Dewislen
English
Cysylltwch

Artistiaid

Enillodd Aneirin Karadog Gadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau yn 2016 gyda dilyniant o gerddi ar y thema ‘Ffiniau’. Mae’n aelod o dîm Y Deheubarth yn Ymryson blynyddol y beirdd ac mae wedi ennill sawl gwobr am ei gerddi caeth: Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004, Cadair yr Urdd yng Nghaerdydd 2005 a chategori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn ddwywaith gyda’i gyfrol gyntaf O Annwn i Geltia (Cyhoeddiadau Barddas, 2012) ac yna eto gyda’i ail gyfrol Bylchau (Cyhoeddiadau Barddas, 2016). Mae’n cyd-gyflwyno a chyd-gynhyrchu podlediad Barddol Cymraeg gydag Eurig Salisbury o’r enw Clera, gyda phenodau newydd yn fisol ers Hydref 2016. Yn 2019 cyhoeddodd gyfrol arall o gerddi, Llafargan (Cyhoeddiadau Barddas). Aneirin oedd Bardd Plant Cymru 2013-15.

Mae Joe Powell-Main yn 22 oed ac yn hanu o’r canolbarth. Roedd Joe yn un o gysylltion ifanc y Royal Ballet School am dair blynedd ac yn mynychu dosbarthiadau wythnosol bob dydd Sadwrn ym Mirmingham. Yn ystod y rhaglen Cysylltion Ifanc, perfformiodd Joe gyda’r Birmingham Royal Bellt yn The Nutcracker ac yn Sylvia (taith DU). Bu Joe hefyd yn gweithio gyda’r Elmhurst Ballet School am flwyddyn, trwy raglen cyn-alwedigaeol. Cafodd ei dderbyn i’r Lower School y Royal Ballet School yn White Lodge, Richmond; ble bu’n astudio ac yn hyfforddi am bedair blynedd. Yn dilyn damwain car difrifol, fu’n gyfrifol am ei anabledd sy’n effeithio ei goes a’I droed chwith, daeth perthynas Joe â dawns i ben am y tro. Fodd bynnag, tair mlynedd yn ddiweddarach, aildaniwyd y berthynas honno wedi iddo ddechrau dawnsio ballroom a latin ar gyfer cadair olwyn. Ef yw Pencampwr Para-ddawns Cenedlaethol y DU ar hyn o bryd. Yn ddiweddar, graddiodd gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Dawns a Pherfformio drwy Arden School of Theatre ym Manceinion. Cychwynodd brentisiaeth gyda Ballet Cymru ym mis Medi 2019, drwy eu Rhaglen Cyn-Broffesiynol. Roedd Joe yn serenu ar hysbyseb Nadolig S4C gyda cyd-ddawnsiwyr o Ballet Cymru. Eleni, ymunodd Joe â thim Ballet Cymru fel un o’u dawnswyr, ac mae’n edrych ymlaen at weithio gyda’r cwmni ar gynhyrchiad newydd o Giselle yn 2021.

 

Y Gerdd

 

O’r Lludw

Mae’n hawdd meddwl am yn ôl;

ail-wawrio’r dydd o falurion doe,

ail-droedio’r eiliadau ar hyd amlinell bell,

gan bwyllo, i gael yn ôl y golau hen a aeth

a chael hyd i eiliadau a fachludodd

yn wyll.

 

Ond o frigau mân fe ddaw `na dân

a’n dawns yw’r hyn a gyneuwn

yn ein nawr â’r ennyd yn danbaid,

lle gall fflam droi’n alarch!

 

Y nawr lle mae’r corff yn glorian,

y nawr lle nad yw disgyrchiant

yn ddim ond aelod o’r gynulleidfa.

Nawr ydym ni a ni yw’r hyn

y mae’r meddwl yn ei freuddwydio,

yn ein gweld yn hedfan yn yr unfan 

mewn gwynfyd, a’r ennyd o dan rew.

 

Ydy, mae’n hawdd meddwl am yn ôl,

ond ymlaen o hyd y mae lôn a’i haul…

 

//

 

From The Ashes

 

We can all ponder in reverse,

re-dawning the day from yesterday’s shatterings,

re-treading the seconds along a long outline,

contemplating, trying to retrieve the light that wedi went

and rediscovering seconds that had set with the sun,

a void.

 

But from kindling comes a fire

and our dance is what we light

in our now, the moment a feu d’artifice

where a flame can become a swan!

 

The now where the body is in the balance,

the now where gravity is merely

a member of the audience,

we are now; we are what our minds dream,

seeing ourselves flying, hovering

in bliss, frozen in the moment.

 

Yes, we can all ponder in reverse,

but ahead, always, is a sunny path…

Nôl i Plethu/Weave