Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #20: Catalunya

Cyhoeddwyd Mer 27 Medi 2017 - Gan Gwynfor Dafydd
Catalunya
 
Mae rat-tat democratiaeth
yn curo fel atgo na aeth,
a Franco’n effro o hyd,
yn hala’r wlad i’w gwely;
dwyn ei hawl – boed ‘Ie’ neu ‘Na’ –
yn eco o waedd Guernica.
 
Agorwch byrth y gweryd
a daw gwaedd eich teidiau i gyd
yn ei hôl i’w hofni nhw
a herio rhaib y tarw –
egyr y drws sy’n gwegian
â’r rhu hwn: “No pasarán!”
 
Be’ yw dyn? Pob doe a aeth
yn rat-tat democratiaeth.
Gwynfor Dafydd, 17.05 pm
Her 100 Cerdd 2017