Dewislen
English
Cysylltwch

Panel Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru

Sioned Williams – Cadeirydd y Panel 
Cafodd Sioned Williams ei magu yng Nghymoedd Gwent ond mae bellach wedi ymgartrefu yn yr Alltwen, Cwm Tawe. Yn gyn-newyddiadurwraig a chynhyrchydd gyda BBC Cymru, mae nawr yn Rheolwr Cyfathrebu a Datblygu yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe ac yn cyd-reoli Tŷ’r Gwrhyd, Canolfan Gymraeg Cwm Tawe a Nedd. Mae’n darlledu fel sylwebydd ac adolygydd celfyddydau ar raglenni teledu a radio Cymraeg gan gyfrannu adolygiadau hefyd ar gyfer cylchgronau Barn a Taliesin. Bu’n feirniad Gwobr Goffa Daniel Owen a Chystadleuaeth y Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Yr Athro Matthew Jarvis (o fis Gorffennaf 2019)
Mae Matthew Jarvis wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd yn Aberystwyth. Mae’n Athro a Chymrawd Anthony Dyson mewn Barddoniaeth ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant, ac yn Athro Gymrawd mewn Llenyddiaeth a Lle ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fel beirniad llenyddol, mae wedi cyhoeddi yn eang ar hanes barddoniaeth Saesneg o Gymru ers y 1960au, ac ar gynrychiolaeth llenyddol lleoedd a lleoliadau. Ef yw Cadeirydd Pwyllgor Poetry Wales, ac mae’n gyd-Gadeirydd yr Association for Welsh Writing in English. Mae’n olygydd yr International Journal of Welsh Writing in English, ac yn gyn-enillydd Gwobr M. Wynn Thomas am astudio ysgrifennu Saesneg o Gymru. Mae’n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Dr Tomos Owen (o fis Gorffennaf 2019)
Mae Tomos Owen yn ddarlithydd mewn llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n ymchwilio ac yn dysgu ym meysydd llenyddiaeth fodern a chyfoes, gan ganolbwyntio’n bennaf ar lenyddiaethau Cymru. Tra’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor roedd yn un o gyd-sylfaenwyr yr MA mewn Llenyddiaethau Cymru. Roedd yn olygydd ar ddwy gyfrol o ysgrifennu newydd i wasg Parthian, sef Nu (2009) a Nu2: Memorable Firsts (2011). Ceir ymhlith ei gyhoeddiadau ysgrifau ar Amy Dillwyn, Caradoc Evans, Dylan Thomas, W.H. Davies a Rhys Davies. Mae wrthi ar hyn o bryd yn paratoi cyfrol ar lenyddiaeth Cymry Llundain ar droad yr ugeinfed ganrif.

Catherine Phelps
Mae Catherine Phelps yn olygydd ac yn feirniad llenyddol. Mae’n ymchwilydd ac wedi dysgu Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Ymhlith ei phrif ddiddordebau academaidd mae ysgrifennu Saesneg o Gymru, a nofelau ditectif. Mae ei diddordebau ymchwil hefyd yn cynnwys llenyddiaeth a theori ôl-drefedigaethol; llenyddiaeth yr ugeinfed a’r unfed ganrif ar hugain yn Saesneg; llenyddiaeth Gothig, ac ysgrifennu gan ferched a theori ffeministaidd. Mae cyhoeddiadau Catherine yn cynnwys amryw o ysgrifau academaidd ac adolygiadau.

Elinor Wyn Reynolds (o fis Gorffennaf 2019)
Un o Gaerfyrddin yw Elinor Wyn Reynolds. Mae hi’n fardd, yn awdur, dramodydd a golygydd llyfrau. Mae hi’n perfformio’i gwaith yn gyson a thros y blynyddoedd mae wedi bod yn rhan o sawl taith farddoniaeth: Dal Clêr, Taith Glyndŵr a Lliwiau Rhyddid. Bu hefyd yn un o griw beirdd y SiwpyrStomp yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, mae hi’n cynnal gweithdai barddoniaeth i blant ac oedolion hwnt ac yma yn ogystal. Mae gan Elinor brofiad helaeth o weithio fel golygydd llyfrau Cymraeg i oedolion ac i blant ar gyfer sawl gwasg hefyd.

Nôl i Ysgoloriaethau i Awduron