Er mwyn gwylio’r fideo gydag is-deitlau / cyfieithiad, cliciwch y botwm is-deitlau ar y fideo YouTube.
Artistiaid
Bardd a pherfformwraig ddwyieithog yw clare e. potter, ac mae ganddi MA mewn Llenyddiaeth Affro-Garibïaidd o Brifysgol Mississippi. Bu’n byw yn New Orleans am ddegawd a chafodd gyllid gan Gyngor y Celfyddydau i ymateb i ddinistr Corwynt Katrina gyda phumawd jazz. Mae clare wedi cyfieithu gwaith Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ac mae’n cydweithio ag artistiaid i greu gosodiadau barddoniaeth mewn gofodau cyhoeddus. Enillodd Wobr John Trip am Berfformio Barddoniaeth yn 2005 a bu gyda’i thad ar y Listening Project ar BBC Radio 4, yn archwilio tarddiad emosiwn mewn barddoniaeth. Yn 2018, clare oedd bardd preswyl Gŵyl Velvet Coalmine – lle bu yn Sefydliad y Glowyr yn casglu straeon pobl am yr adeilad diwylliannol a gwleidyddol pwysig hwnnw.
Dawns ydi gwaith Jo Shapland; boed drwy lif newid mewn deunyddiau a gwrthrychau, mewn lluniau ffilm neu symudedd y corff drwy wagle. Ei phrif flaenoriaeth ydi ymberthnasu ac ymateb i natur ac i’r awydd o arbrofi gyda’r corff. Mae ei phrosiectau safle-benodol yn amrywio o adfeilion amaethyddol i theatrau proffesiynol, ac o diroedd gwyllt i waith pensaernïol dinesig. Yn wreiddiol, hyfforddodd fel Dawnswraig Gyfoes, ond mae hi bellach yn ymarfer Martial Arts Asiaidd ac ymarferion ymwybyddiaeth; syrcas awyr a byrfyfyrio; ac yn parhau i archwilio dawns fewnol a’i effaith ar bresenoldeb a chreadigrwydd. Ym mis Ionawr 2020, perfformiodd Told by the Wind (wedi ei greu ar y cyd gyda Grŵp Llanarth) yn ITFOK, India. Uchafbwyntiau eraill ei gyrfa ydi ennill Prif Wobr Creative Wales gyda Being in Place, a dathlu estyniad Mostyn, Llandudno gydag [in]space.
Y Gerdd
Swyn-gân / Summoning
Here,
Pwll-y-Wrach, the witches’ cauldron
soup of iaith, words held and spoken.
Rhythm pulled by moon and tongue
hear its pitch from swell and belch
wrack and kelp of vowels sung
Look now to this murmuring trickster
pre-linguistic meaning-maker
Pull and pwll, push through bwlch
pull and pwll, push . . .
Here the baptised words are brining
consonants reverberating
the tide’s a swirl of incantation
sacred knowing being written
under chin of rock, the sea’s graffiti
yr iaith gaeth ar y traeth
on shale of shore, the healing lip.
//
Swyn-gân / Y Galw
Fan hyn,
Pwll y wrach, pair y widdon
geiriau’n gawl, yn llafar gyson.
Rhyddm yn dynfa rhwng tafod a lloer
clyw, o’i ymchwydd, a’i fytheirio,
forwiail a gwymon llafariaid yn gân
Gwyliwch rhag murmur y twyllwr maith
gwneuthurwr ystyr cyn bod iaith
Yn tynnu, yn rhygnu, yn gwthio drwy’r bwlch
yn tynnu, yn rhygnu, yn gwthio…
Fan hyn, daw’r geiriau o’u bedydd heli
a’u cytseiniaid yn corddi,
a’r llanw’n chwyrlïo’i swynganeuon
yn sanctaidd hengall, o’u naddu’n gyson
dan ên y graig, graffiti’r môr,
yr iaith gaeth ar y traeth,
cerigos min y môr, a hwnnw’n iachau