Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #17: Marwnad Dylan Jenkins

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Dyfan Lewis

Marwnad Dylan Jenkins

 

Dylan Jenkins, bu’n byta dros Gymru

byta popeth, byta heb lenwi

ond daeth i ben ei fyta brwd

un noson drist mewn mynydd o chwd.

Yr ecclairs oedd ar fau, roedd yn hoff ohonnynt

yn eu sawru, eu blasu, eu hanadlu fel gwynt

syth i’w fola mowr a theidi

dyma oedd dileit y bolgi

pan daeth i’r noson dyngedfennol

doedd dim un ecclair ar ôl;

trodd Dylan i fyta’r llyfrau

y cwshins, y cyllyll a’r drysau

Llenwodd ei fol un tro olaf

ac er cof i’w fol ef y canaf.

– Dyfan Lewis, 4:13 pm

Her 100 Cerdd 2019