Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #6: Senghennydd

Cyhoeddwyd Mer 27 Medi 2017 - Gan Gwynfor Dafydd

(Cais gan @PaulaCo91091323: Cerdd am löwr)

Senghennydd

Mor dwym oedd dŵr ei fath boreol, mor braf
y bore hwnnw, a hithau ’di codi’n gynnar
i arllwys diferion ei hymrwymiad i’r twb.
Sgrwbiodd hagrwch y gwaith oddi ar gefn
ei gŵr a mwytho’r straen oedd yn dalpiau
lletchwith yn ei wallt. Ac am eiliad, nid oedd craith
na phoen, dim ond dwylo tyner yn cloddio’r
tyndra o’r corff. Heno, mae hi’n dal i fod yno
ger y bath, yn gwlychu’r twb â diferion
ei thorcalon. A’r dŵr yn oer.

– Gwynfor Dafydd

Her 100 Cerdd 2017