Dewislen
English
Cysylltwch

Er mwyn gwylio’r fideo gydag is-deitlau / cyfieithiad, cliciwch y botwm is-deitlau ar y fideo YouTube.

 

Mae Pethau Gwell i Ddod gan Krystal S. Lowe ac Alexander Wharton yn ddeuawd o ddawns a llais sy’n archwilio llonyddwch i’r unigolyn mewn mannau gwyrdd; sut mae undod rhwng dynoliaeth a natur yn arwain at gynaliadwyedd bywyd. 

Artistiaid

Bardd a hwyluswr gweithdai yw Alex Wharton sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar ei gyfrol gyntaf i blant Daydreams and Jellybeans fydd yn cael ei chyhoeddi gan Firefly Press yn 2021. Alex oedd prif enillydd Gwobr Rising Stars Llenyddiaeth Cymru a Firfely yn 2020. Mae ei waith wedi ei gyhoeddi yn y Wales Haiku Journal, Hedgerow a’r cylchgrawn barddoniaeth a chelf i blant, The Caterpillar.

Mae Krystal S. Lowe yn ddawnsiwr, coreograffydd, ac awdur a aned yn Bermuda, sy’n creu gweithiau theatr ddawns ar gyfer llwyfannau, mannau cyhoeddus, a llwyfannau digidol sy’n archwilio themâu hunaniaeth groestoriadol, iechyd meddwl, lles a derbyniad mewn ffordd sy’n yn herio ei hun a chynulleidfaoedd tuag at ymyrraeth a newid cymdeithasol. Mae ganddi yrfa helaeth yn perfformio a theithio gyda Ballet Cymru ledled y Deyrnas Unedig, China a Bermuda a chyda chwmni syrcas Citrus Arts – mae hi’n ddarlithydd cyswllt ym Mhrifysgol De Cymru ac yn Gyfarwyddwr Artistig Kokoro Arts Ltd. Mae ei chredydau diweddar yn cynnwys: ‘Whimsy’ a gomisiynwyd gan Articulture Wales mewn cydweithrediad â Theatr Glan yr Afon gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol; ‘Rewild’ a gomisiynwyd gan Green Man Trust, a gyflwynwyd yng Ngŵyl Green Man 2020 a gŵyl ‘How Can We Care for Each Other’ The Place; a ‘Daughters of the Sea’ a gomisiynwyd gan Ffilm Cymru, BBC Arts, BBC Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru.

 

Y Gerdd

 

Good things to come

 

Listen, to the sound of frost

twinkling, to leaves unravelling

in the spin of morning light.

I’ll sit here all day, out of sight.

Quiet as rabbit, loose as willow.

What else will I be, but a memory

of my footsteps?

 

I am alive, every breath.

And I am free, like the chit-chat of birds

and quick-clap of beating wings.

In this field, this soon-to-be-street.

Where the tip tap will of woodpecker,

Will become that of door knocker.

And streetlights will blaze

in twilight’s quiet face.

But they will never soothe, never inspire.

 

We are humans being, humankind.

What will they find when we leave?

      What do we leave as we find?

 

 

 

If we believe,

In the soul of sea, the heart of hill,

And lungs of tree

 

our creations will be,

of mass protection.

This life, is a celebration.

 

And the moon will dance

in the song of sun.

Good things to come,

Good things to come.

 

Alex Wharton

 

Pethau gwell i ddod

 

Gwranda, ar sŵn y barrug

yn pefrio, y dail yn datod

a gwawl y bore’n chwyrlio.

 

Eisteddaf yma o’r golwg, drwy’r dydd.

Mor dawel â chwningen, mor rhydd â’r helyg.

Beth arall a fyddaf, ond atgof

o sŵn fy nhroed?

 

Dwi’n fyw, ymhob anadl.

A dwi’n rhydd, fel trydar yr adar

a chlepian sydyn curiad eu hadenydd

yn y cae hwn, yn y stryd fydd yma toc.

lle bydd tipian ewyllys y cnocell,

yn troi’n guriad morthwyl drws.

A lle llosga goleuadau’r stryd

yng ngŵydd tawelwch y gwyll.

Ond ni chysurant byth, nac ysbrydoli chwaith.

 

Bodau dynol ydym, dynol ryw.

Pa beth a geir ar ein hôl pan awn?

Pa beth a adawn fel y’i caed?

 

Os credwn,

yn enaid y môr, ym mherfedd y mynydd,

ac yn ’sgyfaint y coed

 

bydd ein creadigaethau,

yn gwarchod y byd yn grwn.

Dathliad ydi’r bywyd hwn.

 

Ac fe ddawnsia’r lloer

yng nghân yr haul.

Mae pethau gwell i ddod,

Pethau gwell i ddod.

 

Alex Wharton

cyfieithiad Cymraeg gan Ifor ap Glyn

 

Gute Dinge, die da kommen

 

Hör nur den Klang von funkelndem

Frost, von sich öffnenden Blättern

im Tanz des Morgenlichts.

Ich sitze hier den ganzen Tag, außer Sicht.

Ruhig wie ein Kaninchen, locker wie eine Weide.

Was werde ich sonst sein als eine Erinnerung

meiner Schritte?

 

Ich lebe, jeder Atemzug.

Und ich bin frei, wie das Geplauder der Vögel

und das schnelle Flappen von schlagenden Flügeln.

In diesem Feld, dieser bald-existierenden Straße.

Wo aus dem hämmernden Willen des Spechts

derjenige des Türklopfers wird.

Und Straßenlampen werden flammen

im ruhigen Gesicht der Dämmerung.

Aber sie werden niemals beruhigen, niemals begeistern.

 

Wir sind Menschen, die Menschheit.

Was werden sie finden, wenn wir gehen?

Was verlassen wir, wenn wir finden?

 

Wenn wir glauben,

An die Seele des Meeres, das Herz der Hügel,

Und die Lungen der Bäume

 

unsere Schöpfungen werden

Massenschutz sein.

Dieses Leben, es ist eine Feier.

 

Und der Mond wird tanzen

im Lied der Sonne.

Gute Dinge, die da kommen.

Gute Dinge, die da kommen.

 

 

Alex Wharton

Deutsche Übersetzung von Eluned Gramich

Nôl i Plethu/Weave