Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #12: Em Brawd Now Bach Glo

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Matthew Tucker
Her 100 Cerdd #12: Em Brawd Now Bach Glo

Em Brawd Now Bach Glo
Yn ymateb i gais Caryl Bryn

 

I rai, rhyw nutter od yw hwn
rhwng cloriau hen nofel hurt!
Da chi, ‘drychwch tu hwnt
i’r hyn a welwch ac a ddarllenwch.

‘Styriwch ei sefyllfa,
un a anwybyddwyd trwy’i oes
trwy saga Parc y Defaid
ac a bennodd yn Seilam
yn gaeth i’w salwch,

nes dychwelodd yn arch ei angau
i ddagrau’r plwyf.

‘Styriwch, da chi!

– Matthew Tucker, 3:05 pm

Uncategorized @cy