Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #8: Ymson Hen Delynor

Cyhoeddwyd Mer 27 Medi 2017 - Gan Iestyn Tyne
Her 100 Cerdd #8: Ymson Hen Delynor

Ymson Hen Delynor

(Dathlu traddodiad gwerin a’i barhad)

 

Yn walts olaf, araf yr oriau mân

mae’r bysedd wedi hen adnabod gwe

y rhes o dannau tynion, ac mae’r gân

yn disgyn fesul nodyn trist i’w lle.

Mae’r cloc yn gwthio pedwar ac mae’n bryd,

hen bryd ffarwelio; mynd hyd lwybrau’r rhos

i’n gwlau a’n tai ein hunain; gadael hud

y jigs a’r rîls, polcâu ac alaw’r nos

i dreiddio’n ddwfn i’r distiau pren a’r bwrdd,

yr hen gorneli anghofiedig hyn

sy’n cofio sŵn crythorion gynt yn cwrdd,

sŵn cwrw a sŵn cŵn a churo ffyn;

Bydd ein halaw ni’n ddiogel yn y pren

i blant ein plant, a ddaw hyn fyth i ben.

– Iestyn Tyne, 14.45 pm

Uncategorized @cy