Dewislen
English
Cysylltu

Archif: Her 100 Cerdd 2013

Cyhoeddwyd Iau 23 Mai 2019 - Gan Llenyddiaeth Cymru

#100 Cant

Cerdd ar y cyd wedi diwrnod hir.

 

Mae’r geiriau’n gwibio fel gwybed mân

yn dawnsio hyd y gwifrau

 

a chysylltiad yn rhywle

i’w tynnu ynghyd:

 

yr Awen yw hon

sy’ gyn hyned

â’r mynydd a’r nant

 

yr Awen sydd heno

yn gant.

 

#99 Nos da

Mae’r nos yn cau yn dynn

Am y ddinas – mor dynn

 geiriau yn ei gilydd,

A phedair awr ar hugain

Wedi hedfan

A rhygnu

Heibio

O dywyllwch i dywyllwch,

O nos i nos.

 

Mae’r cyfan ar fin distewi.

 

 

 

#98 Drychiolaethau

ti’n gymro?

 

pob hyn a hyn,

mae’n dod drosta’i fel rhyw lid

pan fo llwyfan hanes

sydd yng nghrombil ein bod

yn sdyrio – am ryw hyd –

 

ond pan fo’r cynnwrf yn pallu

dwi’m yn gymro

dwi’n ddim

dwi’n ddrycholiaeth heb ddiwylliant

yn poblogi’r gofod gwyn

 

#97 Diwrnod pen-blwydd hen gariad

(a ddefnyddiwyd fel cod y sêff yn stafell fy ngwesty yn Berlin)

 

Roedd heddiw ’di’i gloi mewn sêff yn Berlin

Efo cariad a hiraeth a photel o gin.

Ac wrth sbio’n ôl rwan, wrth feddwi’n fan hyn,

Biti na gadewais i’r cyfan ar ôl yn Berlin.

 

#96 Berlin, 2010

Angylion yn gwerthu wisgi

Ar waelod cyrtans y byd

Yn oerach na fory, a chnesach na ddoe,

Ac yn well na theimlo dim byd.

 

Dwi’n treulio ‘mywyd yn crwydro Berlin

Yn sbio ar y Stasi a’u hwynebau nhw’n wyn.

Maen nhw’n crynu eu sgidia gan mor beryg ydi’r stryd

Achos bysgars o Bosnia sy’n rhedag y byd.

 

#95 Nos da

Mae’r nos yn chwarae fiolín

tu allan i fy ystafell,

ac erbyn hyn

mae’r awen ‘di mynd yn beth eitha’ prin-

does gen i fawr i’w ddweud.

Ond alla i ddim cysgu

achos mae’r telynor yn fy llofft i

yn chwarae rhyw hen alawon o Gymru

tra fod chwaraewr Oboe chwil wrth y drws

yn trio ‘mherswadio i fod hiraeth yn dlws.

 

#94 Tu allan i’r Whitehall, Pwllheli

Mae ‘na hogan dlos

Tu allan i’r Whitehall

Yn goleuo’r nos

Efo’i Marlboros coch

A finna bron â marw

Isio teimlo’i boch

Yn gynnas a chwithig

Ar fy moch.

 

Pan mae fi ydi hwnnw,

Fi ydi’r un,

Sydd yn treulio’r nos

Ar ei ben ei hun,

A dim byd mwy o ‘nghwmpas

Na hen boteli gwin

Yn drwsgwl a distaw

Fel ffrindia anghytûn,

 

Mi fydd ‘na:

 

Hogan dlos

Tu allan i’r Whitehall

Yn goleuo’r nos

Efo’i Marlboros coch

A finna bron â marw

Isio teimlo’i boch

Yn gynnas a chwithig

Ar fy moch.

 

#93 Perła a chwrw Pwylaidd

Nid drwy fesur canran mae mesur cwrw da –

am gyfoeth a blas, ‘ceir clod ym myd diota:

ond pan fo’ch beunyddiol êl tua chwech y cant,

nid yw cwrw piso dryw am fod at eich dant.

 

#92 Iaith

Carcas pydredig rhyw hen, hen iaith

yn gwingo ym mhoenau olaf ei marwolaeth.

Yn rhoi un gic olaf yn erbyn y tresi

cyn setlo’n ôl yng ngwely’r ‘sbytu,

peipen gathetr dan ei chroen

yn brwydro’r baw yn ei gwythiennau

a mwgwd dros ei cheg

rhag iddi fygu ar ei geiriau ei hun.

 

#91 Cerdd i Mabli Elan

Mae’r dail yn crino’n gopr ar y coed

a’r cymylau’n bygwth tywydd uwch ein pen.

Ond yn Nhrerhingyll nid yw’n dymor colli dail-

Mae hi’n Wanwyn, a Mabli, ti yw’r haul.

 

#90 Y soffa goch, wedi 21 awr

 

Bu’r soffa goch yn aelwyd glyd

i’r bardd ffôl – y bardd crintachlyd –

Tricham yw o’r gegin a’i maeth –

pacedi creision, te, a llaeth.

 

#89 Desolation Row

Mae morwyr meddw’r porthladd

Yn pasio heibio’r tŷ ar Ffordd y Coleg.

Einstein ac Eliot ’di nodio

Wrth basio’i gilydd

Ryw awr yn ôl,

A Sinderela’n sgubo teilchion gwydr i fyny’r lôn.

 

Maen nhw i gyd yma, yn rhywle, heno,

Yn stelcian mewn cilfachau

Dan landeri’r tai

Yn cuddio rhag y camerâu sy’n

Trio’u gorau i daflu bai.

 

Os wyt ti’n chwilio am rywun, fe’i gweli di o

Os craffi ddigon lawr y lôn ar Desolation Row.

 

#88 Tirana

Dychrynais at dy osgo’

yn chwys o hyder

o’th draed i’th go’

 

fel ‘tasa Albania

yn dy ddwylo

 

a ninna’n amddifaid

truenus

ar ffo.

 

#87 Er cof am Yogi

Er mai rhaid i’r marwydos – yw oeri,

y mae’r sêr yn aros

drwy’r uffern yn nyfnder nos

â gwên Yogi yn agos.

 

#86 Bore’r nos

Disgynnoddd y nos,

A chwalu distawrwydd dros y toeau

A thaenu gwlith dros ffenestri’r ceir a’r tai,

Er mwyn gwneud y bore’n rhywbeth

Mae’n rhaid ymdrechu i’w weld.

 

#85 Trip anarferol i’r Alban

Mae hitsh-Hawickio yn yr Alban

yn dipyn o her:

 

Irvine-ud y cyrhaeddais,

a Kelso-thach yn fwyd,

ro’n i’n Girvan mewn cornel

a’m gwraig i’n dweud: “Cwyd!

 

O, stopia dy gwyno,

dwi Annan dy nawdd –

dwi’n rapio, rhan amser,

a ‘di Dalbeattie’m yn hawdd.

 

Pryna beiriant dryms i mi

Oban draw y tir,

Nairn ni’m mynd ar goll

na’n Brae – mae ffor’ clir!”

 

Prynais y peiriant,

ond wedyn Crieff-u byw –

Brech(d)in-au heb fenyn,

Ayr-go r’on yn ddi-liw,

 

A heb Pais-lips bu rhaid

Troi nôl am Walia,

â ‘ngwraig yn d’eud wrth gyrraedd

“Doedd y bwyd ddim yn Gret, na?”

 

#84 #AchubPanty

Pantycelyn

 

Nid dager ond baneri – a godwn

pan fo’r gwaed yn berwi,

ond fel byddin, rhaid inni

ymladd dros ein neuadd ni.

 

#83 Oriawr Taid II

Mae’r oriau wedi rhewi yn ei gwydr,

a’r byd wedi dod i stop yn llwyr

fel petai rhywun wedi tynnu llinell

i gofnodi diwedd cyfnod,

gan godi ffenest rhwng ein dau fyd

i atal neb rhag pasio.

 

Mi wela’ i fyd trwy’r rhaniad clir-

byd na allai fyth mo’i gyffwrdd. Byd

y godro’n bore a saethu llwynogod,

byd y llad gwair a’r lladd-dy,

byd y pethe a’r cwrdd gweddi,

byd plygu gwrych a phlygain

cŵn defaid a chorau meibion,

marts, capeli a ffyn bygail..

 

Byd lle ba’sw ni’n ddieithryn.

 

#82 Bwyta’n iach

Yng nghyntedd y tŷ mae ’na hybarch

Archdderwydd yn cusanu alarch.

 

Ac mae hynny yn profi

Efallai na ddylwn i

Fwyta *pob un* math o fadarch

 

#81 Awr ddu

Ni wn am ddim sy’n anos

na gweld sêr yn nyfnder nos.

 

#80 Galarnad

Heno, rwyf finnau’n daer fy mhaderau,

a hwythau’r duwiau’n gwrthod deall.

 

#79 Yr Hen Aur

Bydd deffro ar Fyrddin eto

a bydd, yn ei dro,

ar feinciau Parc Richmond

â chrys yr Hen Aur amdano.

 

#78 Adfail

Olion waliau.

Olion bodolaeth.

Ond rhy bell yn y gorffennol

i godi hiraeth.

 

#77 Oriawr Taid I

Mae hi’n bwyse yn fy llaw- mae hi’n drwm,

a llawer iawn rhy fawr i’w gwisgo

am fy ngarddwrn denne i.

Oriawr fy nhaid-

rhodd o aeaf ‘79

pan roedd rhyw drychineb

amaethyddol ei natur mewn fferm gyfagos

a thaid wedi dod i’r adwy.

‘Dwn i ddim yn iawn beth oedd ei rôl,

ond yn fy mhen rydw i’n dychmygu-

Rwy’n ei weld ym mynd, a’i gap stabl am ei ben

ei wefusau tenau heb wastraffu gwen

a’i fochau’n goch ym mrath yr awel fain.

Ei lygaisd glas yn craffu,

asesu’n dawel

cyn iddo droi ar ei sawdl

a gwneud, heb ffws

yr hyn sydd angen gwneud,

ei lais bas-llaeth-cynnes-syth-o-deth

yn galw’n awdurdodol ar yr ast i’w ddilyn.

 

#76 Dal y machlyd

Mae’n mynd,

yn llifo, yn llithro

fel edafedd aur trwy ‘mysedd.

Dwi’n gafael, yn ceisio casglu

cusanau’r haul

oddi ar donnau’r môr

ond mae fel cyfri sêr ar bafin gwlyb,

ac mae ôl ei rimyn yn diflannu’n

llawer rhy gyflym

wrth i minnau sbïo ar fy nwylo.

 

#75 Aberth

Mae fy ffrindia i i gyd heno’n mynd

I’r Glôb i ddathlu’u rhyddid.

Ond byddaf i’n dal yma – sydd yn profi’n llwyr

‘Mod i’n dioddef er mwyn fy nghelfyddyd!

 

#74 Deliriwm #her100cerdd

Ai Nercwys? Ai Treorci?

Ai Dulyn? Ai Llandeilo?

Gwlad y Basg? Ai Connah’s Quay?

Ni wn ble rydw’i heno.

 

#73 Addewid

Roedd yr addewid yno,

yng ngwres y nos

yn llosgi-

yn hongian rhyngom ni

fel gwe pry copyn

yn aros i’n dal

neu i gael ei dorri.

 

#72 Neges

Mae ‘na bethau dwi eisiau dweud

ond dydi’r geiriau ddim yn dod,

dwi’m yn siŵr yn iawn os ydyn nhw’n bod

ond mi drïai

roi dail te o neges i ti,

mewn inc anweledig

neu drwy fwg tan.

Ond a fyddi di’n gwrando?

Fyddi di hyd yn oed yno?

 

#71 Thomas Broadbent

 (Syniad Guto Dafydd – ‘sgwennu darn yn ymateb i erthygl wedi’i dewis ar hap ar Wicipedia)

 

Mae, yn ôl Wicipedia, dau Domos Broadbent.

Dau Dwm yn blŷg, yn llydan – un â thestament

y mae’n ei gario’n blygeiniol ar draws ei blwy’.

Yr Eildwm? Gwn ei enw. Ei Enw, dim mwy.

 

#70 Yr Hen Ogledd

Mae’n cyndeidiau

a’u heneidiau

yn Nin Eidyn,

a’n heneidiau’n

un â’n teidiau

eto wedyn.

 

#69 Bysus bach y wlad

Be, atal bysus Gwalia?

Rhywfodd, mi wn, Arriva,

nad yw hyn yn syniad da.

 

#68 Gadael Cartre

Mae enwau newydd wedi eu sgathru

ar yr hen bont lechi,

tyllau newydd yn nharmac Lôn y Bryn

ac adar diarth wedi nythu yn y bondo.

– I le yn union ydw i’n ffitio?

 

#67 Lili

Naddu bedd y bum yn ddyfal

ddoe a heddiw yn y chwaral

a naddu wnawn tan fydd caws ar fedwen

i gael Lili’n ôl o faes yr ywen.

 

#66 Cylchoedd Cerrig Maes Tryfan

Tyrd yma’i eistedd

pan fydd yr haul yn cosi bysedd Wicklow

pan fydd Môn ar goll mewn tarth

a mynydd Foel yn efydd

efallai y doi dithau i ddallt

sut gall yn hen ddal fod yn newydd.

 

#65 Anthem newydd i’r UE

Cyd-waeddwn, cyd-floeddiwn,

cyd-godwn ein gwydrau’n llon

a dwedwn iechyd da i chwi!

Codwn beint a dweudNa Zdravi!

Dwedwn Prost wrth sosban fach

a Kippis tros ddyfodol iach.

Canwn Txin Txin i’r cwrw,

gwaeddwn Saúde a chodi twrw.

 

Dros Ewrop dwed Nazdrave

a thros y gan Şerefe!

Dros dy iaith gwaedda Santé,

bloeddia eilwaith Na zdravje.

Una’n gor i ddweud živjeli

Mewn cerdd dant can Nazdravlje

Can Salute o’th galon

a na zdrowie a’th holl fron!

 

#64 Y Post Prynhawn

Mae rhaglen go wych ar y radio,

â sêr Cymru fach yn cyflwyno

newyddion i ni

ar ein BBC,

Sa’n syniad i mi ddechra’ gwrando…

 

#63 Rhwystredigaeth

Codi miri, codi twrw,

Codi hwylia ar noson arw.

Codi hiraeth, codi sychad,

A chodi llaw i ddyrnu’r parad.

 

#62 Afon Twrch

Don wrth don, mae ‘mywyd innau’n

rhannu taith â’i cherrynt hithau.

 

#61 Cadair Arthur, Caeredin

(i Llinos, a ofynnodd am gerdd am yr Alban)

 

Gwawr o’r newydd dros Holyrood,

ac Arthur yn ei gadair y’i gwylia,

gan sibrwd swynion dan ei wynt,

am Alban rydd ‘flwyddyn nesa’.

 

#60 Seicoleg

Mae gwydraid o’n rhaid a’n rheg

Yn celu mewn seicoleg

 

#59 Ha’ Bach Mihangel

Pan fydd sŵn glaw yn llenwi’r awel

a’r wybren stond yn duo’n dawel,

a dur anorfod rhyw hen oerfel

dros weundir eang, daw Mihangel

yma o hyd i rannu mêl – gan edfryd

yr haf o hyd yng nghwmni’r fedel.

 

#58 Adnabod

Dwyt ti ddim yn d’adnabod

Dy hun yn dda iawn.

Mae ’na rai a fydd wastad

Yn gwybod yn well.

Rhai a ŵyr yn amgenach

Beth sy’n tanio dy fryd,

Ac i ble’r aiff dy feddwl

Ar derfyn dydd.

 

A phan ddaw y llanw

Yn nes at y tir,

Fe ddaw celwydd hen gariad

Yn ôl fel y gwir.

 

#57 Saló

(Tref Saló oedd un o gadarnleodd Mussolini yng ngogledd yr Eidal.)

 

Dyma’ch Finisterre:

eich diwedd

a’ch dechra.

 

Yr enw yn ddagr,

yn salwts,

yn sŵn coesa.

 

Ond bûm i yno’n mwytho

y cnydau o’u pridd

â’u rhannu rhwng ffrindiau

mewn Saló rydd,

 

a rhwng yr ymddiddan

a’r nofio’n y lago,

cefais gip ar grechwên

libertà yn Saló.

 

#56 Maddau’r cariad…

Na, fy nghariad, fedra’i ddim madda

I sigarét peth cynta’n bora,

Na pheint neu ddau ar ddiwadd pnawn,

Na swigio gin dan leuad llawn.

 

Na, fy nghariad, fedra’i ddim madda

I synfyfyrio’n hir, am oria,

Nes bod y gorffennol, sy’n gam i gyd,

Yn bwrw’i sen am ben fy myd.

 

Oherwydd y boen, oherwydd y loes

Ac oherwydd eiliada fu’n para oes,

Oherwydd pob gair, ac oherwydd y dagra,

Fedra i, fy nghariad, fyth fadda i titha.

 

#55 I Dr Enlli Môn Thomas

(arbenigwraig mewn dwyieithrwydd mewn plant, ar enedigaeth ei mab, Tomos Llywelyn Jones)

 

Yn nwy iaith ein Cymru ni – caiff ddianc

ar lwybrau ifanc. Mae’r haul i’w brofi

a neges i’w mynegi; – dyhead

ofer yr eiliad i’w hanfarwoli.

Dy faboed yw dy fab di; – bydd yntau’n

dewis dy eiriau, yn dweud dy stori.

 

#54 Pontydd

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

(ym Mostar, Bosnia a Hertsegofina)

 

Mae’n mynd ar fy nerfa’, y symboliaeth.

Pont yn grog rhwng cymunedau fu’n gaeth

i ragfarnau

ac i hiliaeth.

 

Mae’n mynd ar fy nerfa’ gymaint –

alla’i ddim meddwl am drosiad gwaeth.

Mae fel brawddeg wael mewn nofel,

fel codi semi-tôn mewn cerddoriaeth.

 

Ond o do tŵr y sneipars,

lle mae’r llafnau gwydr yn fyw,

a’r waliau’n sgrechian gwaedu

gweddïau ingol i’m clyw,

 

diflanna fy sinigaeth.

 

Bu rhyfel.

Ac mae adeiladu pontydd

yn ennyn newydd ddydd.

 

#53 Ail-ddiffinio

Nid hanner gwag yw gwydryn pesimist.

Gall fod yn hollol wag

Os yw’r pesimist dan sylw’n

Digwydd bod yn adyn ar gyfeiliorn

Ac yn ŵr ar ymyl tyrfa’n methu cyrraedd bar.

 

Ond gan amlaf, mae gwydr y pesimist

Newydd ei ail-enwi

Ac yntau’n ail-eistedd

Ac yn ail-diwnio i sgwrs

Y bobl mae o’n eu caru

Sydd yn eistedd yng nghornel pỳb.

 

Ac yna mae’n meddwl:

“Sgwn i yng nghnebrwng pa un o’r rhain fydda i gynta?”

 

#52 Cacen blat

Dau beth yr ydw i’n gweld yn dda

yw cacen blat a hyfen ia.

Dau beth, i mi, sydd ddim mor neis

yw sosej rolls a phwdin reis.

 

#51 Galar

Un hanes mewn hanesion – stori fach

Mewn stôr fawr o straeon.

Un si mewn siarad a sôn

Yw galar mewn un galon.

 

#50 Traeth Unffurfiaeth

mae’r ynys yn feichiog â ffrwyth,

a changhennau ar eu gliniau,

a bwrdd yn drwm ag aur, a thus, a myrr, i mi –

mae epil!

a mae’n haf o hyd

… er bod heno fachlud.

 

â’ i’m i feddwl am borthmadog.

 

mae’r palmwydd yn treisio llwybr

cyn sythed â boulevard yn ei blentynod –

boulevard a dreisia

drwy anial ne goedwig ne favela,

yn codi pridd

cyn codi pac.

 

mae yma nawr

onglau naw deg cynnydd:

mae offis.

a chroeso i’r rhai sy’n credu mewn trefn.

 

â’ i’m i feddwl am borthmadog.

 

#49 Beddrod Siwan

Mor glustfyddar i’th gariad

yw’r marmor oer. Ym mharhad

ynfyd y byd y mae bedd

diddiwedd dy ddyhead.

 

#48 Hercan

Ma’ cyn fardd yr Her Cant

yn ymbil wrth farbwr am hercan,

a’n achwyn am y patshsus moel

sy’n ymddangos ar ‘i ben ym mhobman:

 

“O, ni alla’i feiddio rhoi siswrn ar hwn,

heb dorri dy gorryn di bant.

Mae’n moelni un o ôl-effeithia’

Bod yn rhan o’r Her Cant.”

 

#47 Hanes dau, dau hanes

Dau gariad wedi ffraeo

Yn flin, ac yn diawlio’r drefn,

Ac yn ysu am ddianc i rywle

Drwy’r nos ar hyd strydoedd cefn.

 

Dau gariad wedi ffraeo

Yng nghysgodion canhwyllau gwêr,

A’u holl hanesion, eu helyntion, a’u hynt

Yn boddi yn nagrau’r sêr.

 

#46 Crawia

Maen nhw’n sefyll

fel meini coffa hyd y fro,

yn un fynwent hir

tros y ddaear ir,

yn rwyd pysgotwr dros y Dyffryn

i’n clymu at y tir yn dynn.

 

#45 Cymdeithas Taliesin, Aberystwyth

Ag Aber yn feddw geiban

ac arogl mwg i’r glaw mân,

mae ‘na dân ac mae ‘na do,

a phan fo’r gaeaf yn afiach

mae ‘na wynfyd am funud fach

a chyfrinach fawr yno.

 

#44 jesteś…

(trïo disgrifio mewn iaith arall)

 

Nid oes ansoddair

sy’ fel cwlwm llac:

maent fel llythrennau bras

â’u clec

â’u smac…

 

Try być yn fitsh

ac être yn slap

a ser yn forthwyl

ac essere yn drap:

 

â’i ddim i’th ddisgrifio, ‘nghariad.

Nid â być na bod na to be,

 

ond â’r ferf estar:

dau enaid

mewn lle

a mewn amsar.

 

#43 Chwyldroadwyr rhan-amser

’Dan ni i gyd yn chwyldroadwyr

Pan fo amser yn caniatáu

Yn y bwlch rhwng amser cinio

A choffi ar bnawn dydd Iau.

 

’Dan ni i gyd am wrthryfela

– Os na fydd rhaid i ni symud o’n sêt –

A dyna pam fod y gwrthryfel hwn

Yn glamp o wrthryfel sidêt.

 

Dwi’m yn honni fy mod i’n wahanol.

Dwi mor gyfforddus â neb yn fy lle,

Ond o leia mi fedra i hawlio

Fy mod i yn debyg i Che…

 

che fi

 

#42 Ddoi di?

Mae heno’n faneg amdanom

a’r lleuad yn ymddangos o’r nos

drwy dwll yn y gweu.

 

A ddoi di efo fi i redeg hyd balmentydd

a’i gwylio’n troi yn aur

tan wadnau’n hesgidiau?

 

A ddoi di i danio’r tywyllwch yn fil o lusernau

a’u tywallt yn lwybr llaethog

tros doeau’r tai?

 

Tyrd i wylio gwybed ein gobeithion

yn hedfan yn finteioedd

trwy lewyrch golau neon.

 

#41 Sglefrod Môr

Mae hi’n llonydd, dim ond ni

a’r nos yn gwmni i’n gilydd,

dim smic

ond sŵn ein rhwyfau yn y dŵr.

 

O gornel llygad,

gwelaf fflach o drydan

yn tanio’r tywyllwch.

Wrth i’n rhwyf lusgo’r môr

yn drobyllau bach

gwelaf y sêr yn plymio,

mewn siwrnai Kamakazi wyllt.

Gwelaf hwy yn llosgi yn y dŵr

eu cynffonau o fagnesiwm llosg

yn dannau paraffin dan y tonnau,

yn eirias yn y nos.

 

Maen nhw’n dawnsio yn y dŵr,

yn farionéts mud

y cerrynt yn tynnu ar y llinynnau

cyn i’r dŵr lonyddu.

O un i un fei’i gwelaf yn diflannu

yn ddim ond cysgodion

rhwng y tonnau du.

 

#40 Majdanek

(Gwersyll lladd Natsiaidd yn ninas Lublin yw Majdanek. Mae treftadaeth Iddewig y ddinas yn cael ei gofnodi heddiw, ond prin yw Iddewon yno.)

 

dros doeau’r kamienice

codai nodau gweigion

yn dirion adnewyddu

henafiaeth drwy alawon

 

ond yma nid oes teraz

nid ‘ma

dim ond ddoe fel seren ddafydd

yn batsh ar gôt dinas

 

#39 Alaw Fflur

(fy nghyfyrder, ail ferch Non ac Arwel, ganed 1.10.13)

 

Daeth yr hydref drachefn fel defod

a chwarae’i ryfyg gylch yr hafod,

ond Alaw, ti yw’r gawod – o hindda

fel hen gyfalaf haf ar ddyfod.

 

#38 Bwningen

(Dysgodd fy nhad Gymraeg pan ges i fy ngeni, a Chymraeg yr ydym ni wedi siarad erioed)

 

Law yn llaw fe aethom ni

hyd lwybrau llefaredd

yn dad a merch.

 

Minnau’n rhuthro ‘mlaen

a hyblygrwydd meddwl baban.

Tithau’n ymrafael a cheinciau cystrawen

ymgodymu a gramadeg

a thriog rhyw synau oedd yn estron i dy dafod di.

 

Roedd geiriau’r hwynagerddi’n newydd i ni’n dau,

a ninnau’n creu ein dialect ein hunain.

A doedd y fwningen yn y gornel

yn malio dim fod dy acen di’n ddoniol

a dy dreiglo di’n drwsgl.

 

#37 Arfor, Trefechan

Yfory, af i’m hafan

i sŵn mawr hanesion mân.

Bydd yno dŷ; bydd ‘na dân

a chwil-lwybro a chlebran

difyr wrth ganu’r un gân

yn yr hwyr dan loer arian.

Am hyn, af ar fy nhrafel

anochel i Drefechan.

 

#36 I sied Guto a Lisa

Sied fawr, sied nobl, sied sgwâr,

dwi bron a’th alw’n fistar.

 

Pwy fu’n siedio, tra’n d’osod,

calorïau eu brastar?

 

A phwy fu’n dewis farnais

â siêd sy’n dy neud yn star?

 

Sied fawr, sied nobl, sied sgwâr,

ti’n destun gwledd a hannar:

 

rhaid cynnal gig i’th agor –

tybed ‘sgin Siedward amsar?

 

#35 Adar Clai

Yr oeddem fel plantos bach

yn baglu’n drwsgl dros gymalau iaith,

gan fyrmyr ryw synau

a swniai fe geiriau,

a chrwydro’n ddall ac ara’ deg

hyd geinciau gramadeg

nes canfod, yn y gwyll gywion clai.

 

Codasem nhw o’r llaid

a’u c’nesu yn ein dwylo,

gan sibrwd hwiangerddi ansicr,

a’u gwylio’n dadebru

wrth i’n lleisiau bach eu llenwi

a rhyw fath o egni.

 

A dyma ni’n eu gwylio nhw’n codi

hercio ychydig, ac ystwytho

cyn eu gollwng, a’u gwylio

yn dawnsio yn rhydd rhwng tyrrau rococo.

 

#34 Piano Náměstí Míru

Cana i mi gan ar yr hen biano du

Cana gan i’r twristiaid,

Cana gan i’r gwiwerod.

Cana emyn i’r druggies

Yn yr orsaf dram,

Cana alaw i’r fam

Sydd yn gwthio ei phram.

Cana rwmba i’r siopwyr

Cana bolka i’r brain

Cana walts i’r myfyrwyr

Cana gan-can i’r chwain.

Cana dango i’r hen wragedd

Llawn dirmyg o hyd,

Cana foxtrot i’r heddwas

Ar gornel y stryd.

 

Cana, nes bydd yr holl fyd yn wallgo,

O plis cana gan ar yr hen biano.

 

#33 Nid myfi

Paid â ’ngorfodi i ymhelaethu

Ar bwy o’n i cyn dod i’r fan hyn.

Gad i’r cyfrinacha ddiflannu’r

Tu hwnt i’r cymyla gwyn.

 

A gad inni yfed un arall,

Un sydyn – cyn i’r bar gau,

Wedyn gad inni ddawnsio’n feddw

Ar y Sgwâr am hanner ’di dau.

 

A paid â phoeni am bwy ydw-i.

Paid â phoeni am bwy dwi ’di bod –

Am mod i’n gwybod yn bendant, cariad:

Yn gwybod pwy dwi isio bod.

 

#32 Yr Ysgwrn

Lle bu’r mieri yn lleibio’r muriau,

gwynnu o hyd a wna’r hen, hen gnydau,

ac wrth weld ystôr yr ysguboriau

a’r llwyni irion mor llawn o eiriau,

fe wn y gwelaf finnau – draw acw

ryw un hen arwr yn trin ei erwau.

 

#31 Ysgrifbin

‘Workers, workers, lay down your pens’

 

O’m glofa cloddiais dduwch

a ddug i eraill aur,

o’m Beibl cloddiais gysur

a ddaeth i minnau’n air:

ond nid dyma i mi’r tragwyddol

na’r anorfod ‘chwaith,

dyma’r hawl i feddwl

i löwr ar ei daith.

 

#30 Hen rybish diarhebol

Agor dy fron yng ngŵydd barddoniaeth;

mae mewn awen o hyd gwmnïaeth.

 

#29 Ymson Cariadon

Rhy llym yw dagr ein dagrau – a heno,

Mae’n ein poeni ninnau

Nad yw’n dda ein bod yn ddau

A hidiant am wendidau.

 

#28 Penmon, 2.10.13

“‘Scuse me, mate,” meddai eto.

Eilwaith mae o’n fy ngalw,

a minnau’n dal i dalu

mân ernes fy hanes i.

 

#27 Alltudion

Eisteddai yno ar y bws

a’i bengliniau hir fel consertina

rhwng y seti cul.

 

“You speak Welsh?”

holai’n betrus-obeithiol.

Y rhyddhad o gael ateb yn gadarnhaol

wedi gorfod egluro gormod o weithia

fod y Gymraeg yn fyw, fod gennym eiriau

a synau a dywediadau,

nad acen ond iaith oedd gen i rhwng fy ngenau.

 

Yntau’n ateb

“I’m from Catalonia”.

A rhannu dealltwriaeth

fel rhannu bara rhyngom

yn gymyn cyfrinachol rhwng dau

a ddeallai ing canrannau.

 

#26 Cerdd Benrhydd

hen fesur heb farjin

yw cerdd ben-

rhydd

 

cymharwn

i

o

â

darlun gan Miró:

 

meddyliau’n nadreddu

ar bejan

glaerwen

y gweledol ar gyfeiliorn

a’r haniaethol yn sim-

san

 

ond

hwyrach mai ei wychaf fantais yw

nad oes rhaid malio

am

 

o

d

l

a’

 

ac os y bydd cwyno

am y diffyg crefftwaith

cewch anfon y plebiaid

melltigedig ymaith:

 

ewch, ynfytyn, nid oes gennych ddealltwriaeth

o’r diwylliedig goruwchfarddoniaeth

 

#25 I Llifon Gomer yn 1 oed

(gydag ymddiheuriadau i G.O.)

 

Pwy a rif dy fraint, Llifon?

Wyt gawr ymysg gwŷr mawr Môn.

Pendefig Ceredigion – wyt hefyd.

Wyt etifedd union!

 

#24 Doli Glwt

Roedd y cotwm pinc

yn startchlyd rhwng fy mysedd tew

a’r nodwydd ddur

yn arf diarth

wrth imi bwytho llygaid croes

ar wyneb trist y ddoli,

yr edau’n nadreddu’n

eiddew am fy nwylo.

 

Cau ei berfeddion

gan ddarnio’n drwsgl

yn ffrancenstein o deiliwr,

a nain yn gwylio

wrth i’r defnydd raflo

a chwlwm cenedlaethau

ddechrau datod..

 

#23 “It’s just, baby, I’m headed for the black…”

Cau dy lygaid, cariad, cau dy lygaid,

cau dy lygaid a’m dal i’n dynn.

Estyn am llwydni, cariad,

cer ar ffo rhag y du a’r gwyn.

 

Ma’ dy goflaid, cariad, ma’ dy goflaid

ma’ dy goflaid di’n ‘mrifo’n fan hyn.

Yr un ddwytha’ ‘di hon, cariad,

dwi’n gwybod hynny, ti ddim.

 

Dos i gysgu, cariad, dos i gysgu,

dos i gysgu gan wybod dim.

Dwi’n llithro i’r duwch, cariad,

Aros di’n nes at y gwyn.

 

#22 Colli’r wawr 03/10/13

Fe ddaeth y wawr o nunlle,

Heibio i’r tafarndai gwag a’r tai teras,

A heibio’r heddwas oedd i fod

I gadw gwyliadwraeth yn ei gar

A’i dal cyn iddi groesi ffiniau’r ddinas.

 

Fe ddaw eto fory fel y daeth hi ddoe,

A sleifio i ffwrdd heb ffarwelio,

A ninnau’m yn sylwi fod y bys eiliad yn troi,

A bod gweddill ein diwrnod, a’n dyddiau, yn ffoi.

 

#21 Ysgol Bro Edern yng Nglan-llyn

(ar gais @TrystanW)

 

Boed yng Nglan-llyn iddyn nhw

rannu twrw’u hanturiaeth

hefo’r iaith, a phrofi’r ias

yn ninas eu hunaniaeth.

 

#20 A feddo…

Fe anghofiwn amdanat pe gallwn:

Dad-gerdded hen lwybrau

A hau hadau glaswellt wrth ’mi fynd;

Ll’nau ôl ein teiars oddi ar y lôn,

Cyn llosgi’r llythyra a’r gusan ola’,

A chladdu’r atgofion ar waelod yr ardd.

 

Lladd pob defnyn o waddod y cariad

Sydd gen i ar ôl atat ti,

A thalu prifardd i’w farwnadu’n iawn.

 

Fe awn i’r dafarn wedyn, i yfed dŵr

A dweud ffarwel,

A throi o gwmpas dipyn i wneud yn siŵr

Fod y gwydrau fu’n dal

Ein llwncdestunau ni

Wedi’u hel.

 

Pe gallwn wneud hynny,

Efallai y gallai

Fy meddyliau dy osgoi,

 

Ond mae’r drws at Aberhenfelen

Yn gwrthod cloi.

 

#19 marwolaeth awdur

does ryfedd fy mod i’n tynnu

rhaffau hirion o wallt fy mhen

a rhwygo o’m bysedd winedd

a ‘mofyn o’m bol fy mhledren

 

does ryfedd ‘chwaith ‘mod i’n cadw

fy ngwythiennau mewn cist fach gain

a ‘nhrwyn yn sâff mewn tin oxo

a ‘nhraed wedi’u lapio’n gywrain

 

am mai marw yw ffawd awdur

marw’n iach o’i (g)wirfodd ei hun

drwy’n gelfydd sbydu organnau

rhwng cloriau i’w cadw nhw’n un

 

#18 Cymyn Cyntaf

Satin a sidan

A chymylau les;

Cacennau bach o ferched

Yn siwgwr eisin i gyd,

Yn wyn a duwiol

A diniwed a glan,

Ar ein gliniau

Yn byta Iesu Grist.

A’r llaswyr fel cregyn glan-môr

Yn rhuglo yn ein dwylo

Fel teganau baban.

 

Yn ddiniwed,

A delltwaith y gyffesgell

Yn taflu ei batrymau du

Dros dudalennau gwag

Ein ffrogiau gwyn.

 

#17 Daeth y wawr …

Mae iâ’n mhoer. Mae’n nos, mae’n oer;

rwy’n gwylio’r lloer yn gloywi’r llafn.

 

#16 Tywod

(i B.M.)

 

Oer yw sgrechian gwylanod – oer yw’n tro

Ar ein traeth diddarfod.

Maen nhw’n dweud fod mynd a dod

Yn tewi yn y tywod.

 

#15 Dinas Dinlle

DSCF3970

 

Roedd y traeth yn wag,

mond ni ein dwy

a’r haul yn oer ar donnau Dinlla-

 

y dŵr yn llwyd, Pen Llŷn yn bell

a Medi’n camu’n betrus

rhwng y cerrig man.

 

Roedd ‘na rywbeth yn anesmwyth yn yr awel,

a’r adar fymryn bach rhu dawel

wrth i ni’n dwy gasglu’r cerrig gwyn.

 

Yr Eifl yn anniddig, y boncan wedi moni

a Môn yn taflu ei hwyliau drwg

yn gawod sydyn am ein penna’.

 

A ni ein dwy yn trochi’n traed

gan wylio’r creigiau

yn ein gwylio ninnau.

 

Ac amau, efallai iddynt oll synhwyro

ei’n bod ni’n dwy’n gwylio’r gwennoliaid yn mudo

yn stormydd duon uwch ein pennau

am un tro ola’

yn Ninas Dinlla.

 

#14 Crisialau (W.W./Heisenberg)

clymwyd dau gan gnawd

y gwyn a’r du gan gyfaddawd…

 

dan gynnwrf dwndwr daear

– y pethau bychan, y dibendraw –

baeddir y wybren glaear

a daw’r du i gynnig llaw

 

fe adeiladwch â’ch bysedd budron

ymerodraeth sy’n drech na hon

o’n daear ni fe goncwerwch

y gwynder agos, a’r un pella’, bron

 

a ti, sy’n eistedd yn y glesni

sy’n crisialu yng nghledr dy law,

wedi cefnu ar ddiniweidrwydd

wedi agor y ffynnon i’r baw,

 

â gwên ar dy wyneb

ti’n goruchwylio’r dwyfol lun:

teyrnas gyfan yn dy freichiau

teyrnas gyfan o’th waith Dy Hun.

 

#13 Mynwent Capel y Wig, Llangrannog

Meini’n dwyn dim ond enwau – yw’r rhai hyn,

dim ond rhes o feddau,

ond gwn yn iawn fod gwanwynau

ir fy iaith, trwy’u hydref hwythau’n

bod i wywo dan law’r duwiau,

ac mi wn fod ymysg y blodau

un gŵr yn torri geiriau – ar feini’r

fynwent ynof finnau.

 

#12 Aniela

A weli di y wawr yn torri?

Aniela fach, a weli di’r pelydrau’n tasgu

drwy y briga’?

Dyma’th gyfla’-

dos i losgi’th dafod ar y gwlith,

i ddawnsio efo’r adar brith,

dos i gasglu dafnau’r glaw mewn sosban

a gwrando barddoniaeth mewn sisial hen gragen.

Dos, rheda, gweidda, llama-

mae’r bore yn dy aros..

 

#11 Coch a du

‘dyw’r faner ddim yn goch

heno:

 

mae hidl amser wedi peri i’r gwydn rosyn wywo

gan adael ond petalau

a hen, lychlyd wreiddiau

 

cochni machlud ha’

pan fo’r haul tu ôl y cymyla’.

 

mae’r hen gyfandir yn adleisio

crair o rethreg

fu gynt ar ffiniau’r co’,

a dychwelant, grysau duon,

mewn inc,

ar droed,

am dro,

yn dyfod at ein haelwydydd

ac yn hy,

cnocio:

 

fe’th welais yn ateb –

cochaist.

cochaist ac atebaist nôl

fel petae dy waed yn berwi

dy achau’n meddianu’r presennol

a bod y faner yn goch

– yn wawr newydd drachefn –

a bod gwisgo’r rhosyn ar dy frest

yn her i dduwch y drefn.

 

#10 I ddisgyblion Blwyddyn 12 Ysgol Dyffryn Teifi

Yn ôl yn Llandysul yng nghanol y llu

Ydych chi rwan, ymhell o Ryd-ddu.

 

Er nad yw 97 milltir yn anhygoel o faith

Rydych chi’n dal wedi bod ar daith.

 

’Falla nad ydi o’n bellter sydd yn hawlio clod,

Ond mae gennych chi’r profiad o fod wedi bod.

 

#9 Pan fo’r nos yn hir …

(fy Nhawddgyrch Cadwynog cyntaf a’r olaf)

 

Rhy oer yw’r her, rhy hwyr yw’r awr,

her fain, her fawr, rwyf fi’n rhy fach,

fy awr yn fer, fy her yn fawr,

a gwaith i gawr yn goeth ac iach.

Mae’r lle mor llaith, fy her yn faith,

wyf arth fy iaith, wyf wyrth fy ach,

a nod ‘y nhaith yw hel, un waith,

y siâr o saith o sêr i sach.

 

#8 Wedi archebu crys Tsiec

‘Mhrâ gornel, o syr, y deuaf

o hyd i ‘nghrys Tsiec?

Mae ysfa i’w wisgo arnaf –

o syr, rhowch im sbec!

 

Bydd rhaid i mi gymryd Plzen

Cans cynhyrfus wyf

‘Zlin i’m gogoneddus grys, ‘mond

Slumperk ora’r plwyf

 

‘Li’r berets draw ar y silff ‘na

– dyma’r Most-haf stail –

Yli Tom, Eric ac eraill

Â’u ffasiwn di-ffael

 

Ond un peth y chwennychaf i

– y cyfryw grys Tsiec –

Holaf eilwaith – o syr, ‘mhle ma’i? –

Atebai – dyma glec:

 

“Brnoch chi o ar-lein b’nawn ddoe

Mi fydd yma toc

Ond dros nos, delif’ri nid o’s,

A nid yw mewn stoc.”

 

O! Os trafaelio cyn hired

am frethyn cain, glân,

Tsieciwch delerau’r cludiant, neu

ewch Cheb grys na chân.

 

#7 Deisyf y bardd

I helpu dyn i ganu’n gaeth – gyrrwch

eich geiriau’n gynhaliaeth

neu neges o gefnogaeth!

 

#6 Noson Meic Agored y Glôb 26/09/13

Roeddem yno’r noson honno

Heb ofyn caniatâd

Na holi a oedd gennym hawl i fyw’n

Bywydau bach sydd cyn lleted â’r ddaear.

 

Dim ond codi canu a chodi hwyl,

A sgrech y gitârs yn

Bloeddio’n bodolaeth yng nghlustiau’r byd.

 

Siarad heb alarnadu,

A’i morio’i’n Gymraeg,

A byw fel Cymry –

Heb ymddiheuro i neb am hynny.

 

#5 1:19 a.m.

Na, nid oes sêr yn nyfnder nos,

ond ym mharhad y marwydos

teimlaf drwy’r smwclaw riddfannau distaw

rhyw hen wawr yn aros.

 

#4 David May

May I? – me’ai May – May I?

May I chwarae?

Mae – me’ai May – ‘mhen ôl

yn wresogydd i feinciau

‘Meiau – me’ai May – y maent

yn destun i lyfrau

Ond mae – me’ai May – Manceinion

f’angen, yn ddiamau

 

Fe wna’i – me’ai May – fe wna’i

godi cwpannau

Fe wna’i – me’ai May – fe wna’i

daro gwên yn y lluniau

Ond ‘run – me’ai May – yw’r ing

sy’n lewyg i’m coesau

O fod – me’ai May – ymhell

o arwr ar y caeau:

 

May I? – me’ai May – May I?

May I chwarae?

 

#3 Yn sydyn

Yn sydyn, mae’r noson wedi oeri,

A chic hanner nos rhwng coesau’r meddwl

Yn brifo,

 

Ac ofn na ddaw o unlle ddelwedd aur, i dorri

Ar fudandod llwyd y bora, ac y bydd

Syniadau’n dianc fesul gair,

A’r llythrennau i gyd yn farw

O fy mlaen, a finnau’n methu’n

Lân â chofio’u henwa.

 

A ffy yr awen i ganlyn gwawr

I rywle lle mae’n nos ar rywun arall,

A rhywun angen geiriau’n fwy na fi

I helpu rhywun i weld y gwir a’i ddeall?

 

’Dyw teyrngarwch yn golygu dim eiriau.

Gallant adael, a gadael angylion yn eu lle,

I ’nghysuro wrth imi obeithio

Y dôn nhw’n ôl o rywle.

 

#2 Y Llew Du

(cyn i’r bar gau, a chydag ymddiheuriadau i Eurig Salisbury)

 

Llew Du: lle da.

Hawddfyd, noddfa.

Ar werth: gwin rhad,

cwrw, cariad,

a haul eilwaith

yn nhŷ ein hiaith.

Yna, ynof,

yng nghaer fy nghof,

bydd, tra bo dau,

o hyd nodau’r

alaw ola’.

Llew Du: lle da.

 

#1 Eisiau cysgu..

 

Mae hi’n llawer rhu hwyr i fod yn barddoni,

mae’r aeliau yn drwm a’r llygadau yn llosgi.

Oes ‘na unrhyw un wir eisiau ‘nghlywed i’n mwydro?

Dwi’n meddwl yr ai nol i ‘ngwely i glwydo..