Dewislen
English
Cysylltwch

Gwobr Cogan ar gyfer Amrywiaeth mewn Llyfr Lluniau 2019

Cyhoeddwyd Mer 21 Tach 2018 - Gan Ruth Morgan
Gwobr Cogan ar gyfer Amrywiaeth mewn Llyfr Lluniau 2019

Fe gysylltodd Ruth Morgan, o Ysgol gynradd Cogan, Bro Morgannwg, â ni rai misoedd yn ôl er mwyn trafod prinder llyfrau darluniau plant sy’n cynrychioli’n deg, a sut i fynd i’r afael â hynny. Yn y blog hwn, mae Ruth yn egluro beth oedd y sbardun, sut lwyddodd hi i ffurfio Gwobr Cogan ar gyfer Amrywiaeth mewn Llyfr Lluniau. Am ragor o wybodaeth am wobr 2019, ewch i’w gwefan yma. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 10 Rhagfyr 2019.

 

Gwobr Cogan ar gyfer Amrywiaeth mewn Llyfr Lluniau 2019

Daeth ein Gwobr Cogan ar gyfer Amrywiaeth mewn Llyfr Lluniau i fodolaeth o blith nifer o syniadau, a hynny ar yr amser perffaith. Fel rhan o gwricwlwm newydd yr ysgol, ‘Llais’, sy’n cael ei arwain gan y disgyblion a Chydlynwyr ADY yr ysgol, fy nhasg i oedd hi eleni i arwain grŵp o bymtheg o ddisgyblion 7 – 11 oed ar thema amrywiaeth. Yn dilyn adborth cadarnhaol, nes i ddechrau amau fy hun os oeddwn i’n bod yn rhy fentrus yn ceisio trefnu ein gwobrau ein hunain. Ond, yn dilyn sgwrs â’n cydlynydd Saesneg, Michelle Owen, a’i chlywed hi’n dweud nad oedd rhai plant yn ei dosbarth hi erioed wedi gweld cymeriad oedd yn eu cynrychioli nhw mewn llyfr lluniau, ro’n i’n gwybod mod i’n gwneud y peth iawn. Ro’n i’n ymwybodol fod diffyg cynrychiolaeth wedi cael ei feirniadu’n ddiweddar gan y diwydiant cyhoeddi hefyd, felly pam lai? Pam na allem ni yma yn Cogan redeg gwobr genedlaethol ein hunain i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant?

Dechreuais drwy wneud galwadau ffôn i gyrff llenyddo, i roi gwybod ac i holi am unrhyw gymorth neu gyngor. Y cymorth mwyaf a gefais – a dal i dderbyn – oedd gan Bob Gelsthorpe, Cydlynydd Rhaglenni a Chyfathrebu gyda Llenyddiaeth Cymru a roddodd nifer o awgrymiadau defnyddiol i mi. Wedi hynny, bant â’r cart! Gofynnais i’r Gymdeithas Rhieni a Staff am £100 er mwyn prynu llyfrau i ddechrau’r rhestr hir a gyda chymorth ein siop lyfrau lleol ym Mhenarth, Griffin Books, dewiswyd deuddeg o deitlau.

Oni bai am ddolenni ar wefan yr ysgol a thudalen newyddion ar safle Llenyddiaeth Cymru, mae’r ymgyrch ei hun wedi digwydd gan fwyaf dros Twitter (@DiversityCogan).

Treuliais ran helaeth o’r gwyliau hanner tymor yn trydar yn ffyrnig ac anfon e-byst at gyhoeddwyr yn eu gwahodd i gyflwyno teitlau. Mae eu hymateb wedi bod yn rhyfeddol. Rydym wedi cael y llyfrau prydferth o bob lliw a llun ac ar hyn o bryd mae ein rhestr hir yn cynnwys 46 o deitlau. Ein prif dasg nawr yw i’r plant ddod yn gyfarwydd iawn â’r set hon o lyfrau, fel y gallant ddechrau’r broses beirniadu gan mai plant yw’r rhai sy’n pleidleisio yn y wobr hon. Byddwn yn cael rhestr fer ym mis Mawrth a seremoni wobrwyo ar gyfer yr awdur / darlunydd buddugol ym mis Mehefin.

Mae’r plant yn elwa cymaint o’r broses hon yn barod. Rydym yn darllen y llyfrau gyda chynifer o’r disgyblion ag sydd yn bosib, a hynny mewn gwasanaethau, amseroedd darllen dosbarth ac mewn clwb darllen dewisol, ond hynod boblogaidd, yn ystod amser cinio. Mae’r wobr yn sicr wedi cynyddu’r nifer o ddisgyblion sy’n darllen ar gyfer pleser ac yn dewis eu llyfrau eu hunain yn yr ysgol. Yn ogystal â mwynhau’r llyfrau er eu lles eu hunain, mae’r disgyblion hynaf wedi ymateb yn ffafriol i’r cyfrifoldeb o argymell llyfrau i ddisgyblion iau.

Mae’r plant wedi bod yn darparu dyfyniadau ar gyfer Twitter am y teitlau unigol, ac rydym ar hyn o bryd yn gofyn am ragor o adborth e,e apêl y cymeriadau, ansawdd y darluniau, eglurder y stori, sut fyddech chi’n hoffi’r llyfr hwn os oeddech chi’n debyg i un o’r cymeriadau? Mae’r disgyblion hefyd wedi bod yn adolygu’r llyfrau ar wefan adolygu llyfrau plant Toppsta. Gobeithio mai gwaddol y prosiect hwn fydd cynnydd yn nifer y disgyblion sydd yn ddarllenwyr brwd ac yn ystyried pa fath o lyfrau y maen nhw’n eu mwynhau, gan ei bod hi’n cymryd sbel i rywun ddysgu pa fath o lyfrau sy’n apelio atynt, ac o’m mhrofiad i, mae dod o hyd i’r llyfr cywir yn helpu cymhelliant darllen yn fawr iawn.

Rwy’n hynod o ffodus i weithio mewn ysgol sy’n fodlon rhoi cynnig ar rywbeth newydd, ac mae’n gwobr llyfrau yn sicr yn rhywbeth newydd. Rwy’n ffodus iawn hefyd o weithio mewn ysgol ble mae’r holl staff yn fodlon ymuno yn yr ymgyrch. Edrychwn ymlaen at flwyddyn gyffrous o ddarllen a thrafod llyfrau o bob lliw a llun, gyda phwyslais ar geisio gwneud y byd yn le tecach a chyhoeddi’r enillydd fis Mehefin nesaf.

 

Ruth Morgan, Cydlynydd ADY Ysgol Gynradd Cogan