Dewislen
English
Cysylltu

Ar Agor i Geisiadau

Creu Cymru sy’n grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth.
Mae’n bleser gan Llenyddiaeth Cymru gyhoeddi bod ein Rhaglen Datblygu Proffesiynol i Awduron o Liw, y gyntaf erioed o’i math yng Nghymru, bellach ar agor i geisiadau.
Mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 5:00 pm ddydd Gwener 4 Rhagfyr 2020

 

Beth yw’r rhaglen?

Rhaglen newydd yw hon i gefnogi awduron o liw yng Nghymru i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol ynghyd â’u gwybodaeth am y byd llenyddiaeth a chyhoeddi.

Rydym yn awyddus i helpu awduron o liw i wireddu uchelgeisiau hirdymor fel awduron. Gallai hynny gynnwys perffeithio gwaith ar y gweill, dod o hyd i asiant, cyhoeddi gwaith, perfformio i gynulleidfa fwy o faint, arbrofi â genres newydd, neu dysgu sut i hwyluso gweithdai cymunedol yn hyderus.

Mae’r rhaglen, sy’n para blwyddyn, yn cynnwys cyllid o £2,450 i helpu awduron i sicrhau amser rhydd i ysgrifennu, mynychu sesiynau, a thalu costau teithio i ymweld â digwyddiadau. Ar ddechrau’r rhaglen, bydd yr awduron yn cael eu paru â mentoriaid i’w cefnogi yn ystod y daith. Bydd y brif raglen yn cynnwys sesiynau mentora un-i-un, gweithdai a sgyrsiau. Bydd cyfle i rwydweithio, i wneud cysylltiadau newydd, ac i feithrin perthynas ag awduron eraill. Yn ystod y flwyddyn hefyd, bydd cyfle i gyfarfod arbenigwyr o’r diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt. Nod y rhaglen yw helpu pob awdur i ddatblygu ei botensial llenyddol ei hun. Bydd lle i 12 awdur ar y rhaglen.

 

I bwy mae’r rhaglen hon?

Mae’r cyfle hwn yn agored i awduron o liw dros 18 oed sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Gall awduron sy’n gweithio mewn amryw o ffurfiau llenyddol wneud cais. Yn ogystal â nofelau, barddoniaeth a straeon byrion, gall y ffurfiau hyn gynnwys sgriptiau, perfformiadau byw a/neu ddigidol, nofelau graffeg ac ysgrifennu i blant.

Efallai eich bod chi’n newydd i’r byd ysgrifennu, neu newydd gychwyn ar eich taith ac yn chwilio am gymorth i gyrraedd y lefel nesaf. Efallai y byddwch chi’n awdur eithaf adnabyddus yn barod, ond bod rhwystrau sy’n eich atal rhag cyrraedd eich llawn botensial. Neu efallai eich bod chi am arbrofi â ffurf lenyddol neu iaith wahanol.

Mae modd i awduron sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg, neu unrhyw un o ieithoedd eraill Cymru ymgeisio, er mai dim ond ceisiadau Cymraeg neu Saesneg y gallwn eu hasesu ar gyfer y broses gais. Gall awduron nad ydyn nhw’n rhugl eu Cymraeg ond sy’n chwilio am gyfle i wella’u sgiliau ysgrifennu a’u sgiliau creadigol yn Gymraeg hefyd wneud cais, a derbyn cymorth i ddatblygu eu gwaith ysgrifennu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y rhaglen hon.

 

Pam ein bod ni’n cynnal y rhaglen hon?

Rydym ni’n ymwybodol iawn bod lleisiau pobl o liw wedi’u tangynrychioli yn niwylliant llenyddol Cymru. Pan na all pobl weld eu hunain yn yr hyn y byddan nhw’n ei ddarllen neu’n ei glywed, mae nhw’n llai tebygol o lawer o uniaethu â’r llenyddiaeth sydd o’u hamgylch, o deimlo bod gwerth i ysgrifennu creadigol, o deimlo’n rhan o’r gymuned ysgrifennu, neu o deimlo y gallan nhw greu gyrfa lwyddiannus fel awduron.

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu llenyddiaeth fel ffurf gelfyddydol sy’n gynhwysol ac yn berthnasol i bawb yng Nghymru. Byddwn ni’n gweithio’n ddwys gyda’r awduron llwyddiannus er mwyn mynd i’r afael â’r rhwystrau i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y byd llenyddol. Rydym ni fel cwmni hefyd yn disgwyl dysgu llawer yn ystod y rhaglen, a byddwn ni’n gwrando’n barhaus ar yr adborth ac yn gwrando ar yr hyn y bydd gan yr awduron a’n partneriaid ei ddweud wrthym. Ar ôl y rhaglen 12 mis, byddwn yn parhau i weithio gyda’r garfan o awduron a phartneriaid i sicrhau eu bod nhw’n cael y gefnogaeth a’r cyngor y mae eu hangen arnyn nhw i gyflawni eu nod yn yr hir dymor.

Y Loteri Genedlaethol sy’n ariannu’r rhaglen hon drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Gair am derminoleg

Rydym yn ymwybodol fod terminoleg am hil yn newid ac yn esblygu, ac y bydd gan unigolion a chymunedau farn gwahanol am dermau a pha rai sydd orau ganddynt. Ar gyfer y rhaglen hon rydym wedi penderfynu defnyddio’r term “Awduron o liw” (writers of colour) yn dilyn proses ymgynghori. Mae’r terminoleg yn peri her ychwanegol yn y Gymraeg efallai, gyda’r gramadeg dan sylw ychydig yn chwithig. Yn ystod y broses o ddatblygu a rhedeg y rhaglen hon, rydym ni fel sefydliad yn gobeithio dysgu mwy am y lleisiau a’r cymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yma yng Nghymru, a byddwn yn gwrando’n astud ar gyngor yr awduron a’n partneriaid ar iaith, terminoleg a mwy yn ystod y broses.

Beth all ymgeiswyr ei ddisgwyl gan y rhaglen?

Bydd pob awdur sy’n cael ei ddewis yn cael swm sefydlog o £2,000. Caiff yr awduron unigol benderfynu sut i ddefnyddio’r arian hwn. Er enghraifft, i brynu offer ysgrifennu, neu gael amser rhydd o’r gwaith i ganolbwyntio ar y rhaglen ac/neu ysgrifennu. Bydd swm ychwanegol o £450 hefyd ar gael i dalu costau llety, teithio a chynhaliaeth pan fyddwch chi’n cymryd rhan mewn gweithgareddau oddi cartref, ac i brynu tocynnau i ddigwyddiadau a gwyliau llenyddol.

Mae cronfa fynediad hefyd wedi’i chreu i alluogi awduron sydd ag anableddau neu salwch, neu gofynion o ran mynediad, i gymryd rhan lawn mewn digwyddiadau. Cysylltwch am fwy o wybodaeth.

Bydd y rhaglen yn cael ei chreu i gyd-fynd ag anghenion a diddordebau’r awduron a gaiff eu dewis, ac yn cael ei dylunio a’i chynllunio ar y cyd â’r awduron eu hunain. Er enghraifft, gallai’r rhaglen gynnwys y canlynol:

  • Ymweliadau â gwyliau a digwyddiadau llenyddol yng Nghymru a thu hwnt
  • Diwrnodau hyfforddiant a gweithdai
  • Cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, neu gyfle i aros yn ein Bwthyn Encil i Awduron
  • Cyfres o sgyrsiau a darlleniadau rhithiol
  • Digwyddiadau rhwydweithio
  • Rhannu gwybodaeth a chefnogaeth i roi cynnig ar gystadlaethau, cyflwyno gwaith i’w gyhoeddi, a rhagor.

Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei baru â mentor drwy gydol y rhaglen, i’w helpu gyda’i yrfa fel awdur proffesiynol. Efallai y bydd gan yr awdur rywun eisoes mewn golwg i fod yn fentor. Os ddim, bydd modd inni ddewis rhywun perffaith i sicrhau bod sgiliau llenyddol a thalentau pob awdur yn cyrraedd eu llawn botensial.

I roi’r rhaglen ar waith, bydd Llenyddiaeth Cymru yn cydweithio â nifer o sefydliadau o’r sector celfyddydau a llenyddiaeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys Lumin Press, Creative Access, Speaking Volumes, Cyngor Hil Cymru, Black History Cymru, Where I’m Coming From, Rhaglen y Ledbury Critics, Lucent Dreaming, Poetry Wales ac S4C. Bydd rhagor o bartneriaid yn cael eu cyhoeddi yn y misoedd nesaf i gydweithio â ni i gynnal gweithgareddau a rhannu gwybodaeth.


Sut mae gwneud cais?

Mae’r ffurflen gais i’w chanfod ymaMae’n rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 5:00 pm ddydd Gwener 4 Rhagfyr 2020.

Bydd llefydd ar y rhaglen yn bennaf gael eu dewis ar sail potensial yr awduron, yn hytrach nag ar sail profiad neu lwyddiant blaenorol. Fodd bynnag, er mwyn i’n panel allu barnu potensial awdur, fe hoffem weld enghraifft o waith creadigol. Gallai hyn gynnwys darnau ysgrifenedig neu ddarnau sy’n cael eu perfformio. Cofiwch ei bod yn debygol y bydd y rhaglen hon yn un gystadleuol tu hwnt, felly dylai ymgeiswyr yrru enghreifftiau o’u gwaith gorau.

Os hoffech chi wneud cais, awgrymwn eich bod yn llawrlwythwch y Cwestiynau Cyffredin a’r Canllawiau isod i gael mwy o fanylion am y Rhaglen Datblygu Proffesiynol i Awduron a gwybodaeth am y broses ymgeisio. Mae hefyd modd lawrlwytho copi o’r Canllaw Asesu y byddwn yn darparu i Aelodau’r Panel.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni: post@llenyddiaethcymru.org | 02920 472266 | drwy Facebook.

 

Canllaw a Chwestiynau Cyffredin – Llawrlwythwch fel PDF

Canllaw a Chwestiynau Cyffredin – Llawrlwythwch fel dogfen Word

Canllaw Asesu – Llawrlwythwch fel PDF

Canllaw Asesu – Llawrlwythwch fel dogfen Word
PDF o’r Ffurflen Gais (fel y gallwch baratoi’r wybodaeth o flaen llaw)

 

Y Panel Asesu

Sandeep Parmar
Cadeirydd
Mwy
Patience Agbabi
Aelod Panel
Mwy
Ashok Ahir
Aelod Panel
Mwy
Sadia Pineda Hameed
Aelod Panel
Mwy
Natalie Jerome
Aelod Panel
Mwy
Sandeep Parmar
Cadeirydd

Mae Sandeep Parmar yn Athro Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Lerpwl lle mae’n cyd-gyfarwyddwr ar Ganolfan Ysgrifennu Newydd a Rhyngwladol Lerpwl. Mae ganddi Ddoethuriaeth o Goleg University Llundain ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol East Anglia. Mae ei llyfrau yn cynnwys Reading Mina Loy’s Autobiographies (Bloomsbury Academic, 2013), argraffiad o’r Collected Poems of Hope Mirrlees (Carcanet, 2011) a dwy gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddwyd gan Shearsman: The Marble Orchard (2012) ac Eidolon (2015), enillydd Gwobr Ledbury Forte am Ail Gasgliad Gorau. Hi oedd golygydd y Selected Poems of Nancy Cunard (Carcanet, 2016) a gyda Bhanu Kapil a Nisha Ramayya fe gyd-ysgrifennodd Threads (Clinic Press, 2018). Mae ei thraethodau a’i hadolygiadau wedi ymddangos yn The Guardian, The Los Angeles Review of Books, The New Statesman, The Financial Times a’r Times Literary Supplement. Mae hi’n un o’r New Generation Thinkers y BBC, ac hi oedd un o sefydlwyr cynllun Egin Adolygwyr Barddoniaeth Ledbury ar gyfer adolygwyr Du, Asiaidd neu o leiafrif ethnig.

Cau
Patience Agbabi
Aelod Panel

Mae Patience Agbabi FRSL yn fardd, perfformwraig a nofelydd poblogaidd. Ers 2008 bu yn Gymrawd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen. A hithau’n Fardd Llawryfog Caergaint rhwng 2009 a 2010, derbyniodd Grant y Celfyddydau i greu fersiwn cyfoes o The Canterbury Tales. Cyrhaeddodd ei phedwaredd casgliad, Telling Tales (Canongate, 2014), sef y casgliad a ddilynodd y prosiect, restr fer Gwobr Ted Hughes 2014 am waith barddonol newydd ynghyd â rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2015. Mae nofel gyntaf Patience i blant, The Infinite (Canongate, 2020), y cyntaf o gyfres The Leap Cycle, ac fe’i dewiswyd yn llyfr y mis gan CBBC yng Ngorffennaf 2020. Bydd y dilyniant, The Time-Thief, yn cael ei gyhoeddi yn 2021.

Cau
Ashok Ahir
Aelod Panel

Etholwyd Ashok Ahir yn Lywydd y Llys ac yn Gadeirydd Bwrdd Rheoli yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2019. Ef oedd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, digwyddiad sydd wedi ei ganmol am ei natur gynhwysol ac agored. Tan yn ddiweddar roedd yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu Llywodraeth y DU yng Nghymru ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar brosiectau cyfathrebu mawr ar gyfer Swyddfa’r Cabinet.
Daw â chyfoeth o brofiad busnes a rheoli i’r rôl, fel sylfaenydd asiantaeth gyfathrebu Mela, ac fel cyn bennaeth Uned Wleidyddol BBC Cymru. Mae’n aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru a Phwyllgor Cymru’r Cyngor Prydeinig. Daw Ashok yn wreiddiol o Wolverhampton a chafodd ei fagu ar aelwyd cyfrwng Punjabi, ond mae wedi dysgu Cymraeg yn rhugl ers hynny gan gyrraedd rownd derfynol Gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn 2012.

Cau
Sadia Pineda Hameed
Aelod Panel

Mae Sadia Pineda Hameed yn awdur, artist a golygydd o dras Ffilipinaidd a Phacistanaidd, sy'n byw yng Nghaerdydd. Mae ei chrefft fel artist yn cynnwys ysgrifennu barddoniaeth ac arbrofi â rhyddiaith, ynghyd â chreu ffilmiau â thestun, gosodiadau celfyddydol a pherfformio. Mae ei gwaith yn aml yn archwilio trawma sydd wedi ei etifeddu gennym fel unigolion neu fel cymunedau. Mae Sadia wedi arddangos gwaith gydag Artes Mundi, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, g39 WARP, Peak Cymru, Arcade/Campfa, SHIFT, Gentle/Radical, yr Eisteddfod Genedlaethol, HOAX, ac yn fuan gyda MOSTYN a Bluecoat; ac mae wedi cyhoeddi gwaith gyda Zarf, Amberflora, Porridge, Wales Arts Review a LUMIN ymysg eraill. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar ei darn hir cyntaf o ryddiaith: nofela ffeithiol-greadigol, To Make Philippines, gyda chefnogaeth Rhaglenni Ysgoloriaethau a Mentora Llenyddiaeth Cymru 2020. Roedd Sadia’n un o griw Rising Stars Wales 2020.
Mae Sadia’n un o sefydlwyr LUMIN, sef gwasg fechan, grŵp sy’n curadu gwaith, a rhaglen radio sy’n trin a thrafod llenyddiaeth a chelf arbrofol, eithafol a phersonol. Mae Sadia wedi trafod cyhoeddi cyfoes ac archifo aml-ddisgyblaethol yn Symposiwm Merched Mewn Cyhoeddi Prifysgol Bangor, Symposiwn Archifo Rhywedd Prifysgol Caerdydd, Fforwm 'Imagination' Gentle/Radical, ac fe fu’n curadu Llyfrgell Deialog WARP.

Cau
Natalie Jerome
Aelod Panel

Mae Natalie Jerome wedi gweithio fel cyhoeddwr a golygydd caffael i Penguin Random House, Pan Macmillan, Bonnier Books a HarperCollins. Mae hi bellach yn gweithio i’r asiantaeth lenyddol Aevitas Creative Management. Ar ôl ei chynnwys gan The Bookseller ar eu rhestr o 100 o enwau pwysig yn y diwydiant, cafodd ei disgrifio fel “dewin cyhoeddi brand” ar ôl caffael a chyhoeddi llyfrau sydd wedi gwerthu, yn ystod ei gyrfa, chwe miliwn o gopïau. Mae Natalie yn arbenigo mewn ffeithiol-greadigol gan ganolbwyntio’n benodol ar adloniant poblogaidd, ac fe gomisiynodd a chyhoeddi llyfrau gan restr o enwogion yn cynnwys llyfrau One Direction sydd wedi gwerthu yn eu miliynau, ynghyd â llyfrau gan Chris Evans, Alan Carr, George Best, Scarlett Moffatt a Gary Barlow. Fel asiant llenyddol, mae ei chleientiaid wedi cynnwys yr actor David Harewood a Lenny Henry.
Fel un o’r unig gyhoeddwyr du ym Mhrydain, mae Natalie wedi gweithio’n ddygn i wella amrywiaeth o fewn y diwydiant. Roedd yn un o’r cyfarwyddwyr a sefydlodd Creative Access, rhaglen fentora i raddedigion Du, Asiaidd ac o leiafrif ethnig sy’n edrych am interniaeth â thâl o fewn y diwydiannau creadigol a byd y cyfryngau. Yn 2016, canmolwyd Natalie am ei gwaith yng Ngwobrau Cydraddoldeb Hiliol Cymunedol National Business.
Mae Natalie'n aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr Llenyddiaeth Cymru.

Cau