Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #16: Darlun

Cyhoeddwyd Mer 27 Medi 2017 - Gan Karen Owen

Darlun

Heddiw’n yr unigeddau

gwelaf lun, rhyw ddyn neu ddau,

yn ysgwyd llaw, a chawod

amau du’n carlamu dod

fel merlyn neu gobyn gwaith,

yn gynnen fel daeth ganwaith

drwy awyr lwyd ar awr ladd,

yn onglog ac yn angladd…

 

A’r rhain, y ffermwyr unig,

ydyw dweud pob gwladwr dig,

yma’n y mart mae’n ymhel

holl ddagrau lliwiau Llywel;

glan Wysg o luniau’n osgo

Epynt y paent piau o,

a holl siarad marchnadoedd

am werin Aneurin oedd…

 

Aneurin rown i orwedd

o fferm y byd yn ffrâm bedd.

– Karen Owen, 16.16 pm

Her 100 Cerdd 2017