Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #93: Barcud

Cyhoeddwyd Iau 6 Hyd 2016 - Gan Gwyneth Glyn
Her 100 Cerdd #93: Barcud

Barcud

Dal di’n dynn yn y llinyn gwyn,
swynwr bach syn y barcud.
Mae enfys rhwng dy fysedd di,
paid â’i gollwng hi ar boen dy fywyd.

Ond os daw’r gwynt i gipio dros y gwrych
y lliwiau gwych uwch douau’r fro,
mi awn ar helfa hyd y lonydd
I achub corff y deryn lliw
a’i drwsio fo.

 

– Gwyneth Glyn

Uncategorized @cy