd Preswyl cyntaf Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, mae Rufus hefyd yn gweithio’n rhyngwladol, ac wedi derbyn preswyliadau llenyddol amrywiol o Ŵyl y Gelli i Sweden, y Ffindir, Indonesia, ac yn fwyaf diweddar Zimbabwe. Serch hynny, mae hi wastad yn dychwelyd i People Speak Up yn Llanelli, Cymru, gan hyrwyddo addysg hip hop, barddoniaeth perfformio a’r datblygiad rhwng cenedlaethau, ac yn ddiweddar fe’i penodwyd yn Fardd ar Bresgripsiwn. Yn artist Hull ’19 ar y cyd â BBC Contains Strong Language, mae ei chasgliad barddoniaeth llawn o’r enw Flashbacks and Flowers yn cael ei gyhoeddi yn y dyfodol agos gydag Indigo Dreams. Mae gwaith Rufus yn archwilio mamolaeth, ysbrydolrwydd llinach, dosbarth a statws, anhrefn hinsawdd, a thrawma traws-genhedlaeth / trapiedig.
Graddiodd Camille Giraudeau o Conservatoire Cerdd a Dawns Laban yn 2011, cyn ymuno â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru fel prentis. Yn 2012 ymunodd â’r cwmni fel aelod llawn-amser gan deithio yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan berfformio gweithiau gan Christopher Bruce, Alexander Ekman, Johan Inger, Marcos Morau, Angelin Prejlocaj, Roy Asaf a Caroline Finn ymhlith llawer o rai eraill. Yn 2015 cymerodd Camille ran yn rhaglen Fentora Kerry Nichols a oedd yn amhrisiadwy i ddatblygiad ei hyfforddiant proffesiynol. Gadawodd Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ym mis Rhagfyr 2017 i ddatblygu ei hun fel artist annibynnol, gan weithio gyda’r coreograffwyr Eleesha Drennan, Alexander Whitley, John Ross, Jack Philp, Matteo Marfoglia a gwesteio o dro i dro gyda NDCWales. Ers hynny, mae Camille wedi ail-ymuno â’r cwmni fel aelod llawn amser ac yn parhau i fwynhau bywyd y cwmni.
Y Gerdd
Mae’r Dŵr yn Dal Lle / resurrect dormant DNA
Dime Dime Dime Hen Plant Bach
Salade de fruits, Jolie Jolie Jolie
Rwy’n addo teyrngarwch i gyfraith llên
Y Fenyw Ddwyfol
Tyrd â chwedlau hud menywod gwyllt i mewn
i bob dameg, odl a rhythm
cyfarwydda derwydd pob llwyth
gyda synnwyr trydydd-llygad trydydd-clust
Dea Matrona/Modron, offrymau o ffrwythau a blodau
Galw ar Kali, Hestia
Hekate, Atlanta
Tiamot, Tara
Bastet, Gaia
Ishtar-Ostara-Inana
Isis, Freya
Pravati, Yemaya
Door-Dwar-Drws-Durga
Mesuline o’r ffynhonnau a’r afonydd
Bormana, Damona
Mari Magdala wrth y drych
Cadw fy nghroes copr
Orgome, Prana…
rhai dyddiau byddi di’n dawnsio gyda cholomennod
rhai dyddiau byddi di’n galw ar y brain
rhai nosweithiau byddi di’n ymdrochi mewn halwynau
rhai nosweithiau byddi di’n rhedeg gyda bleiddiaid
mae’r hynafiaid yn ymweld wrth i’r cyfnos gordeddu
Mae’r Dŵr yn Dal Lle/resurrect dormant DNA
Dime Dime Dime Hen Plant Bach
Salade de fruits, Jolie Jolie Jolie
I pledge allegiance to the law of lore
Of the Divine Feminine
Bring Wild Woman Magik Matter in
To every riddle, rhyme & rhythm
Direct every tribes Scribe
With third-eye-third-ear listening
Dea Matrona/Modron, offerings of fruit & flower
Call on Kali, Hestia
Hekate, Atlanta
Tiamot, Tara
Bastet, Gaia
Ishtar-Ostara-Inana
Isis, Freya
Pravati, Yemaya
Door-Dwar-Drws-Durga
Mesuline of the wells & rivers
Bormana, Damona
Mary of Magdala at the mirror
Keep my cross copper
Orgome, Prana…
Some days you will dance with doves
Some days you will call on crows
Some nights you will bathe in salts
Some nights you will run with wolves
The ancestors visit at the twist of twilight
Micro-Macro-Magik/Maiden-Mother-Crone
Creatrix – Know Thyself!
Crown me in kapala made of Moon
Dance delirious in celestial simplicity
Tap-in to Source, Reboot
Apple-Afal-Pomme
Red-Coch-Rouge
This is the sound of Etifeddiaeth
Language is mother-tongue, come
Feast on the fruits…
Dime Dime Dime Hen Plant Bach
Salade de fruits, Jolie Jolie Jolie
Rufus Mufasa