Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #4: Colli Trydar

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Dyfan Lewis
Her 100 Cerdd #4: Colli Trydar

Colli Trydar

Dyma fi, drydar-garwr
bendant fy marn, bach rhy siŵr
o bynciau llosg nes i ’rioed ystyried
nes rhyw awr yn ôl,
ond nawr llawn hyder
i ddiawlio unrhyw elyn blîn
heb ddweud dim, cofiwch,
dim ond chwerthin.

Trydaru? O na, dim diolch
Byddai gwell gen i ymolch
yn y llaid ’da’r hippo
na rhannu popeth
fel bod pawb yn pipo
ar fy marn go iawn.
Llechu’n y cysgodion,
dyna be wnaf, a sylwi
ar bobl blîn yn gweiddi,
gan wenu.

Ond gwae! Erchyllbeth pur
yw estyn am y ’deryn las
a gweld y sgrîn yn rhewi.

– Dyfan Lewis, 1:52 pm

Uncategorized @cy