Gorau o’r Goreuon: Llenyddiaeth Cymru
Beth yw’r Gorau o’r Goreuon?
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn chwilio am hynny’n union. Am y llyfrau gorau o’r goreuon dros y blynyddoedd y byddai plant a phobl ifainc heddiw yn eu mwynhau a’u gwerthfawrogi. Ydyn nhw yn gyfrolau sydd wedi ennill Gwobr Tir na n-Og dros y blynyddoedd, neu’n rhywbeth hollol wahanol? Ydyn nhw’n storïau oesol neu’n stori sy’n cyfleu cyfnod yn arbennig o dda? Beth am ymuno yn yr hwyl, dewiswch eich hoff lyfrau i’w cyflwyno i blant a phobl ifanc heddiw?
Dyma gasgliad byr o hoff lyfrau plant a phobl ifainc staff Llenyddiaeth Cymru:
“Yn blentyn y 1970au roedd fy silff lyfrau’n llawn dop o gyfieithiadau clasuron Ewropeaidd: Asterix, Tintin, Pipi Hosan Hir, Y Crwt Emil, a’r Tywysog Bach. Gyferbyn â nhw roedd llyfrau hynod y brenin geiriau, T Llew Jones. Rwy wedi bod mewn cariad â barddoniaeth ers yn ferch fach, ac yn arfer credu taw cyfrol i blant oedd Dail Pren gan Waldo Williams. Fy ffefrynnau o’r cyfnod hwn oedd dwy drysorfa hardd o farddoniaeth: Drws Dychymyg, golygwyd gan Elinor Davies gyda darluniau seicadelig John Walters, a Gardd o Gerddi, sef detholiad o gerddi cynganeddol i blant. Ond i mi, oherwydd y lluniau llachar a’r dylunio hyfryd Drws Dychymyg yw’r #GorauOrGoreuon.” – Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr
“Roedd straeon yn rhan mawr o fy mywyd i pan oeddwn i’n blentyn, a rhai o fy atgofion cyntaf i yw clywed am hynt a helynt y Pry Bach Tew, Jaci Soch, Tomos Caradog, a Siencyn, a chymeriadau eraill Cyfres Darllen Stori Mary Vaughan Jones. Dwi’n grediniol eu bod nhw wedi bod yn allweddol wrth ddarlunio pethau megis empathi, cyfeillgarwch, a chariad i mi yn gynnar mewn bywyd mewn ffordd syml a hoffus. Dau lyfr arall sydd wedi gadael argraff arna’i yw Llyfr Mawr y Plant gan Jennie Thomas a J. O. Williams, a Lleuad yn Olau gan T. Llew Jones. Mi fuaswn i’n dychwelyd at y llyfrau yma dro ar ôl tro i gael fy swyno ac i gael fy nychryn, ac yn eu trysori hyd heddiw.” – Branwen Llewellyn, Pennaeth Cyfathrebu
“Dwy gyfrol aeth â’m bryd pan oeddwn yn hyfforddi fel llyfrgellydd (ifanc!) yn yr 80au oedd Congrinero gan David Meredith (Gomer) a Cadwgan y Llygoden o’r Lleuad gan Elwyn Ioan (Y Lolfa). Mae darluniau hyfryd Wil Rowlands yn portreadu Congrinero, yr arwr bychan â chalon fawr, yn hyfryd. Ac roedd hanes Cadwgan y Llygoden o’r Lleuad wedi glanio yng Nghymru fach, yn hudolus. Mae llawer o drafod ar hyn o bryd ynglŷn â phwysigrwydd bod plenty yn gallu uniaethu â chymeriadau sy’n debyg iddo/yntau. Mae llawn mor bwysig i blant a phobl ifanc ddarllen am gymeriadau yn y Gymraeg mewn straeon sydd wedi eu gwreiddio yng Nghymru. A hynny mewn cyfrolau lliwgar, deniadol, â llygedyn o ddireidi. Dwy gyfrol arbennig, yn ffrwyth llafur awduron, arlunwyr a gweisg cynhenid Cymreig. Hoffwn weld argraffiadau newydd o’r ddwy gyfrol hon, yn ogystal â llu o gyfrolau lluniau newydd.” – Petra Bennett, Rheolwr Datblygu Awduron
“Er nad stori wreiddiol T Llew yw hi, dwi’n cofio darllen ei fersiwn o chwedl Cantre’r Gwaelod yn un o’i lyfrau Llyfrau Darllen Newydd, a bod yn hollol obsessed gyda’r syniad bod ‘na dir wedi’i foddi oddi ar arfordir Ceredigion. Ond os rhaid dewis un llyfr, bydden i’n mynd am Dirgelwch yr Ogof. Fel crwt o Geredigion, lle mae’r llyfr wedi’i gosod, ro’n i’n teimlo fy mod yng nghanol y stori go iawn; roedd trip i’r traeth a chrwydro i mewn i’r ogofâu yn tanio’r dychymyg!” – Steffan Phillips, Swyddog Llenyddiaeth yn y Gymuned
“Sothach a Sglyfath gan Angharad Tomos ydi un o fy hoff lyfrau hyd heddiw. Does rûn llyfr arall wedi llwyddo i ymgartrefu yn fy nychymyg fel a wnaeth y llyfr hwn. Dwi’n dal i gael hunllefau am gael fy herwgipio i’r castell dychrynllyd hwnnw. Ond gan fy mod wedi ei ddarllen ganwaith – dwi hefyd yn cofio’r tric hud a lledrith fydd yn fy helpu i ddianc…” – Leusa Llewelyn, Pennaeth Tŷ Newydd
“Treuliais y rhan fwyaf o’m harddegau yn darllen ac ail-ddarllen Tydi Bywyd yn Boen gan Gwenno Hywyn, ac mae’r llyfr yn dal i roi gwen ar fy wyneb hyd heddiw. Mae anturiaethau ac anlwc Delyth Haf yn parhau i fod yr un mor ddoniol ac erioed. Mae’n rhaid hefyd pwysleisio pwysigrwydd Cyfres Darllen Stori Mary Vaughan Jones ar fy mhlentyndod, ac mae cymeriadau’r llyfrau yn cael eu hail-ddarganfod bellach gan fy merch fach wrth i ni ddarllen hanesion Sali Mali, y Pry Bach Tew a Tomos Caradog gyda’n gilydd. Maen nhw’n gymeriadau a llyfrau sy’n dal i ddod a gwen i’r wyneb bron i 50 mlynedd ar ôl eu cyhoeddiad cyntaf.” – Ceri Collins, Rheolwr Safle Tŷ Newydd
“Perlau Neli gan Marian Jones heb os, yw un o hoff lyfrau fy mhlentyndod. Mae’r lluniau yn dal yn fyw yn fy nghof i hyd heddiw, a dwi wrth fy modd yn darllen hanes Neli i blantos bach y teulu.” – Miriam Williams, Swyddog Marchnata a Rhaglennu Tŷ Newydd
“Yn bendant, fy hoff lyfr Cymraeg i ydi straeon Y Mabinogi. Maen nhw’n wych.” -Tony Cannon, Cydlynydd Arlwyo a Lletygarwch Tŷ Newydd
“Roedd yna fwrlwm o gyhoeddi nofelau gwreiddiol i blant yn ystod diwedd yr wythdegau, a dwi’n cofio mwynhau darllen llyfrau Cyfres Corryn fel Castell Norman a Loti: straeon doniol a drygionus wedi eu haddurno â lluniau gwych Jac Jones. Yna’n ddiweddarach ro’n i (fel llawer iawn o ferched ledled Cymru) yn mwynhau helyntion Delyth Haf yn Tydi Bywyd yn Boen. Llyfr tipyn yn hŷn oedd fy ffefryn fodd bynnag; ro’n i wedi etifeddu hen gopi fy modryb o Luned Bengoch ac roedd gwybod mai hwnnw oedd ei hoff lyfr hi a Mam pan roedden nhw’n blant yn ychwanegu at ei swyn. Ro’n i wrth fy modd yn darllen hanes yr arwres bengoch o Nant Gwrtheyrn ac rwy’n dal i gofio talpiau o’r testun. Ro’n i hefyd yn hoff iawn o wrando ar y tâp stori a gyhoeddwyd tua’r un pryd; byddai lleisiau Falmai Jones, Cefin Roberts a Dyfan Roberts yn fy sugno’n llwyr i antur Luned a Rhys yn chwilio am Owain Glyndŵr.” – Mared Roberts, Rheolwr Llenyddiaeth yn y Gymuned
“Llyfr Mawr y Plant aeth a’m bryd i pan oeddwn i’n blentyn. Dwi’n 60 mlwydd oed bellach ac mae’r copi a ges a fy chwiorydd pan o’n i’n 9 oed dal gennai. Dwi wedi lliwio rhai o’r lluniau a’r llythrennau ac wedi ysgrifennu pytiau o sgyrsiau fy hun at y rhai yn y llyfr! Mae ynddo straeon antur, posau o bob math, pytiau o ddramâu bychain, lluniau gafaelgar a chymeriadau lliwgar, cofiadwy fel Wil Cwac Cwac, a Sion Blewyn Coch. Mae’n drysor o lyfr.” – Gwen Lasarus James, Swyddog Cymunedol
“Dwi wedi dewis dau, sef Hwyl Llong Afon a Llong Afon Ahoi! gan Lucy Kincaid. Y darluniau sydd wedi aros yn fy meddwl i, yn hytrach na’r straeon. Rwy’n cofio’n glir y dyfrgi, yr hwyaid a’r cwch mawr glas, ac anrhefn newydd ar bob tudalen.” – Elan Rhys, Swyddog Prosiect Llên Pawb
Gallwch chithau hefyd ymuno yn y sgwrs trwy awgrymu teitlau ar y cyfryngau cymdeithasol. Cofiwch ddefnyddio’r hashnod #gorauorgoreuon.