Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #47

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Morgan Owen
Her 100 Cerdd #47

Balaena mysticetus

 

A minnau’n marchogaeth mynydd o don

yng ngwddwg gwynt y gaeaf,

dyma glais yn yr ewyn

fel y tir yn ymwthio o’r dwfn:

poerodd y berw dros fwrdd y llong

a gwelais dalp o gnawd yn llyncu’r lli.

 

Morgan Owen, 22.59 pm

Uncategorized @cy