Archif: Her 100 Cerdd 2012
#100 Y Ganfed Gerdd
Heddiw’n grwn croniclwn ni’r
Hysterics i greu stori.
I bedwar ban o’n hannedd
Drwy’r byd heb symud o’n sedd.
Ar dramp aed i droedio’r we
A’r hewl ar goll yn rhywle.
Diolch gan lu’r canu caeth
I’n holl noddwyr llenyddiaeth!
#98 Talwrn Ysgol y Preseli
Yng nghesel y Preseli – yn y mawn
Ac mewn yn y trefi,
Yn eich iaith a welwch chi
Ŵyl wahanol eleni?
#97 Wythnos y Glas i fyfyrwyr newydd
(i Greta)
Yn iaith wâr y ddarlith ddwys – ym Medi
Heb amodau ‘cytbwys’,
Heno cewch dorri eich cwys
yn barêd dros baradwys.
#96 I Jac a Iona ar eu Priodas Ruddem
Ar ras i Bant-glas mae’r glêr – fel erioed,
Fel rhyw haid am swper,
Ond yntau’r mab o Aber
A’i fawl o hyd yn aflêr.
Mae’r ŵyr yn hwyr â’i eiriau – fel erioed,
Yn flêr iawn ei odlau,
Ond mae’n ffaith – am unwaith mae
Ei dôn yn un â’i dannau!
Torrwch i Jac y gacen – a chanwch
I Iona yn llawen,
Mae pawb yma gyda gwên
A’u nai yn llawn o awen!
Jac a Iona’n y canol – a’r teulu’n
Reit dalog yn canmol,
Dewch, dawnsiwch heno bobol
Dan wers y dyn ar y stôl.
Ddeugain mlynedd i heddiw – fe’u hunwyd
A’u cyfannu’n unlliw,
Ymwroli’n amryliw,
I’r ffrind a’r hoff heno’n driw.
Boed hapusrwydd a llwyddiant – ichi’ch dau,
Ewch o’ch dydd i’ch haeddiant,
A rhoi yma’n llawn rhamant
Un cwrs at yr hanner cant!
#95 Merch ar goll (II)
Mae’r bedwaredd noson fel blanced drosom
yn hydrefol a gwlyb, yn dwyn ein hanadl
o’r ffroenau dig,
y paderau tawel a’r fflamau gwan;
bydd amenio cyn cyrraedd bonyn y cwyr,
er bod hwnnw bron â bod wedi’i fwyta’n llwyr.
#99 Harri a Gwion
(fy neiaint)
Y mae Harri a Gwion
yn dod o hyd fel dwy don
i’n traeth, ac anturiaethau
a ddaw o nunlle i’r ddau.
Eu dwy wên ddrwg a’u gwg wych
a fynnaf weld yn fynych
yn y Bwthyn gobeithiol
sy’n ffau i’r ddau ar y ddôl.
Dau frawd glân hoff o lanast
ond dau frawd a dyf ar hast.
#94 Rough Guide i Sir y Fflint
Shotton a Garden City – Eryrys
a gororau Cymru,
Maes Brychdyn a Sychdyn sy’,
A Nannerch o ran hynny.
#93 Hyddgen
Pan fo’r fawnog dan glogyn
A’r cymylau’n garpiau gwyn,
A lonydd dros Bumlumon
Yn barhad o’r nentydd, bron,
I droedio draw drwy y drain,
Yno daw catrawd Owain
At yr Hyddgen sy’n denu
beirdd y wlad mewn dillad du.
#92 Llandudoch
O Baris, Seoul, Aber-soch, o’r Gwbert,
Caergybi, Rhos Rannoch,
o hyd y mae Llandudoch
yn bell lle bynnag y boch.
#91 Ar Enedigaeth Erin Medi
Er oered, hired yr ha’ – yn Nefyn,
Yn Nheifi, mi wela’
O bell fod pethau’n gwella
Am fod Erin Medi ‘ma.
#90 NYTTARS
Mae Meibion Glyndŵr yn enw cyfarwydd,
FWA, MAC ac eraill sydd ddim mwy na myth:
ond y pennaf o’r mudiadau yma i gyd
heb os ydi Nyttars am Byth!
#89 Maes yr Yrfa
(ar gais Carys Edwards)
Ym Maes yr Yrfa bum i yn fy iaith
fy hun yn ei gwersi
ac yma’r Gymraeg imi’n
iaith yr iard rhwng naw a thri.
#88 Penmaenmawr
Ni thâl ddiota wyth awr yn y dydd;
rhaid diodde’n ddirfawr;
yn y man cei Benmaenmawr.
#87 I Raglen Nia Roberts
Ebe Sobin, ‘ma’r ogia go iawn
Yn cael mwy o hwyl yn y pnawn,’
Ar ôl imi wrando
Drwy’r dydd ar y radio
Dwi’n sicir ei fod o yn iawn!
#86 Rwy’n ♥ Dyffryn Ceiriog
Erw Gerrig, Tregeiriog – a bro’r Waun,
Pen-y-bryn, Pontfadog,
O dai’r Glyn i dir y Glog –
Rwy’n caru Dyffryn Ceiriog!
#85 Ffrwchnedd
Ffrwchnedd sy’n cynganeddu’n
dda iawn, boed felyn neu ddu.
#84 Diymadferth
Heno mae’r delweddau’n pallu dod.
Yr awydd yn arafu,
Geiriau’n glynu yn ei gilydd
Ac yn gwrthod gadael fynd,
Nid blinder,
Mae coffi’n cadw hwnnw wrth y drws.
Yn y cefndir y mae’r bwletinau byw,
straeon yn ailadrodd bob rhyw awr,
rhyfelgwn eto’n dadle ar y sgrin,
hanes yn datguddio cythreuliaid,
a’r tu allan, nawr ac yn y man
mae seirennau’n sgrialu drwy’r pentre,
chwilolau hofrenyddion dros yr afon,
braw y nos yn bolltio’r drws
a dagrau pedwar ban yn gwlychu’r lôn.
Heno, mae’r delweddau’n pallu dod.
#83 I Fordaith Dai ac Elaine
Gwelaf borffor y môr maith – yn eang
dan awyr las berffaith
a Dai ac Elaine ar daith
ar ruban disglair o obaith
#82 Blinder yr her
Rwyf innau wedi blino,
mae fy mhen yn teimlo’n drwm,
mae’r feiro bellach bron yn sych
ac mae’r eirfa’n mynd yn llwm.
Mae f’ysgwyddau’n dynn fel lleder,
mae’r coffi di rhedeg mas,
ond er hyn oll rwyf innau’n
dal i drio fy ngorau glas.
Rhaid imi ddal ati i sgwennu
oherwydd, nefoedd wen,
petaem ni’n methu cyflawni’r her
bydd BARDDONIAETH YN DOD I BEN!
#81 I Chwaer Fach Leusa
Pwy sy’n gwenu’n ddrygionus,
Yn rhyw hoff o Meic a Rhys
A Brit? Pwy sy’n gampwraig bro
Ar rysêt y risotto?
Pwy’r ferch fach â’r gath fach, fân
Â’i swêd a’i sanau sidan?
Pwy’r ferch wen ar dad heno
Sy’n chwarae triciau bob tro?
I Leusa, hi yw’r dlysaf –
Siŵr iawn, hi yw Seren Haf!
#80 Pumed aelod?
Ofer swynion barddoniaeth
Tra bo Lleucu’n llyncu llaeth!
#79 I Savi’r Ci Defaid
Ci bychan bwyteig ydi Savi,
boed datws neu boed yn wasabi,
heb anghofio’r carped
a’r cyrtens pob tamed
mae’n wyrthiol nad ydyw yn pesgi.
#78 Bwyty Dan i Sang
Ar yr hwyrol heolydd, – dewisaf
Yn Llandysul beunydd
fwyd hynod, per ddiodydd –
Yn Dan i Sang, dyna sydd!
#77 Diwrnod y Llyfr
Mae J.K Rowling a T. Llew
A D.J, Marx ac Orwell
Yn gyrru mlaen yn weddol dda
Er bod D.J. yn dawel,
Fe’u gwasgwyd nhw yn dynn, dynn iawn
Ar ochr chwith y silffoedd llawn.
Mae Saunders a Kate Roberts nawr
Yn cael tam’ bach o lonydd
Er bod Prysor, Nei a Pod
Yn codi sŵn digywilydd,
Yr unig un sy ddim yn iach
Yw Solzhenitsyn druan bach.
Mae’n waith cael trefen arnyn nhw,
Rhai precious yw awduron,
Ac mae’r prifeirdd ganmil gwaeth
Ar silffoedd y llenorion.
Ond wrth gau’r drws, mor ddifyr yw
Dychmygu bod y geirie’n fyw.
#76 ‘Papur Tŷ Bach Tsiêp’
(ar gais Heledd ac Aled Morgan)
Roedd Wiliam yn dipyn o gybydd,
Ni phrynai’r stwff drud ac, o’r herwydd,
Un dydd ar y pan
Aeth ei fys e reit lan
Drwy’r papur i fan digywilydd.
#75 ‘Ai doeth ydyw’r rhai â doethuriaeth?’
(Ar gais Rhys Griffiths)
‘Ai doeth ydyw’r rhai â doethuriaeth?’
Holodd Griffiths yn llawn o ddrwgdybiaeth.
Fel mae’n digwydd, rwyf i
yn gwneud PhD
ond does gen i ddim lot o dystiolaeth.
#74 Heno
Heno, dewch am drafodaeth – gynnes iawn,
Gwên a sŵn cymdogaeth,
A mwynhau holl gwmnïaeth
Soffa hir iawn a sgwrs ffraeth.
#73 I Glwb Pêl-droed Trawscoed
(ar gais Dic Evans)
Ewch, da chi, i Wembley wyn – prynwch focs
Yn Ibrox arobryn,
Cae Ras a’r aceri hyn –
Pa hud fel Ca’ Siop wedyn?
Yn y fan mae Barca’n bod – Iniesta
Ar lan Ystwyth hynod,
Xavi a Dani sy’n dod
A Messi yn ymosod.
Eilunod ar y linell – yn y gôl
Arwyr gwych, ac ambell
Un o bwys na bu ei well
I Drawscoed ar yr asgell.
Ond o nawr nes daw’n hwyrnos – ar y lôn,
Ar y lein bob wythnos,
Yn y ddaear yn aros
Bydd Peter Bonner, y bos.
#72 Y Talwrn
O safbwynt y pencampwyr!
Hel sgôr uchel a throi’r sgriw yn dynn, dynn
yw ein dawn unigryw;
maes rhedeg mesur ydyw,
maes y gad i’n miwsig yw!
#71 Rhwydi
Beth ddaliwyd gan y rhwydi
fel y nos a daflon ni
ar y dŵr i ddrysu’r don
a’i hidlo yn afradlon?
A godwyd un pysgodyn
O’u cysgod i gychod gwyn?
Neu ai gwymon aflonydd?
Gwallt tywyll y cewyll cudd.
Yno, fe’n daliwyd ninnau
Heb weld mor wag ydi’r Bae,
Dan awyr lwyd a rhwydi
Ein hoes diedifar ni.
#70 Anadl
(yn ymateb i gais gan Morfudd Hughes
Troi o obaith at drwbwl
yw rhoi anadl i ddadl ddwl.
#69 NPDL – Rhwydwaith i Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol
O fynnu canu pob cân yn uchel
fy nghloch ar y llwyfan
yn fy heniaith fy hunan,
pery’r map o eiriau mân.
#68 Argyfwng
Pan fo’r don yn teilchioni, yn taro
Ar y tir i’w hollti,
mi wn bod angen meini
cryf a thal i’w hatal hi.
#67 Ail i Glwb Peldroed Lerpwl
(I Mrs Jackson – YNWA)
Paid holi be dwi’n neud, dwi’n gwylio Sky,
Ma kick off Lerpwl-Everton am ddau.
Ti eisie mynd i siopa? Dwi’m yn rhydd.
Mae’r transfer window bwysig mlaen drwy’r dydd.
Gwagio’r bins a golchi’r llestri? Be?
Dwi’n gwylio DVD gols llynedd, ‘ce?
Dwi isie galw’r budgie yn Dalglish,
Oce, wel be am Rush te? Nage? Sheesh!
Os wyt ti’n ail i Lerpwl, cofia hyn,
Roedd Paisley’n ail i Shankly, ‘nghariad gwyn.
#66 Llanllyfni
Roedd dyn bach yn dod o Lanllyfni
a ddwedai y dôi o Langefni.
Ar ôl llawer blwyddyn
o dwyllo ei gyd-ddyn
symudodd o wedyn i Newcastle.
#65 I Bobl Sinsirwallt
O Bahrain i bier Rhyl,
O Brasil i Abersoch,
Heb os, nid âi neb sy’n dallt
I liwio gwallt Iolo Goch!
#64 Ta-ra Julian
Haliwn, â rhaff, Julian Ruck
yn saff i bellter Suffolk!
#63 Ein hiaith
Mae ein hiaith, mi wn, weithiau, yn downer,
ond ynom bydd hithau,
mae ynom, ti a minnau,
mae ynom ni i’w mwynhau.
#62 Yr Wyl Gynganeddu
#61 I’r Ganolfan Sgiliau Astudio newydd ym Mhrifysgol Bangor
(ar gais Leila Salisbury)
Ein her? Adfer efrydfa; addysgu’r
addysgwyr i wella.
A addysgir a ddysga
o ddysgu addysgu’n dda.
#60 I’r Glas-ddarlithwyr
(ar gais y Coleg Cymraeg Cenedlaethol)
Ddarlithwyr! Nac anghofiwch chi
Eich bod, un tro, o’n hochor ni,
Cyn clod a mawl a pharch a bri,
Yn un o’r haid
O bobol iau a dalodd ffi
Am ddysg, o raid.
Boed hynny’n gysur mawr i ddyn,
Na fedrwn ni, er cynddrwg llun
Sy arnom, fod lot gwaeth na’r un
Sy ger ein bron,
Sy’n gorfod aros bellach ar ddihun
Drwy’r ddarlith gron.
#59 I Eirlys (mam fy nghariad!)
Nid cystal â Nigella,
Nid cynddrwg â’r boi nesa’,
Mewn llawer llan a llawer llys
Mae Eirlys yn enigma!
#58 Porthorion
Mi fum yn meddwl ganwaith
Wrth gerdded mewn i’r Gen,
Ysgwn i be ddigwyddai
Pe bawn i off fy mhen
Yn ceisio cerdded allan
A chyfraith Hywel Dda,
Neu Lyfr Du Caerfyrddin,
Neu gopi o Which Car?
A fyddai’r porthor hynaws
Fel brawd o’r CIA
Yn neidio’n wyllt o’i guddfan,
Ac yna’n gweiddi ‘Hei!’
Neu a fyddai’n codi
Ei lygaid craff o’r llawr
A ‘nghyfarch i yn addfwyn
‘Nos da. Pob hwyl ‘ti nawr.
#57 ‘Cwpled cerdyn Nadolig’
Boed i’r Ŵyl ddod â’r hwyliau
i’ch lle’n hael a’ch llawenhau.
#56 Yr Arolwg
(ar gais Siân Harris)
Athrawon ar eu cythlwng
A’r pennaeth fawr ddim gwell,
Yr hen lanhawr hynaws
Yn crio yn ei gell,
Daeth llythyr trwm, trwm iawn o’r Sir –
‘Bydd Arolygwyr draw cyn hir.’
Mae’r plant yn rhyw synhwyro
Bod rhywbeth ddim yn iawn,
Athrawon cynorthwyol
Yn sibrwd drwy’r prynhawn –
‘Mae’r Arolygwyr ar eu ffordd …
Mae’r Arolygwyr ar eu ffordd!’
O fore gwyn hyd hwyr y nos
Mae’r ysgol ar ddihun,
Y gŵr a’r plant yn mopio’r llawr
A’r ci yn paentio llun,
Ond bydd hi’n ysgol wych pan ddaw
Yr Arolygwyr ‘ma am naw.
#55 Maes B
Mae fy mhabell yn llawer rhy fychan,
mae gormod o sŵn y tu allan,
a’r toiled sy’n drewi.
O leia’ nad ydw i’
drws nesa i dent Tudur Dylan.
#54 2,000 o gerddorion Cymraeg yn torri oddi wrth y PRS
ar gais Golwg
Bunt wrth bunt ni ddaw’r un budd o’u cadw
‘mhocedi hen gybydd;
hawliwn ni â’r ddêl newydd
y gwir werth o’r geiniog rydd.
#53 I Chweched Dosbarth Ysgol Bro Myrddin
I ni’r criw, rhowch chi heddiw hyn – o barch,
Fe ddaw’r byd i’n canlyn,
Ein gwlad sy’n ddiogel wedyn
O wisgo’i hiaith mewn crys gwyn.
#52 ‘If there is hope…it lies in coffee’
Paned 1984.
Dyma i mi goffi gwâr.
#51 Canol oed nid canol y ffordd
(I ddathlu penblwydd Gareth Lewis, sy’n 40 heddiw)
Cei brynu’r Porsche a’r Harley,
A’ r Les Paul, sgleiniog, crand,
Er nad oes gen ti drwydded,
Ac er nad wyt mewn band.
Cei chwarae’r heavy metal,
Pen-doncio’n wyllt fel gordd,
Oherwydd bo ti (jyst) yn ganol oed,
Ac nid yn ganol y ffordd.
#50 Datblygu
(ar gais Lleucu Siencyn)
Gwn fod ar y ddalen wen
ysgrifen daclus,
y paragraffau wedi’u drafftio ganwaith,
pob un gair wedi’i flasu a’i dderbyn
am bob ugain a boerwyd i’r bwced.
A gwn fod ôl llinell bren mesur
a phensel wedi’i rhwbio
o dan bob brawddeg berffaith lorweddol.
Gwn hefyd fod y cyfan cyn wired â’r wawr
ac y byddai’n codi’n llachar
dros orwel plygiad y ddalen
petawn i’n ei hagor.
#49 I Bethan ar ei Phen Blwydd yn 16
(ar gais Nia Donnelly)
Bethan, er bod byw weithiau’n anodd, wir,
O ddod drwy’r arddegau
Fe fyddi’n bendifaddau
 dim i’w wneud ond mwynhau!
#48 Gwneud Nigella
(‘dilyn rysailt Nigellissima’ ar gais Delyth Edwards drwy e-bost)
Rwy’n ymhél â Nigella yn y llofft,
ar y llawr ‘ny lolfa,
dros nos ‘ny tŷ drws nesa,
ond ‘nei gwneud ‘ny gegin? Na!
#47 Ras Arlywyddol
Os wyt yn pendroni, neu’n hytrach yn ama’,
a fedri roi fôt dros rethreg Obama,
Dim ond iti wrando am eiliad ar Mitt,
Cei ddeall yn llawn beth yw ystyr ‘twit’!
#46 Pwysigrwydd Defaid
Pwysigrwydd defaid, i’r sawl nad yw’n gwybod,
yw galluogi Trawsfynydd gael ei sbotio o’r gofod.
#45 Gwalia Deserta 2012
Beth ddwed y clychau heddi?
Oes rhai yn canu, dwed?
Tawelodd rheiny hefyd,
Gwacaodd seti cred.
Ac nid yw Dai yn poeni
Bellach bod rhaid i’w grwt
Weld Uffern o dan ddaear,
Mae’n Uffern ar y clwt.
Mae’r plant yn adrodd straeon
Am smack a speed a blow,
Am nad oes dim byd gwell i’w wneud
Bellach ar Collier’s Row.
Os geilw’r undeb streicie,
Mond dyrned ddaw o’r gwaith,
Dyw’r aelod lleol ddim yn dod
I ddangos ochr chwaith.
Ond diawl, mae’r pwll ‘di glasu,
Yr afon eto’n lân,
A rhai yn dechrau siarad
Am newid, fel o’r bla’n.
#44 Erch, Rheidol a Thaf.
Mae’r dyffrynnoedd i gyd yn agor ynom
yn dad-blygu’u mapiau cyfarwydd
o’n blaenau;
ac wrth ddilyn â’n bysedd Erch, Rheidol a Thaf,
yn golchi’r tirlun i’w haber ac yn ôl
yr un osgo sydd i’w heiddo o’u darllen yn llwyr.
Er pan nyddwyd afon i’m deall innau
gallaf ddilyn, fel un, yr holl drywyddau
heb edrych ar fap, a deall yr enwau.
#43 I Fetsan Feichiog
Llowcia di’r cyri, y tsili a’r tsips,
Rho naid lan yn uchel a pinsha dy nips,
Neidia ar gefn quadbike ac yna i’r twb,
Un twym, twym iawn (a chofia gael scrwb),
Ac os nad yw’r babi dal ddim am ddod mas,
Mae rhyw’n lot o help, a hynny ar ras!
#42 Amserlen Radio Cymru
Caf Iola yn y bore,
A Nia yn y pnawn,
Ac ar ôl swper Lisa G,
Fy ffiol i sydd lawn.
#41 ‘One Nation’
(ar gais Golwg)
Ai Dave ai Ed a fu, wir,
Wrth ei waith areithio hir
Yn creu pont i uno’n tir?
Un genedl, un ddisgynneb,
Un hen wên, un wlanen wleb,
Un dyn o wellt nad yw’n neb.
#40 Pawen ar wyneb Hywel?
Ai pawen sy’ ar wyneb Hywel? Un arth
anferthol, neu fwngrel
tew, neu lewpart tawel?
Dyna ddyn nad yw yn ddel!
#39 Teulu
Gwgai cypyrddau’r gegin, ar agor,
A rhegi’n ddilychwin
Uwchlaw darnau’r gwydrau gwin.
Y teledu’n ddiluniau, a’i eira’n
Araf oeri’r muriau,
Eu hoeri nhw ers oriau.
Mae’r marmor yn teimlo’r taw, a dweud mawr
Dad a mam yn ddistaw,
Drysau’n glep dros sŵn y glaw.
#38 Gwrach Cors Fochno
Mae gwrach yng Nghors Fochno
A brwyn yn ei gwallt,
Mawn o dan ei hewinedd
A’i hanadl yn hallt.
Pan ddaw’r niwl fewn o’r môr
Mae hi’n codi’i phen,
Ac er gwaetha’r gwynegon
Yn ei choesau pren
Mae hi’n gadael ei chartre
Yn y siglen ddofn
A chrwydro’r pentrefi
Er mwyn codi ofn.
Peidiwch chi meiddio agor
Y llenni, da chi,
Rhag ofon y gwelwch
Ei llygaid gwyrdd hi.
#37 Croesawu myfyrwyr newydd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Gramadeg yw her Medi – Yn Ionawr
cawn win y baledi,
a’i wagio’n Fabinogi;
ond daw Mai â chlod i mi!
#35 Cangen Coleg Cymraeg Cenedlaethol Prifysgol Caerdydd
Y Cyw olaf drwy’r coleg, er ei thwf,
yw’r iaith hon. Mae rhethreg
erbyn hyn i’w dysgu’n deg,
o wareiddio pob brawddeg.
#34 CPD Wrecsam
Fforddiwyd, yn gloff, ei urddas ond ‘leni’n
dal yno o’n cwmpas
mae’r sêr yn un â’r teras,
yn griw â’u hawl ar Gae Ras
#33 Technoleg
Mae gen i fil o ffrindiau
yn eistedd ar fy nghôl,
a faint sydd ar y soffa
wrth fy ymyl? Bygyr ôl.
Ond eto, os ydw i eisiau
gwneud cais am gerdd drwy’r we,
fel Rhys Aneurin yntau,
technoleg sy’n ok!
#36 ‘Hi, Everybody!’ … ‘Hi, Dr Hywel!’
Callia Hywel! Daw’r felan – ar bob un
Gŵr byw a’th wêl, ‘ychan,
Carai amal roi cryman
Ar dy gotee di, neu dân.
Gwaeddai ‘hi, Dr. Hywel’ – lawer un
A welai’r hen gawdel,
Tafla’r ffwr i’r bin sbwriel
A’i losgi’n gols – gwyn y gwêl!
#32 Bwci Bo Brook Street (Y Brwci Bo)
Yn crwydro’n tŷ ni, mae Bwci Bo
yn berwi’r tecell, yn crafu’r to,
yn yfed y llefrith, yn cuddio fy ‘sanau,
yn hambygio’r gath, yn agor y drysau,
yn cuddio’r goriadau ac yn mygu’r tân,
yn baeddu’r llestri oedd, wir yr, yn lân,
mae’n cerdded i’r tŷ mewn sgidiau mwdlyd,
mae’n gadael ei drôns ar lawr yn ddrewllyd,
mae’n dadwneud fy ngwaith cartref pan ‘does neb yn sbio…
Ond pam nad oes neb, sgwn i, yn fy nghoelio?
#31 Caru Esgid
Mae esgid newydd
yn gwasgu fymryn;
ond o’i gwisgo’n feddal
mae hi’n ddihafal wedyn.
#30 Cerdd Groeso i Gŵyl Arall
Ydi, mae’r haf yn brysur,
a dy galendr yn llawn
o sgribls blêr, deniadol,
ac amser yn werthfawr iawn.
Ac oes, mae gwyliau eraill
ar hyd a lled y wlad
mewn neuadd neu bafiliwn
neu mewn gardd gefn ar stad.
Ond yr ŵyl yn nhref Caernarfon
yw’r orau drwy’r flwyddyn gron.
Tyrd dithau, gyfaill, draw i weld
nad jest Gŵyl Arall yw hon.
#29 Y goatee, gyda diolch i Osian
Ai blêr o hyd blew ar ên? Nid i mi.
Dyma yw fy awen.
Yma, wyf featnik cymen
In denial o fynd yn hen.
#28 Gyrru drwy storom
Os yw sterics y storom
a’i hen drics drwy’r awyr drom
yn gwasgu’n dynn amdanaf
innau am oriau, mi af
eto ar daith drwy’r tir du
a thrwy’r hin a’i tharanu.
Daw weipar bob yn dipyn
drwy’r glaw a’i llaw’n clirio’r llun;
gyrru’n wyllt drwy’r dagrau wnaf
yn ei sgil hyd nes gwelaf
awyr las ar ben draw’r lôn
a haul i godi ‘nghalon.
#27 Goatee Hywel
(Tyfodd y prifardd goatee yn ddiweddar)
Tywyll yw goatee Hywel, ar ei ên
Mae o’n drwch aruchel,
Dyma wâl i’w fwyd ymhel
Ac i uwd suro’n gawdel!
#26 Y Wawr, 04.10.12
Weithiau, mi glywn aderyn
yn siglo’r goeden.
Dro arall, swn y ceir yn amlhau.
Ond heddiw gwyddwn,
heb gyffro o gwsg
bod y bryn yn borffor,
bod waliau’r tŷ yn gwelwi,
a bod y golau’ dringo’r llethrau,
wedi dilyn o’r gororau
lwybr duwies y dŵr,
nes sbecian uwch ei tharddle
dros Bumlumon
er mwyn gweld y môr,
ac y byddai’n gwagswmera
ar ei waered
drwy gydol y dydd.
#25 Y Ganolfan
O gorau’r Urdd i Figaro, – daw’r byd
Draw i’r Bae a dawnsio,
Y mae’r un Gymru yno
Yn tynnu tant dan un to.
#24 Easy Jet
(cais gan Elfed Dafis, yn benodol am ‘y rhuthro ofnadwy wrth i bobl fynd i mewn i awyren y cwmni a dewis sedd eu hunain’)
Ar EasyJet, byth eto – yr af i
i Sir Fôn na Rio,
Ar daith i Cannes neu Bordeaux – mi gerddaf,
Yn ddianaf ‘rwyf am gyrraedd yno!
#23
Byddar yw’r ddaear ddiwyd
I’r waedd a rown ar ei hyd.
#22
Cysur eglur mewn gwagle.
Dyna yw Duw, onid e?
#21 ‘Beth yw’r haf i mi…’
(Cais gan Gwen Lasarus)
Tri pheth fu’r haf hwn imi:
gorchuddio ‘nghroen ag eli,
eistedd wastad dan y co’d
ond eto dal i losgi!
#20 CF11
Fe wn ‘mod i yma,
mae’r graffiti yn dweud,
y graffiti na feiddiodd
neb ei ddadwneud:
‘CF11’
yn ffin rhwng ffrindiau,
sy’n uno’r gelynion
sydd wastad yn maddau.
Carreg filltir
heb ben draw i’r daith,
ac arwydd “croeso”
ac “ewch o’ma” yn un iaith.
Y paent gwrthryfelgar
mor deyrngar ei neges,
sy’n mynnu ein pechu,
ond eto’n gwneud cyffes.
Ar draws y Taf,
ar y waliau noethion,
wrth wylio’r ddinas
yn torri’i chalon
a’i hamlinell newydd
yn codi’n uchel,
CF11
sy’n gwarchod y gorwel.
#19 Dôl Werdd
(ar gais Del a Linda Rhys; i Brian Evans, Dôl Werdd,
ar ei ymddeoliad fel Prifathro Ysgol Gynradd Llanddarog)
Heddiw’n wir, o fuddsoddi’n iach ym mhlant
fy mhlwyf fy hun, bellach
gwelaf i, o’r ysgol fach,
Ddôl Werdd o elw harddach.
#18 I Ysgol Farddol Caerfyrddin
Â’r Tanerdy’n ail-lunio
Ambell stafell, nid oes do
Dros y beirdd yn y dre, sbo.
Ac fe fu’r Tanerdy’n hir
Yn llety hardd, yn well tir
Na llawer gwter, ‘na’r gwir.
Bu’n Ddinefwr i’w twrw,
Yn Gaer â’i llond o gwrw,
Yn Ddin Eidyn iddyn nhw.
Ble’n awr heb le’n awr y blŵs?
Ble’n awr heblaw hen warws?
Ddoe heb ddrat, heddiw heb ddrws.
Rhowch dŷ o’r gwter, werin,
I gynnau tân i gan tin
Ysgol Farddol Caerfyrddin!
#17 ‘Bedyddio Seth Teifi Morris’
Ar gais Casia Wiliam
Nid ei waedd a fedyddiwn – nid ei wên
fach daer a fendithiwn,
ond â’n gras, i’w fyd yn grwn,
hen wareiddiad a roddwn.
#16 Obama 2008/2012
‘Gall, fe all’, nid ‘efallai’,
Nid ‘pam?’ wael iawn, ond ‘pam lai?’
#15 Rhwng tir a môr
(Ar gais @gorwelowen drwy Twitter, gan ymateb i’r sŵn yn y ddolen)
I’r llain hir rhwng tir a môr
pan fyddo’r llanw’n uchel
daw pob un i ganu’n gôr.
A’r holl ddrudwy bychain sydd
yma eto’n canu’n gaeth
wrth i’r tonnau dorri’n rhydd.
Gwyliaf hwy yn llamu’n llon.
Defod ers cyn dyfod dyn
yw eu dawns uwch brig y don.
A wyf i, rhwng môr a thir
a’r tywod rhwng bysedd traed,
heno’n gwrando ar y gwir?
#14 Yr Heriwr
(i bapur newydd Cymraeg gan fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth)
Mor hawdd yng Nghymru heddi – troi at air
Y Times, Guardian, Indy …
Diolch fod rhai heb dewi
 chalon i’n herio ni.
#13 Fy nghyllell boced ar gyfer bob dim
Ar gais Elfed Dafis
Fy nghyllell boced ar gyfer bob dim,
mae’n torri bara a physgod chwim.
Hi holltodd ran helaeth Carreg yr Imbill,
fe dorrodd hon dwll yn yr o-sôn dywyll,
mae’n gymorth da wrth godi pebyll,
fy nghyllell hyblyg i.
Mae’n crafu’r baw o dan ewinedd,
mae’n dallt yr acen mewn cynghanedd,
mae’n gwneud y tro i olchi’r dannedd,
fy nghyllell ddihafal i.
Gall gofio penblwyddi, gall dynnu lluniau,
gall fynd â’r ci am dro i’r traethau
hyn oll heb adael fy mhoced innau,
fy nghyllell ddifai i.
Aiff hon â mi’r holl ffordd i’r lleuad,
mi ddysgith hon i’r bochdew siarad,
mi fedrith wnïo o wlanen dafad
fy nghyllell boced i
sy’n torri’r bara a’r pysgod chwim,
fy nghyllell boced ar gyfer bob dim.
#12 Superted
Gemau Paralympaidd
Fe’m taflwyd innau i’r domen sbwriel
a’m barnu’n ddiwerth ar gownt y rhyfel;
roedd nam ar y goes, a’r llygaid yn niwlio,
ac eco ffrwydradau’n fy nghadw’n effro.
Dyw’r byd mawr ddim yn cerdded ar faglau a ffyn.
Un noson trwy’r hunllefau daeth golau gwyn
ag angel i ‘nghyffwrdd a gwefru’r gwythiennau,
gan ledu ‘ngorwelion ac ystwytho’r cymalau:
rwyf eto’n ddyn, fel ‘tae’r cepyn amdanaf
ar faes cad y Gemau sy’n gweiddi “Gallaf!”
#11 Cacen Battenberg
(ar gais Julia Davage)
Ffenest sgwâr y pedwar paen – pinc-felyn,
Pwnc i fawl, gwenithfaen,
Byrbryd hud fel tywodfaen,
Be’ well na’r dafell ar daen?
#10 Glaw
(ar gais Shân Morgan)
Smwclaw, oes, ym mae Kowloon – un gawod
Dros Skye a Manhattwn,
Glaw mân ym mhob lle’n Annwn –
Ond yma’n saff daw monsŵn!
#9 Tafwyl
Ar lawntiau hafau ein hiaith – yn dyner
lledaenwn y gwrtaith
nes, cyn hir, gweld gwyrddni’r gwaith
yn Dafwyl frwd ei hafiaith.
#8 Neuadd Deg
(i gartref newydd Gwilym a Hefina ym Mhorth-y-rhyd)
Tŷ a luniwyd fel telyneg yw hwn
dan haen o ramadeg,
a geiriau bob yn garreg
sy’n stôr dan do’r Neuadd Deg.
#7 Soned arall yn y nos
Disgynnodd y nos dros swildod Caerdydd
yn drwsgwl a gwlyb fel glasfyfyrwyr
yn cusanu’u rhyddid ar ddiwedd dydd.
Mae Heol yr Eglwys yn gwisgo’i cholur,
a sgerti byrion ar hyd Santes Fair;
sŵn gweiddi’r bechgyn fel chwalu gwydyr
wrth godi’u dyrnau dros ddwy neu dair.
Mae eco sy’n aros mor ddiwahân
yn taflu lleisiau o bell ac agos
drwy’r strydoedd gweigion sy’n llawn ysbryd glân,
cariad a chasineb criwiau unnos.
Wedi i’r bore sgubo neithiwr o’r stryd,
bydd oglau’r glaw mân ar ein dillad o hyd.
#6 I pendics Mererid Haf
Wedi awr fy hysterics a’r boen oll
erbyn hyn rwy’n ffenics;
nid cloff wyf, wedi cael ffics
i’r poendod ar y pendics.
Tripiau a gaf i’r tropics – es i weld
holl sioe yr Olympics;
heno, peth i’r co’, fel Kwiks,
yw’r poendod ar y pendics.
#5 I Ddawnswyr Nantgarw
(ar eu taith i ŵyl ddawns yn Ne Corea ddiwedd y mis)
Boed difraw’r daith drwy’r awyr
A boed eich taith faith yn fyr,
Ac yn wir, yn Nhír na nÓg,
Boed yno groeso gwresog.
Boed pob un droed ar redeg
Ar hast wyllt yn un rhes deg,
A’i hannel hi fwy neu lai’n
Unionsyth, eich cri’n unsain,
Boed di-stop sbîd y stepio,
Drachefn, boed trefn i bob tro.
A boed i’r De Coreaid
Gyda ni’r Cymry’n un haid
Lawenhau pan welan’ nhw
Hetiau gwerin Nantgarw!
#4 Merch ar goll (chwilio)
Gŵylnos o ganhwyllau ar y drydedd noson;
lle mae’r morfa’n ymagor, ond yn celu’r gorwelion,
ac anadl y byd rhwng y dref a’r afon.
Mae cysgodion gobaith ym mhantiau’n hasennau
lle mapiwyd y tirwedd yn hegar i’n hochrau,
a’r Ddyfi’n llwyd ym mhyllau ein llygadau.
Ond tra bod yr anwybod fel fflam yn llosgi,
fe ddown ynghyd a rhannu gweddi
mewn gŵylnos o olau, a’r cŵyr yn toddi.
#3 Un Genedl?
Dwed, ble mae’r One Nation, Ed?
Yn Dover? Glasgow? Dyfed?
#2 DIY
Gwn wrth droi dalen wen fy nhŷ – na wn
Hen hanes y teulu,
Ond mi glywaf wrth grafu,
Haen o baent yn dweud y bu.
#1 Jiw jiw
Mae pobol Cwm Gwendraeth yn hoffi
dweud “dishgled o de” a “shwt wyt-ti?”
ond mae un o’r criw
yn dal i ddweud “jiw”
er ei fod e yn byw yn nhre’r Cofi.