Dewislen
English
Cysylltwch

Antur Cymreig Peter Theunynck – Rhan 1

Cyhoeddwyd Llu 5 Tach 2018 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Antur Cymreig Peter Theunynck – Rhan 1
Mae bod yn awdur Preswyl yn Nhŷ Newydd yn gwneud i mi deimlo fel Tywysog yng Nghymru…

Ym mis Tachwedd 2017, cwblhaodd yr awdur o Fflandrys, Peter Theunynck, breswyliad llenyddol yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd fel rhan o gynllun Barddoniaeth Colled. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Cell Mynach neu’r siop goffi?

Bod yn awdur preswyl: ble mae dechrau? Dydd Gwener 28 Ebrill 2017: dw i newydd gael ci par ebost gan Passa Porta yn rhoi trosolwg o 2017-18 a’r holl gyfleoedd i awduron Fflemeg fynd i ‘sgwennu a bod yn awduron preswyl. Yn syth bin, dw i’n cael fy nhynnu tuag at Tŷ Newydd, Cymru.

Hyd yn hyn, doeddwn i erioed wedi cael fy nhynnu at fan penodol i ‘sgwennu, nac wedi teimlo’r angen i wneud hynny ‘chwaith. Dw i’n mwynhau bod yng nghanol prysurdeb a bwrlwm bywyd; mae’n llawer gwell gen i gaffi na chell mynach.

Roedd rhaid i mi roi cynnig arni. Pam? Roedd gen i gynllun. Lleoliad fy nofel nesaf yw Cymru, gan archwilio hanes y ffoaduriaid a laniodd yno yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth y syniad i mi ar ôl i mi ddysgu am brofiadau Gustave van de Woestyne, Valerius de Saedeleer a George Minne yn ystod eu cyfnod yn ardal Aberystwyth. Mi fysa hi’n anodd iawn ‘sgwennu nofel am Gymru heb fod yno’ch hun.

Dw i’n gwneud rhestr fer o’r holl resymau pam fy mod i ar dân eisiau mynd i Dŷ Newydd yn ystod oerni mis Tachwedd. Wedi hynny, rhaid aros. Dw i’n ceisio anghofio am Gymru. Wrth i ni adael am wyliau i’r de ar 5 Gorffennaf 2017, dw i’n derbyn e-byst gan Passa Porta, Tŷ Fflandrys a Tŷ Newydd. Dw i wedi cael fy newis i fynd i Gymru.

 

Darllennwch Rhan 2 Antur Cymreig Peter Theunynck yma

Literature Wales