Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #11: Y Bardd a’i Bastwn

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Matthew Tucker
Her 100 Cerdd #11: Y Bardd a’i Bastwn

Y bardd a’i bastwn

I Aneirin Karadog, wedi imi weld pastwn yn gorwedd ar fwrdd bwyta Tŷ Newydd

 

Clywaf guriadau’i gerddi’n
atseinio ym mlaen fy ngho’.
Gŵr yn rapio cynghanedd,
a glywaist dithau, do?

Bwra’i floedd hyd gorneli
pob stafell, a yw’n wir?
O Nei! Bydd fyth yn tewi,
dywedaf hynny’n glir!

– Matthew Tucker, 2:42 pm

Uncategorized @cy