Er mwyn gwylio’r fideo gydag is-deitlau / cyfieithiad, cliciwch y botwm is-deitlau ar y fideo YouTube.
Artistiaid
Ganed a magwyd Bardd Cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn yn Llundain i rieni o Gymru. Mae’n fardd, cyflwynydd, cyfarwyddwr a chynhyrchydd sydd wedi ennill sawl gwobr. Yn awdur toreithiog, mae Ifor wedi ennill y Goron ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fel cyfarwyddwr teledu a chyflwynydd, mae wedi ennill sawl gwobr BAFTA Cymru am ei waith gan gynnwys cyfresi Lleisiau’r Rhyfel Mawr a Popeth yn Gymraeg. Mae Ifor wedi cynrychioli barddoniaeth Gymraeg ledled y byd yn yr iaith Gymraeg a Saesneg, yn fwyaf diweddar yn Camerŵn, Lithwania, China, Gwlad Belg, yr Almaen ac Iwerddon. Mae Bardd Cenedlaethol Cymru yn lysgennad diwylliannol ac yn rôl sy’n anrhydeddu rhai o’n hawduron mwyaf arloesol ac uchel eu parch. Dechreuwyd y cynllun yn 2005 ac fe’i rheolir gan Llenyddiaeth Cymru.
Cafodd Faye Tan ei geni yn Singapôr, a bu’n hyfforddi yn Academi Bale Singapôr ac Ysgol y Celfyddydau cyn graddio o Ysgol Rambert yn Llundain. Yna, ymunodd â Verve, cwmni ôl-radd Ysgol Dawns Gyfoes y Gogledd yn Leeds, gan berfformio gweithiau gan Anton Lachky, Athina Vahla ac Efrosini Protopapa. Ymunodd â Frontier Danceland (Singapôr) yn 2016, yn gweithio gyda choreograffwyr megis Shahar Binyamini, Thomas Lebrun, Edouard Hue, I-Fen Tung, Annie Vigier a Franck Apertet, ymysg nifer amrywiol o wneuthurwyr eraill. Roedd y gwaith a wnaeth yn Singapore hefyd yn cynnwys rhaglenni allgymorth, cydlynu rhaglen hyfforddi dawns ieuenctid Frontier Danceland, dysgu, coreograffu, marchnata digidol, fideograffeg a ffotograffiaeth. Ym mis Mai 2019 gweithiodd gyda Richard Chappell Dance (UK) ar y cynhyrchiad Silence Between Waves, gan berfformio a gweithio gyda thrigolion lleol o wahanol oedrannau a galluoedd yn Nyfnaint, cyn ymuno â CDCCymru i weithio ar y cynhyrchiad Rygbi: Annwyl i mi / Dear to Me ac wedyn fel dawnsiwr cwmni ym mis Rhagfyr 2019.
Y Gerdd
Ust.
Sut mae geiriau’n symud,
yn tynnu trwy’r ddawns
rhwng tafod a chlust?
Ust.
Sut mae brawddegau’n anniddigo,
yn tapio’u traed,
yn ymollwng eu cymalau
nes i’r corff cyfan ganu,
nes twrio i’r ystyron dyfna’?
Ust.
A sut mae dwyiaith cerdd a dawns
yn plethu a chordeddu awr,
cyn ildio i’r llonyddwch mawr
a’r mudandod mwy?
Ust… Ust… Ust…
//
Shh
How do words move,
leading the dance
from tongue to ear?
Shh.
How do sentences fidget,
tap their feet
and loosen their limbs
till their whole bodies sing,
and they delve into deeper meaning?
Shh
And how do the twinned muse of dance and rhyme
interweave and twine a while,
before they bow to boundless stillness
and silence greater still?
Shh… Shh… Shh…