Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd: Holi Anni Llŷn

Cyhoeddwyd Mer 5 Hyd 2016
Llun: Emyr Young
Mae Anni Llŷn yn un o bedwar bardd sydd wedi derbyn her gan Llenyddiaeth Cymru i gyfansoddi cant o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth. Fe ofynom ni ambell gwestiwn iddi cyn i’r dasg enfawr ddechrau…

Beth ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf ato wrth gymryd rhan yn Her 100 Cerdd?

Dwi’n edrych ymlaen i ddysgu gan y tri arall!

 

Beth ydi eich gofid pennaf o gymryd rhan yn Her 100 Cerdd?

Mae’r nifer o gerddi yn fy nychryn i!! Dwi’n bryderus am ddiffyg cwsg hefyd…mae’n rhaid i mi gael cysgu!!

 

Oes gennych dacteg clyfar neu unrhyw syniad o sut i wneud yr her yn haws?

Sgwennu cerddi byrion!!

 

Ydych chi’n ffyddiog y byddwch, gyda chymorth eich cyd feirdd yn llwyddo i gwblhau’r her?

Dwi’n eitha penderfynol… a chystadleuol… ac os ydi’r beirdd blaenorol wedi llwyddo wel mi fydd yn RHAID i ni lwyddo hefyd!!

Her 100 Cerdd 2016