Roedd Cystadleuaeth Farddoniaeth ecsgliwsif Cymru Ewro 2020, a gafodd ei drefnu gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a Llenyddiaeth Cymru, yn gwahodd plant oed cynradd i gyflwyno cerddi ar y thema hunaniaeth, am y cyfle i ennill llu o wobrau gwych.
Enillwyr:
Daeth 495 o geisiadau i law, ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi mai’r ddwy fardd buddugol yw Nansi Bennett a Martha Appleby. Cyhoeddwyd y newyddion ar Raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru yn ystod y bore.
Gellir darllen y cerddi yn fan hyn.
Beirniaid:
Roedd dau o bêl-droedwyr rhyngwladol Cymru, Ben Davies a Rhys Norrington-Davies, ar y panel beirniadu, ynghyd â Gruffudd Owen (Bardd Plant Cymru), Eloise Williams (Children’s Laureate Wales), a’r gantores-gyfansoddwr Kizzy Crawford.
Gwobrau:
Derbyniodd y ddau:
- Crys pêl-droed Cymru wedi’i lofnodi gan garfan Ewro 2020 Cymru;
- Copi o’u cerdd wedi’i llofnodi gan garfan Ewro 2020 Cymru;
- Pecyn llyfrau; a
- Gweithdy ar gyfer eu dosbarth ysgol gan Eloise neu Gruffudd.