Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #13: Y Garreg yn Pwdi

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Dyfan Lewis

Y Garreg yn Pwdi

Dyma gerdd yn ymateb i lun Emyr Young

 

O’r awyr ddath y garreg.

Syrthiodd dros nos cyn glanio

yn dwt ar dopiau’r bryn

bron yn dawel, bendant heb seremoni.

 

Nid dyma beth odd hi di disgwyl.

Y garreg, nawr.

Dodd hi ddim yn hapus iawn,

dodd na ddim unrhyw fath o groeso iddi,

na neb i ddweud helô, ar ôl teithio cyhyd

yn edrych yn ffab.

 

Ddath neb ati i’w chyfarch chwaith

a dyna lle’r odd hi’n delwi am byth

am rywun,

gan bwdi’n goch ar dopiau’r bryn.

– Dyfan Lewis, 3:17 pm

 

Her 100 Cerdd 2019