Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd: Holi Aneirin Karadog

Cyhoeddwyd Mer 5 Hyd 2016
Her 100 Cerdd: Holi Aneirin Karadog
Llun: Luned Aaron
Mae Aneirin Karadog yn un o bedwar bardd sydd wedi derbyn her gan Llenyddiaeth Cymru i gyfansoddi cant o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth. Fe ofynom ni ambell gwestiwn iddo cyn i’r dasg enfawr ddechrau…

Beth ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf ato wrth gymryd rhan yn Her 100 Cerdd?

Rwy’n edrych mlaen at allu dweud ein bod ni wedi cyflawni’r her, a bod gen i yn bersonol o leiaf 25ain o gerddi newydd sbon o fy eiddo.  Mi fydd hi’n braf dathlu trwy gael paned cryf o de a/neu lawer o gwsg wedi’r her hefyd.

 

Beth ydi eich gofid pennaf o gymryd rhan yn Her 100 Cerdd?

dwi’n un sydd wed bod yn gwylio Bear grylls – The island dros y cyfresi diwethaf ac mae’n her rwy’n aml yn meddwl o glydwch y soffa yr hoffwn ymhel a^ hi, ond wy’n gwybod taw methu yn rhacs fyddwn i, gan nad ydw i’n un da iawn heb foliad o fwyd na chwaith heb ddigon o gwsg.  Rwy’n gweld yr Her hon yn go debyg i The Island, gan y bydd rhaidf i ni weithiau lwgu heb awen weithiasu ond parhau i ysgrifennu cerddi er nad yw’r awen wedi ein bwydo, ac am bob eiliad byddwn ni’n cysgu, byddwn yn colli amser ysgrfennu. Bydd hynny yn  her seicolegol mawr.

 

Oes gennych dacteg clyfar neu unrhyw syniad o sut i wneud yr her yn haws?

Dwi wedi holi ambell un a fu’n rhan o heriau’r gorffennol, ac rwy’n croesawu unrhyw gynghorion y gall pawb eu rhoi.  Ond fy nhacteg feddyliol i allu dyfalbarhau drwy’r dydd a throi’r meddlw yn ffatri gerddi fydd dweud wrth fy hunan fod angen anelu am 40 o gerddi, fel bod lle i fethu, a’r methiant hwnnw yn dal i fod yn llwyddiant…gobeithio…AAAAAAHHHRRRG!!

 

Ydych chi’n ffyddiog y byddwch, gyda chymorth eich cyd feirdd yn llwyddo i gwblhau’r her?

Nac ydw, a dyna’r hwyl!

Uncategorized @cy