Dewislen
English
Cysylltwch

Er mwyn gwylio’r fideo gydag is-deitlau / cyfieithiad, cliciwch y botwm is-deitlau ar y fideo YouTube.

 

Artistiaid

Ers graddio o Brifysgol Y Drindod Dewi Sant fel actor, mae Connor Allen wedi gweithio gyda chwmnïau megis Theatr Torch, Theatr y Sherman, Theatr Tin Shed a National Theatre Wales. Mae’n aelod o Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain ac fe enillodd rownd Caerdydd o’r Triforces MonologueSlam, gan gynrychioli Cymru yn Llundain ar gyfer y rownd derfynol. Fel awdur, mae wedi ysgrifennu ar gyfer Dirty Protest, Y Sherman, a BBC Cymru. Derbyniodd nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer ei ddrama gyntaf, a chomisiwn gan Llenyddiaeth Cymru. Mae hefyd yn rhan o’r BBC Wales Welsh Voices 19/20 a Grŵp Awduron Cymreig y Royal Court.

Dawnswraig o dde Cymru ydi Jodi Ann Nicholson. Ers iddi hyfforddi yn Laban ac astudio Celf Gain yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd mae ei gwaith creadigol yn plethu gwneuthuriad yr hunan a hunaniaeth. Fel rhywun sydd wedi ei mabwysiadu, mae Jodi yn archwilio’r syniadau hyn drwy naratif hunangofiannol. Mae symudiad, brodwaith a thecstilau yn rhoi strwythur i’w chwestiwn parhaus: beth sy’n creu hunaniaeth? Mae ei gwaith diweddar wedi agor drysau i waith archwilio dyfnach rhwng testun/iaith a dawns, gan gysylltu’r gwaith hwn i’w chyfleon artistig parhaus. Mae Jodi yn gwirioni ar strwythurau rhythmic y ddau ddisgyblaeth, ac yn arhcwilio’r berthynas rhwng y ddau.

 

Y Gerdd

 

The Branches of Me

 

Another black life gone 

As the world watched on

From the screens of their camera phone

A black man lay face down on the concrete all alone.

 

He screamed I can’t breathe

As time began to freeze

His neck under a knee

Squeezing away all his potential possibilities and future opportunities 

But what does that moment mean for me,

 

I mean look at me, 

Like really LOOK at me 

What do you see? 

 

Do you see my complexion? 

My ethnicity? 

Do you see the generations of my family tree 

Who have faced adversity and slavery

And people chanting the word monkey.

Like crisp brown leaves blowing in an autumn breeze

Their narrative, Their culture written in the ripples of the seven sea’s. 

 

Do you see the history that has come before me 

From the salty sands of Jamaica all the way to rainy Wales

My story of colour is made from the finer details. 

Its in the traditional Jamaican dish of ackee and salt fish 

Its in the lush green landscape of wales 

Where if all else fails, a cwtch prevails.

 

My complexion may be the first thing you see but it doesn’t define me. 

It’s part of the intertwined branches of my family tree 

At times I feel insane, walking around with all this pain 

Having to explain my heritage over and over again

 

See, black has different shades to it

Black has different layers to it 

Black has a unique history behind it 

And Black is part of my inner conflict

But I will not quit, or submit 

Not until the world commits 

To seeing the beauty black has in it. 

The beauty that we bring to it.

Connor Allen

//

 

Canghennau Ohonof 

(The Branches of Me) 

 

Enaid du arall wedi mynd 

wrth i’r byd wylio hyn 

drwy ffonau clyfar, pob un a’i sgrîn, 

dyn du’n gorwedd wyneb yn wyneb 

â’r concrit ar ei ben ei hun. 

 

Plediodd “I can’t breathe” 

pan rewodd amser a’i lif, 

ei wddw o dan ben-glin 

a wasgai holl obeithion dyn, 

yr holl bosibiliadau a dyfodol o ddyheadau 

ond beth yw ystyr y foment honno i fi? 

 

Achos wir, edrychwch arna i, 

go iawn, EDRYCHWCH arna i’n iawn, 

beth welwch chi? 

 

A welwch chi fy ngwedd? 

Fy ethnigrwydd? 

A welwch chi yn fy nghoeden deuluol bob un cenhedlaeth 

a wynebodd galedwaith a chaethwasiaeth 

a’r gair mwnci yn rhan o’r arfogaeth. 

Fel dail crin coch a gwynt yr hydref yn eu chwythu’n groch. 

Eu stori, eu diwylliant wedi’u sgythru’r graith 

yng nghrychau’r moroedd maith. 

 

A welwch chi yr hanes a ddaeth o’m blaen i? 

O draethau hallt Jamaica yr holl ffordd i Gymru’r glaw 

mae fy stori o liw wedi ei chreu o fanylion mân, gyda llaw. 

Mae yn y bwyd traddodiadol o Jamaica, chi’n dallt, yn yr ackee a physgod hallt, 

yn nhiroedd gwyrddion Cymru, mae’r stori yno i’w chael 

ac yn ddi-ffael, bydd wastad cwtsh os eith hi’n wael. 

 

Efallai mai fy ngwedd a welwch gynta ond nid y wedd a’m diffinia. 

Mae’n rhan o fy nghoeden deuluol a phlethiad ei changhenna’, 

weithia’ dwi’n teimlo fel taswn i’n mynd o fy ngho’, 

yn gorfod esbonio fy nhreftadaeth dro ar ôl tro. 

 

Ti’n gweld, mae `na sawl arlliw i ddu, 

mae `na haenau gwahanol i ddu, 

mae `na hanes unigryw i ddu 

ac mae du yn fy ngwrthdaro mewnol i, 

ond wna i ddim rhoi’r gorau, nid ildiaf innau, 

tan y daw’r byd i’n gwerthfawrogi ninnau 

a gweld y prydferthwch sydd o fewn i ddu, 

y prydferthwch a ddaw drwyddon ni. 

Connor Allen (cyfieithiad Cymraeg Aneirin Karadog) 

Nôl i Plethu/Weave