Artistiaid
Mae Jaffrin Khan yn 28 oed ac yn dod o Gaerdydd. Mae hi’n awyddus i ddilyn gyrfa fel artist sy’n perfformio barddoniaeth, ar ôl dechrau ysgrifennu a pherfformio barddoniaeth fel ffordd o ddygymod â thrawmâu personol a thrafod pynciau sy’n cael eu hystyried yn dabŵ yng nghymunedau pobl o Dde Asia, fel perthnasau, delwedd y corff, ffeministiaeth, anghyfiawnder a chrefydd. Mae hi wedi perfformio ledled y Deyrnas Unedig ac wedi cyhoeddi ar sawl platfform, gan weithio hefyd ar y cyd â sefydliadau lleol i ddarparu gweithdai a chymryd rhan mewn rhaglenni ymchwil a datblygu. Mae Canolfan Mileniwm Cymru a’r BBC wedi comisiynu fideos barddoniaeth ganddi ar gyfer Gŵyl y Llais, a’r rheini wedi’u cyhoeddi ym mis Mawrth 2021. Yn ddiweddar, cafodd Jaffrin ei dewis fel un o Gymdeithiol Creadigol Canolfan Mileniwm Cymru, ac yn gyfrifol am gynorthwyo i ail-adeiladu’r celfyddydau yng Nghymru, mewn ffordd newydd, gwydn a phwrpasol. Mae hi hefyd wedi curadur arddangosfa ar-lein fel rhan o breswyliad ar-lein Arcade Campfa.
Dawnswraig o dde Cymru ydi Jodi Ann Nicholson. Ers iddi hyfforddi yn Laban ac astudio Celf Gain yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd mae ei gwaith creadigol yn plethu gwneuthuriad yr hunan a hunaniaeth. Fel rhywun sydd wedi ei mabwysiadu, mae Jodi yn archwilio’r syniadau hyn drwy naratif hunangofiannol. Mae symudiad, brodwaith a thecstilau yn rhoi strwythur i’w chwestiwn parhaus: beth sy’n creu hunaniaeth?
Mae ei gwaith diweddar wedi agor drysau i waith archwilio dyfnach rhwng testun/iaith a dawns, gan gysylltu’r gwaith hwn i’w chyfleon artistig parhaus. Mae Jodi yn gwirioni ar strwythurau rhythmic y ddau ddisgyblaeth, ac yn arhcwilio’r berthynas rhwng y ddau.
Y gerdd
Streams
We tread the earth built over bodies,
Soil cemented with bones.
Soldiers eroded etched in stone.
My skin pales under the skies of this country,
find me running through the greens,
camouflaged cries on cliff edges.
Sound of the sea drowning history,
Tears so long,
I call it a lake for lovers.
Howls so loud,
Wolves at a new moon.
Echoes through mountains,
Voices heard,
But never found,
Only sounds.
Languages land on my lip,
Weighing down my tongue
Face to face with memories,
Thoughts become enemies.
Tell my mind it doesn’t matter,
Body ends on a platter.
The sea sinks into itself,
Ocean waves divide into lanes.
Thinking of ways to stay sane.
Sweat gathers at the tip of my brain
I now only know me through memory,
Faded but I call it therapy,
Jaded in clinging to sanity.
Jaffrin Khan
***
Llifo
Troediwn y tir a godwyd dros gyrff,
Glud o bridd ac esgyrn.
Milwyr llwch a’u llun ar y maen.
Mae fy nghroen yn llwydo dan wybren y wlad hon,
gwylia fi’n rhedeg drwy’r gwyrddni,
cuddliw fy nghri ar y clogwyn.
Sŵn y môr yn boddi hen hanesion,
dagrau mor hir,
rwy’n eu galw’n Llyn Morwynion.
Udo’n groch,
Bleiddiaid i ewin lleuad,
Adlais drwy’r mynyddoedd,
Clywed llais,
Hb ei weld,
Grwnan y sŵn.
Glaniai ieithoedd ar fy ngwefus,
Yn drwm ar fy nhafod.
Wyneb i wyneb â’n atgofion,
Daw fy meddyliau’n elynion
Perswadio’n hun nad ydio bwys
Fy nghorff ar blât yn codi pwys.
Suddai’r môr i mewn i’w hun,
Y tonnau’n rhannu’n llonydd,
Cadw fy mhwyll a ’mhen gyda’i gilydd,
Casglai chwys ar flaen fy ymennydd,
Dwi’n adnabod fy hun drwy atgofion yn unig,
Rwy’n pylu, ond yn galw hyn yn gathartig,
Rwy’n ymylu ar rym, ond yn rhy flinedig.
Jaffrin Khan, addasiad Cymraeg Llio Maddocks