Dewislen
English
Cysylltwch

Plethu/Weave: Archwilio

Cyfres o weithdai creadigol yn cysylltu barddoniaeth a dawns

 

Ymunwch ag artistiaid ledled Cymru i archwilio ffyrdd o blethu symudiad a geiriau ynghyd; i ysbrydoli, cymell a gweithio law yn llaw i greu gweithiau celf newydd.

Mae Plethu/Weave: Archwilio yn gyfres o weithdai a grëwyd gan rai o’r artistiaid o CDCCymru a Llenyddiaeth Cymru a gydweithiodd ar Plethu/Weave – cyfres barhaus o ffilmiau byrion sy’n plethu dawns a barddoniaeth.

Mae’r artistiaid yn rhannu eu mewnwelediadau, eu hymarfer, a’u sgiliau trwy weithdai a recordiwyd ymlaen llaw sy’n addas i’w gwneud yn eich amser eich hun, gyda’ch gilydd, yn unigol neu yn yr ystafell ddosbarth.