Dewislen
English
Cysylltu

Croeso i Nant; hen fwthyn Gradd II* sydd wedi ei ail gynllunio’n arbennig ar gyfer encilion ysgrifennu. Wedi ei leoli ar safle Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, mae’r bwthyn hunan-arlwyo yma yn darparu hafan gyffyrddus a thawel i unrhyw un sydd angen canolbwyntio ar waith ar y gweill, ychwanegu’r manylion olaf un i’ch gwaith ysgrifennu, neu i ailgynnau eich creadigrwydd.

Yn eistedd rhwng y môr a’r mynyddoedd, mae Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd wedi ei lleoli ym mhentref Llanystumdwy yn agos i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Pen Llŷn. Mae milltiroedd o lwybrau arfordirol a choedwigol gerllaw i’w harchwilio ac i ysbrydoli.


Cynlluniwyd y bwthyn yn arbennig i ddarparu gofod pwrpasol a thawel i chi ganolbwyntio ar ysgrifennu. Mae Nant yn cynnwys: cegin fawr fodern, dwy ystafell wely ddwbl â gwelyau maint King sydd â desgiau ysgrifennu, ystafell ymolchi gyda chawod cerdded i mewn. Mae Wi-Fi ar gael drwy’r tŷ, ac mae ardal eistedd glyd yn aros amdanoch yn y lolfa ar ôl diwrnod hir o ysgrifennu. Bydd lluniau o’r bwthyn ar gael ym mis Mehefin.

Mae encilion ar gael am arosiadau tair noson (Gwener i Llun), pedair noson (Llun i Gwener), neu saith noson (Llun i Llun). Fel arfer, bydd gan ymwelwyr fynediad i erddi Tŷ Newydd, ein casgliadau llyfrgell eang, a bydd staff Llenyddiaeth Cymru bob amser ar gael i drafod ein rhaglenni a’n cyfleoedd Datblygu Awduron. Hunan-arlwyo yw’r encilion, mae gan y bwthyn gegin fawr fodern gyda phopty, microdon, tegell a thostiwr. Tra fod cyrsiau preswyl yn digwydd yn y ganolfan, gall opsiynau arlwyo fod yn bosib am ffi ychwanegol. Cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach.

Mae’r prisiau, sy’n cychwyn o £300, yn seiliedig ar un person yn aros i sicrhau eich bod yn derbyn y tawelwch a’r heddwch sydd ei angen i ganolbwyntio. Fodd bynnag mae dwy ystafell wely, ac os hoffech archebu lle i ddau bydd posib gwneud hynny am ffi ychwanegol fechan.

I archebu encil, ewch i: www.tynewydd.cymru/nant

Nôl i Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd