Dyfernir Ysgoloriaethau i awduron sy’n dangos rhagoriaeth llenyddol wrth greu newydd yn y genres canlynol: ffuglen (nofelau a straeon byrion); llenyddiaeth plant a ffuglen i oedolion ifainc, nofelau graffeg, barddoniaeth, a rhyddiaith ffeithiol greadigol (yn cynnwys beirniadaeth lenyddol, cofiant/hunangofiant). Mae’r Ysgoloriaethau yn galluogi awduron ganolbwyntio ar ddatblygu gwaith penodol ar y gweill dros gyfnod o ddeuddeng mis. Mae’r Ysgoloriaethau yn symiau penodol o £3,000, a ceir dyddiad cau blynyddol ar gyfer ceisiadau .
Enillwyr Ysgoloriaethau 2020
Wrth gyhoeddi enwau’r 25 awdur a fydd yn elwa o’r Cynllun Ysgoloriaethau i Awduron a Mentora yn 2020 mae Llenyddiaeth Cymru yn atgyfnerthu ei ymrwymiad at ddatblygiad artistig a phroffesiynol egin awduron yng Nghymru, gan fuddsoddi ar yr adeg cywir. Yn ogystal, bydd y gefnogaeth hefyd yn galluogi awduron profiadol i fentro ac arbrofi gyda ffurfiau newydd er mwyn creu gwaith arloesol. Ceir amrywiaeth o leisiau rhyfeddol a phrofiadau yn yr ysgrifennu creadigol newydd hwn o Gymru.
Darllenwch ragor yma.
Gellir darllen bywgraffiadau’r awduron sy’n derbyn Ysgoloriaethau 2020 yma.
I weld rhestr o enillwyr Ysgoloriaethau i Awduron 2011-2020, gweler y rhestr ar waelod y dudalen hon.
Os oes gennych ymholiadau ynglyn ag Ysgoloriaethau i Awduron, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru:
029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org
Cefnogir Ysgoloriaethau i Awduron a Chynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru gan Y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru.
