Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #13: Cwestiwn

Cyhoeddwyd Mer 27 Medi 2017 - Gan Rhys Iorwerth
Her 100 Cerdd #13: Cwestiwn

Cwestiwn
(Ynghylch pwerau dwyn perswâd L.Ll, a lwyddodd i’m darbwyllo i gymryd rhan yn yr Her ar faes y steddfod eleni)

 

Yli, Leusa Llewelyn. Er i mi ar y maes (cyn disgyn) wrthod yn rêI Iorwerthddyn dy her di, er dweud, “Can cerdd…? Lolyn!” – ym Modedern y mwd wedyn, daliaist ŵr dwl uwch ei wydryn (gŵr fel drip), ac ymhen tipyn, rywsut, fi (Rhys) ddaru dderbyn. Rŵan, a fi’n wir yn fan hyn, holaf (f’odliadur claf a goblaf): sut goblyn?

– Rhys Iorwerth, 15.36 pm

Uncategorized @cy