Dewislen
English
Cysylltwch

Cyfle i ennill taleb Tŷ Newydd

Cyhoeddwyd Maw 25 Hyd 2016 - Gan Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

Mae Gillian Clarke a Carol Ann Duffy ill dwy yn ymwelwyr cyson â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, gan eu bod yn cyd-redeg Dosbarth Meistr Barddoniaeth yma bob blwyddyn. Ond yng ngaeaf 2015 daeth y ddwy yma i’r Ganolfan am encil. Y nod? Gorffen golygu’r gyfrol arbennig hon; The Map and The Clock.

Cyhoeddwyd y gyfrol ym mis Hydref 2016 ac mae’n ddathliad o rai o’r cerddi mwyaf arbennig a gyfansoddwyd yn nhiroedd Ynysoedd Prydain. Wedi eu cyflwyno gan y Bardd Llawryfog Carol Ann Duffy a chyn Fardd  Cenedlaethol Cymru Gillian Clarke, mae’r flodeugerdd hon yn casglu gweithiau o bob twll a chornel ac o bedair canrif ar ddeg. Gan gychwyn gydag ysgrifau cynnar o hen ieithoedd Cymru, Lloegr, Iwerddon a’r Alban a diweddu gyda gweithiau rhai o’n beirdd diweddar, mae’r antholeg hon yn pontio rhwng y gerdd ysgrifennedig gynharaf, ‘Caedmon’s Hymn’, i waith diweddar y bardd Zaffar Kunial.

Rhwng cloriau’r gyfrol hon cawn ddarllen am drasiedi rhyfeloedd Ewropeaidd a rhyfeloedd byd; profi cariad a chyfeillgarwch; archwilio cenedlaetholdeb a’r teimlad o berthyn, hunaniaeth a chred; a chawn ddathliad o’r amrywiaeth diwylliannol sydd ym marddoniaeth yr unfed ganrif ar hugain.

Mae The Map and The Clock yn gasgliad syfrdanol ac yn drysorfa angenrheidiol i’r holl gerddi sydd wedi siapio ein hieithoedd, wedi archwilio ein bydoedd ac wedi cerfio Ynysoedd Prydain dros y canrifoedd.

Dyma glip fideo byr yn sôn am rai o’r cerddi sydd yn ymddangos yn y gyfrol: https://www.youtube.com/watch?v=pyt68TftoiQ

gillian-clarke-use-this duffy-carol-ann-c-michael-j-woods-20101

I ddathlu lansiad y gyfrol, ac i gyd-fynd â Dosbarth Meistr yr Hydref, mae Tŷ Newydd yn cynnal cystadleuaeth i ennill copi o The Map and The Clock, a thaleb £50 i’w defnyddio tuag at unrhyw gwrs preswyl yn ein canolfan yn 2017*. Yr oll sydd angen i chi ei wneud ydi ateb y cwestiwn isod…

Beth yw’r gerdd ysgrifenedig gynharaf sy’n cael ei chynnwys yn The Map and The Clock?

Gyrrwch eich atebion draw at tynewydd@llenyddiaethcymru.org cyn hanner nos ar nos Sul 13 Tachwedd 2016 gyda’r gair ‘cystadleuaeth’ ym mhwnc yr ebost. Byddwn yn tynnu’r holl gynigion cywir allan o het, ac yn cysylltu gyda’r enillydd yr wythnos ganlynol.

* Nid yw’r daleb yn ddilys ar gyfer Dosbarthiadau Meistr, nag unrhyw gwrs sy’n costio llai na £220; ni ellir defnyddio’r daleb gydag unrhyw gynnig arbennig neu ostyngiad arall.

the-map-and-the-clock-cover

Tŷ Newydd