Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #69: Dechreuad

Dechreuad 

 

Ble’r est ti’r hen hogyn? Diflanaist bron,

mor fawr dy wisg ysgol newydd sbon.

Neu’n hytrach, mor fychan, prin yn dair mlwydd oed

oedd y Llew bach lleiaf, anwylaf erioed.

Ond mae pob cena bach yn prifio’n gyflym

yn enwedig yn jyngl gwyllt Ysgol Nefyn!

A thyfu wnei ditha yn ddewr ar dy antur

i ganol y byd, ein harwr, Llew Arthur.

 

Gwyneth Glyn, 8.24 pm

Her 100 Cerdd 2016