Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #10: Dyfrlliwiau

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Beth Celyn
Her 100 Cerdd #10: Dyfrlliwiau

Dyfrlliwiau

 

Does dim ots sut mae’r lliwiau’n gwaedu

wrth iddynt ledaenu dros y papur,

nac ychwaith sut maent yn sychu’n

grisp nes bod y papur yn crinclo.

 

Rhwng y lliwiau mae rhythm yr awen,

yr amen i greadigrwydd a agora

ddrysau i fydoedd newydd

lle pefria’r cysgodion â phosibilrwydd.

– Beth Celyn, 2:36 pm

 

 

Uncategorized @cy