Dewislen
English
Cysylltwch

Er mwyn gwylio’r fideo gydag is-deitlau / cyfieithiad, cliciwch y botwm is-deitlau ar y fideo YouTube.

 

Mae Spell For a New Beginning gan y bardd Taylor Edmonds a’r artist dawns Iestyn James yn archwilio’r llonyddwch cyn y storm, a’r teimlad o fod mewn rheolaeth, hyd yn oed mewn cyfnodau anodd a heriol tu hwnt.

 

Artistiaid

Mae Taylor Edmonds yn awdur, bardd a pherfformiwr o’r Barri. Cyhoeddwyd ei gwaith gan Lenyddiaeth Cymru, Black Ballad, Parthian, Broken Sleep Books, Jacar Press, Butcher’s Dog a llawer iawn mwy. Enillodd Wobr Rising Star Llenyddiaeth Cymru 2020 a Gwobr Platforming Under-represented Writers i ddatblygu ei barddoniaeth i blant a chyd-redodd gyfres o weithdai ysgrifennu cymunedol i archwilio’r llais creadigol. Mae Taylor wedi perfformio ei gwaith ar daith Gymreig gyda Nescio Ensemble, sef ensemble glasurol o’r Iseldiroedd, ar gyfer amryw o fideos BBC Sesh, yn ogystal â digwyddiadau ar gyfer The Fringe Festival Abertawe, Sofar Sounds, Gwyliau Cheltenham Poetry & Jazz, LUSH Cardiff, The Poetry Café, a llawer iawn mwy. Bu’n gweithio hefyd ar brosiectau gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, The National Literacy Trust, The Severn Estuary Partnership, Jukebox Collective, Fio, Aurora Trinity Collective a llawer iawn mwy. Mae Taylor hefyd yn aelod o Where I’m Coming From, cydweithrediad ysgrifennu sy’n canolbwyntio ar y gymuned ac yn llwyfan ar gyfer ysgrifennwyr nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yng Nghymru.

Mae Iestyn Hunter James wedi bod yn dawnsio ers dros 15 mlynedd. Cafodd ei hyfforddi fwyaf mewn dawns stryd a phob amrywiaeth ar yr arddull hwnnw, fel locking, popping, breaking, hip hop a llawer iawn mwy. Mae Iestyn wedi ei hyfforddi hefyd mewn dawns Ballet, Cyfoes, Jazz ac arddulliau cymdeithasol fel tango! Mae’n mwynhau dysgu ac arbrofi gyda phobl a syniadau newydd er mwyn creu gwybodaeth a phrofiadau newydd, ac wrth gwrs mae ambell i her newydd yn ffordd wych i gael gwared ar unrhyw ddiflastod!

 

Y Gerdd

 

Spell for a New Beginning  

 

Take down the mirrors. 

Leave in the morning, when the sky is a ripe peach, 

door unlocked, your lover dream-twitching. 

You’ll know where to go by the compass 

pulling from the pit of your stomach, 

pins and needles in your fingertips. 

Notice the hushed tones of the trees 

as you pass, the way the wind bends 

their backs like a signal. 

 

Quiet the noise, You’ve been holding  

your breath for days. 

Take off your shoes so you can feel 

the wet grass against your skin.  

When was the last time you caved 

to the soft wants of your body? 

It may rain, but drizzle 

will only make the morning sweeter.  

 

At the water, you’ll think of your mother, 

how she never swam, not even to cool 

her feet on sticky hot days.  

The sea is bloated with everyone’s secrets. 

Take note of everything you’ve ever lost; 

driver’s license, frayed toothbrush, 

lock of hair, chicken bone, 

back door key, a lover you’d rather forget, 

a grandfather cradling a bottle  

like a newborn. 

 

The change will be subtle, 

but you’ll feel it in the everyday rhythm 

on your way home, see it on the faces 

of strangers. Know you can withstand it all; 

the headlines, the drag  

of days and nights. This morning 

you had the whole world to yourself 

and you wrote it.  

 

Taylor Edmonds 

 

Swyn am Ddechreuad Newydd

 

Cymra’r drychau i lawr.

Cer yn y bore, pan mae’r awyr yn eirinen wlanog aeddfed,

y drws heb ei gloi, dy gariad yn gwingo dan freuddwydio.

Byddi di’n gwbod lle i fynd, diolch i’r cwmpawd

yn tynnu o waelod dy stumog,

y cosi ym mlaenau dy fysedd.

Sylwa ar sibrydion y coed

wrth iti basio, a’r ffordd mae’r gwynt yn plygu 

eu cefnau fel signal.

 

Tawela’r sŵn, rwyt ti ’di bod yn dal

dy anadl am ddiwrnodau.

Cymra dy sgidiau i ffwrdd er mwyn iti deimlo

y gwair gwlyb ar dy groen.

Pryd oedd y tro diwethaf gwrandawais ti

i anghenion meddal dy gorff?

Efallai bydd hi’n glawio, ond bydd piglaw

ond yn gwneud y bore’n felysach.

 

Wrth y dŵr, byddi di’n meddwl am dy fam,

sut wnaeth hi erioed nofio, ddim hyd yn oed i oeri

ei thraed ar ddiwrnodau poeth.

Mae’r môr wedi chwyddo gyda chyfrinachau pawb.

Cymra sylw o bopeth rwyt ti erioed wedi’i golli;

trwydded yrru, hen frwsh dannedd,

cydyn wallt, asgwrn cyw iâr,

allwedd drws cefn, cariad fyddai well gen ti ei anghofio,

tad-cu yn cwtshio potel

fel baban.

 

Bydd y newid yn gynnil,

ond byddi di’n ei deimlo yn y rythm dyddiol

ar dy ffordd adref, ei weld ar wynebau

dieithriaid. Cofia y galli di wrthsefyll y cyfan;

y penawdau, y diwrnodau a nosweithiau

yn tynnu arnat. Bore ’ma

roedd gen ti’r holl fyd i ti dy hun

a ti wnaeth ei sgwennu.

 

Taylor Edmonds

Cyfieithiad Cymraeg gan Nia Morais

Nôl i Plethu/Weave