Er mwyn gwylio’r fideo gydag is-deitlau / cyfieithiad, cliciwch y botwm is-deitlau ar y fideo YouTube.
Artistiaid
Mae Ed Holden / Mr Phormula yn un o arloeswyr y sîn bît-bocsio yn y DU. Wedi’i wreiddio’n ddwfn yn nhirwedd Cymru, mae’i berfformiadau ysbrydoledig a’i gyfansoddiadau lleisiol wedi rhoi cydnabyddiaeth ryngwladol i’w waith fel bît-bocsiwr, rapiwr a chynhyrchydd blaenllaw. Mae doniau dwyieithog Mr Phormula yn unigryw ac mae hyn, ynghyd â’i rhythmau slic, llinellau bas cymhellol a’i ddawn leisiol, wedi datblygu cefnogwyr ymroddedig ym mhob rhan o Gymru, y DU ac UDA. Ef yw pencampwr Lwpio Cymru ar hyn o bryd, ac yn 2013, bu’n is-bencampwr Lwpio’r DU. Mae wedi gweithio gyda rhai o fawrion y byd hip hop gan gynnwys The Pharcyde, Jungle Brothers, Boy better Know, Plan B, Professor Green a’r chwedlonol Krs-One, ac mae hyn oll yn dangos ansawdd a chwmpas doniau cynhyrchu Mr Phormula sy’n ategu natur farddonol ei ddwyieithrwydd. Mae Mr Phormula’n un o’r artistiaid mwyaf prysur yn sîn hip hop y DU, ac mae wedi perfformio mewn nifer o leoliadau, clybiau nos a gwyliau (gan gynnwys Neuadd Albert yn Llundain, un o lwyfannau mwyaf eiconig y byd), yn ogystal ag ymddangosiadau lawer ar deledu a radio cenedlaethol. Mae’i waith newydd arloesol yn datblygu’r sîn hip hop yng Nghymru yn ogystal â hyrwyddo’r genre dwyieithog deinamig ar draws y byd.
Ar ôl cael ei hysbrydoli gan Ysgol Ddawns Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, aeth Elan Elidyr i astudio dawns yn Rubicon Dance, Caerdydd a Iwanson International School of Contemporary Dance yn Munich, Yr Almaen. Wedi graddio dychwelodd i Gymru lle mae hi wedi ennill bwrsariaethau gan Gyngor y Celfyddydau a Chwmni’r Frân Wen ac wedi gweithio efo cwmnïau megis NTW a Theatr Clwyd tra hefyd yn gweithio ar brosiectau annibynnol. Ers Awst 2020 mae wedi bod yn gweithio fel rhan o dîm Groundwork Pro. Mae’r cyfle hwn i weithio ar brosiect efo CDCCymru a Llenyddiaeth Cymru wedi ei chyffroi’n llwyr!
Y Gerdd
Matrics Cerddorol
Fi ’di’r enaid sy’n rheoli y donfedd
Fi ’di’r egni sy’n rheoli yr allwedd
Fi ’di’r atom sy’n creu y bydysawd
Chwythu breuddwydion drwy benillion gwerthfawr
Fi ’di’r awr, fi di’r munud ola
Fi sy’n plethu tywyllwch efo’r gola
Fi ’di’r goleuni yn diwedd y twnnel
Y pensaer sy’n adeiladu y rwbel
Fi ’di’r cychwyn
Fi ’di’r diwedd…
…
Fi ’di’r cychwyn
Fi ’di’r donfedd
Fi ’di’r allwedd
Fi ’di’r diwedd…
Music Matrix
I’m the soul that controls the wavelength
I’m the energy that controls the key
I’m the atom that creates the universe
blowing dreams through valuable verses
I’m the hour, I’m the last minute
I weave the darkness with the light
I’m the brightness, the end of the tunnel
the architect who builds the rubble
I’m the peaceful space
I’m the author of memories
I’m the start
I’m the end…
…
I’m the start
I’m the wavelength
I’m the key
I’m the end…