Dewislen
English
Cysylltwch

Cegin Tony: Lobsgows

Cyhoeddwyd Iau 1 Maw 2018 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cegin Tony: Lobsgows

Bob mis mae Tony Cannon, cogydd arbennig Tŷ Newydd, yn rhannu rysait gyda ni a gaiff ei gyhoeddi yng nghylchlythyr misol Tŷ Newydd. I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi heddiw, mae Tony’n coginio un o’n ffefrynnau – Lobsgows! Os y byddwch chi’n mentro coginio rysait Tony, rhannwch eich lluniau trwy ddefnyddio’r hashnod #CeginTony.

Anodd iawn yw canfod lobsgóws sy’n curo rysáit enwog eich nain neu’ch mam, ond mae lobsgóws Tony yn dod yn agos iawn i’r brig. Dyma’i rysáit enwog sydd wedi bwydo cannoedd o awduron, tiwtoriaid, beirdd a dramodwyr yma yn Nhŷ Newydd dros y blynyddoedd, heb anghofio 53 o gerddwyr llwglyd Cymdeithas Edward Llwyd….

Cynhwysion:
1kg o Gig Eidion, Cig Oen neu Seitan (dewis llysieuol / figan)
4 Taten fawr
4 Moronen fawr
3 Cenhinen
2 Nionyn mawr
1 Rwdan / Swêd / Meipen

Dull:
Browniwch y cig ac yna’i orchuddio mewn dŵr a’i ferwi am hanner awr. Does dim angen gwneud hyn os fyddwch chi’n defnyddio Seitan. Paratowch yr holl lysiau gan eu torri mewn tameidiau digon mawr, a’r tatws i chwarteri. Browniwch y nionod a’r cennin cyn eu hychwanegu at y cig. Ychwanegwch yr holl gynhwysion eraill a’u gorchuddio mewn stoc ysgafn. Berwch y gymysgedd tan fo’r cig yn frau a’r tatws yn meddalu. Ychwanegwch halen a phupur fel sydd ei angen (halen môn fydda i yn ei ddefnyddio).

I’w weini gyda:
Bresych coch, caws Caerffili wedi ei dorri’n sgwariau bach a bara ffres gyda menyn hallt.

Nodiadau:
Ychwanegwch mwy neu lai o datws fel y dymunwch. Mae Sgowsars yn dweud y dylech chi allu gosod llwy i sefyll yng nghanol crochan o lobsgóws. Er hynny, mae sgows traddodiadol yn fwy gwlyb na hynny.

Os ydych angen fersiwn llysieuol / figan heb glwten, newidiwch y Seitan am Ffa Menyn.

Pob lwc!

Tŷ Newydd