Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #12: Darllen

Cyhoeddwyd Mer 27 Medi 2017 - Gan Gwynfor Dafydd
Her 100 Cerdd #12: Darllen

Cais gan @AlwenThomas: Beth am gerdd i hybu darllen ymysg disgyblion?

 

Darllen

Mor anodd ydyw gweld yn glir

mewn byd sy’n gwrthod dweud y gwir;

 

a ninnau’n gymeriadau dof

yn colli rhyddid, colli cof;

 

’mond chwarae’n rhan yn stori fawr

yr hyn sy’n digwydd rhwng dau glawr;

 

fe gwyd ein hawdur ni y llen

a dawnsio wnawn i bib ei ben

 

ar lwyfan ei ddymuniad ef

heb godi protest na rhoi llef

 

na holi pam na beth na phwy

am nad yw ffaith ond ffuglen mwy;

 

nawr ewch i chwilio am y gwir –

dim ond mewn llyfr mae gweld yn glir.

– Gwynfor Dafydd, 15.32 pm

Uncategorized @cy