Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #14: Steil Cymru

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Elinor Wyn Reynolds

Steil Cymru

 

Whare teg, ma pob pilyn gan yr hen wlad ’ma’n edrych yn dda amdani.
Ar hyd waelodion llodrau’r de
mae’n ffito fel ffetan am goes ci,
yn fflapi a fflopi,
slapio’n llac o ynys Gwales hyd Lady Park Wood
milltiroedd ar filltiroedd o wyrdd a ffyrdd a phobl.
Ond yn y gogledd, mae pethe’n reit snyg
yn ddisaster peiriant golchi o dynn
siwmper a aeth drwy’r drin
a dod mas yn dipyn llai na’r disgwyl,
yn greigiau llwyd amhosibl a llethrau serth,
o Lanlleiana hyd Langollen,
ma popeth yn glos i’w gilydd,
o fewn cyrraedd cyffyrddiad ar ysgwydd.

Dyma hi, y Gymru fodern,
Drychwch arni,
yn ei dillad diweddara
mae’n gwisgo’r look du jour –
on trend ac yn hollol ffasiynol, siŵr.

– Elinor Wyn Reynolds, 3:25 pm

 

Her 100 Cerdd 2019