Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #1: Y Dechreuad

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Beth Celyn

Y Dechreuad

Tasg epig, yn ôl pob sôn,
yw sgwennu 100 o gerddi,
felly dyma estyn pin a phapur
a mentro dechrau arni.

A phwy a ŵyr be ddaw o’r awr
yn awr neu am dri y bore,
yr unig beth a allwn ni wneud
yw barddoni a thrio ein gore.

– Beth Celyn, 1:13 pm

 

Her 100 Cerdd 2019