Dewislen
English
Cysylltwch

Cyrraedd ag ail-ymweld â Tranas

Cyhoeddwyd Llu 9 Gor 2018 - Gan Dana Perry
Cyrraedd ag ail-ymweld â Tranas

Cyrraedd ag ail-ymweld â Tranas

 

Cyfarchion ffrindiau annwyl!

 

Gan deimlo’n aflonydd ar ôl noson ddigwsg flinedig, fe laniodd prentis anhygoel ‘Mel & Write4Word’ (ie, fi!) yn Sweden. Dyma wythfed flwyddyn Mel yn mynychu, ac fe soniodd bod Gŵyl ‘Tranas at the Fringe’ yn agos iawn at ei chalon, er nid oedd angen iddi ddweud hynny gan ei fod yn gwbl amlwg o’r ffordd newidiodd ei hymddygiad hi wrth sôn amdanynt. Taniodd fy niddordeb.

 

Fe gollodd y maes awyr gês dillad Mel (unwaith yn rhagor!) ond nid effeithiodd hynny ar ei hwyliau lawer, gan ein bod ni bron â chyrraedd. Cyrraedd ffrindiau. Cyrraedd Tranas.

 

Ar ôl cyrraedd y gwesty a chael ein tywys o gwmpas Tranas a phreswylfa Kultivera, fe aethom i’r man croesawu yn yr ŵyl, sydd newydd ei ddatblygu. Mae gofod i’r tîm cyfryngol gydweithredu, ac mae fel cwch gwenyn yno (os da chi’n cyfnewid y gwenyn am bobl greadigol) â’r teimlad o gyffro’n tyfu gydag egni anhygoel yn bownsio oddi ar y waliau!

 

Ein tasg gyntaf oedd cysylltu ysgrifenwyr Cwrwgl Rhyngwladol Ewrop Dominic a ‘Write4Word’, a thîm Kultivera. Roeddem ni’n teimlo ‘chydig dan deimlad ar ôl clywed straeon o’r gweithredoedd hudol oedd eisoes wedi digwydd, ond hefyd yn eithriadol o frwdfrydig ar gyfer clywed y lleisiau amrywiol cyffrous, a’r digwyddiadau a oedd ar gael ar gyfer yr wythnos i ddod. (Dwi’n ymddiheuro am dorri ar draws, ond fel yr oeddwn i’n ‘sgrifennu hwn, dyma Dominic yn ymddangos yn y man croesawu ag yn fy nghyflwyno i i Fardd Cenedlaethol Cymru – Ifor Ap Glyn. Am gyffrous. Mae e weld yn foi clên!)

 

Heb amser i orffwyso, fe aethom ni’n syth am Tranas. Gŵyl Tranas at the Fringe. Y prynhawn hwnnw, fe aethom ni’n syth mewn i raglen yr Ŵyl gyda gweithdy perfformio barddoniaeth gan Sandra Skaven a Julian Guerra Ortega, yng nghaffi Towerland, ac yna i ddarllediad gan fardd uchel ei glod, a gan yr ysgrifennydd Janice D. Soderling yn Theatr JARMO. Yn dilyn hynny, fe welon ni ‘spa gweledol’ gan yr artist Fuji Hoffmann. Mwy am hynny wedyn, ond am nawr – esgusodwch fi, dwi’n mynd i drochi fy hun mewn celfyddyd o bob math…!

 

Hwyl fawr a nos da!

Llenyddiaeth Cymru